ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Plismona Gweithredol (Rhan amser) (BSc Anrh)

Dysgu o Bell
15 Mis Rhan Amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae’r BSc Plismona Gweithredol (Lefel 6 atodol) yn rhaglen wedi’i theilwra ar gyfer swyddogion heddlu profiadol sydd mewn swydd.

Mae’r cwrs Lefel 6 atodol, 15 mis hwn yn cynnig cyfle i swyddogion ennill cymhwyster academaidd cydnabyddedig, gan adeiladu ar eu profiad gweithredol helaeth a’u hyfforddiant proffesiynol.

Bydd ymgeiswyr cymwys wedi cwblhau cymwysterau allweddol yr heddlu, gan gynnwys y Rhaglen Proffesiynoli Ymchwilio (PIP) Lefel 1, wedi cyflawni Cymhwysedd Galwedigaethol Llawn, ac wedi ennill o leiaf dwy flynedd o brofiad ôl-brawf. Mae’r cymwysterau hyn, ochr yn ochr â’r dysgu seiliedig ar waith sylfaenol a phortffolio cymhwysedd galwedigaethol, yn cael eu cydnabod fel rhai sy’n cyfateb i Lefelau 4 a 5 gradd israddedig trwy  broses Cydnabod Dysgu Tystysgrifedig Blaenorol (RPCL). Mae hyn yn golygu y gall swyddogion ymuno yn uniongyrchol yn y flwyddyn olaf i gwblhau eu gradd.

Mae’r rhaglen hon yn cyd-fynd ag uchelgais y Coleg Plismona i ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus i swyddogion a ymunodd â’r heddlu cyn cyflwyno gofynion gradd yn 2019. Cafodd ei datblygu mewn partneriaeth â heddluoedd Cymru, gan sicrhau bod y cwricwlwm yn diwallu anghenion plismona modern.

Wedi’i chyflwyno trwy fodel dysgu o bell hyblyg, mae’r rhaglen yn caniatáu i swyddogion gydbwyso astudio â’u rolau heriol. Mae’r radd hon yn agored i swyddogion ar draws pob un o’r 42 llu yng Nghymru a Lloegr ac mae’n darparu llwybr academaidd hanfodol i swyddogion wella eu sgiliau, cyd-fynd â gofynion esblygol y proffesiwn, a chyflawni cymhwyster achrededig sy’n cydnabod eu cyfraniadau gwerthfawr i blismona.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
15 Mis Rhan Amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae'r radd atodol Lefel 6 hon yn rhoi cyfle i swyddogion heddlu profiadol sy'n gwasanaethu ennill cymhwyster academaidd cydnabyddedig, gan adeiladu ar eu profiad gweithredol helaeth a'u hyfforddiant proffesiynol.
02
Bydd strategaethau dysgu sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn cael eu defnyddio drwy gydol y rhaglen.
03
Mae'r Brifysgol yn cydweithio â Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs yn cynnwys tri modwl Lefel 6 40 credyd. Mae dau o’r modylau yn rhai dysgu seiliedig ar waith, sy’n caniatáu i swyddogion adfyfyrio’n feirniadol ar eu sgiliau, profiadau ac arfer plismona gweithredol.  Bydd y trydydd modwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddod â’r sgiliau academaidd a enillwyd yn ystod y rhaglen at ei gilydd trwy ymgymryd ag ymchwil mewn maes plismona gweithredol o’u dewis lle mae ganddynt ddiddordeb proffesiynol a phersonol.

Plismona Gweithredol Proffesiynol

(40 credydau)

Plismona Gweithredol yn y gweithle

(40 credyd)

Prosiect Plismona Gweithredol

(40 credyd)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 80 pwynt UCAS neu gyfwerth. 

  • Mae’r asesiadau wedi’u cynllunio ar y cyd gan dîm y rhaglen, i sicrhau eu bod yn ffurfio cyfanwaith cydlynol ac yn bodloni gofynion cwricwlwm Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF) y Coleg Plismona ar gyfer y radd Plismona Proffesiynol Cyn Ymuno.

    Prif bwrpas y cynllun asesu yw galluogi myfyrwyr i ddangos yn unigol eu bod wedi bodloni nodau’r rhaglenni ac wedi cyflawni’r deilliannau dysgu i’r safon sy’n ofynnol ar gyfer lefel yr astudiaeth.  Bydd asesu hefyd yn cael ei ddefnyddio i roi adborth i fyfyrwyr i’w cynorthwyo gyda dysgu dilynol. 

    Bydd pob modiwl yn cael ei asesu’n grynodol drwy amrywiaeth o dasgau asesu unigol ond defnyddir dulliau ffurfiannol hefyd. Cynhelir asesiad ffurfiannol trwy ymarferion ymarferol sy’n cael eu cynnal a’u trafod yn y dosbarth, chwarae rôl, trafodaethau, cyflwyniadau gan fyfyrwyr a’r sesiynau sydd wedi’u neilltuo i adolygu’r arholiadau ar ôl iddynt gael eu marcio.

    Bydd amrywiaeth o ddulliau asesu crynodol yn cael eu defnyddio. Defnyddir arholiadau yn bennaf (ond nid yn unig) i brofi gwybodaeth a dealltwriaeth.

    Mae gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol hefyd yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth, ond maen nhw’n dueddol o ganolbwyntio mwy ar ddatblygu sgiliau gwybyddol, ymarferol ac allweddol. Mae dulliau o’r fath yn hynod briodol i natur y ddisgyblaeth blismona gan eu bod yn hwyluso asesu ac arfer dilys sy’n berthnasol i’r gweithle. Bydd gwaith cwrs a gwaith ymarferol yn cael eu gosod mewn amrywiaeth o ffurfiau; mae’r rhain yn cynnwys:

    • Traethodau
    • Adroddiadau
    • Portffolios
    • Prosiectau Ymchwil
    • Cyflwyniadau.
  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu gwerslyfrau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Annibynnol, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Fel darparwr cymeradwy, bydd heddluoedd yn gallu cydnabod y radd fel un sy’n addas i’r diben a bydd hynny o blaid y myfyrwyr wrth iddynt wrth wneud cais.

    Mae’r Brifysgol yn cydweithio â Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Yn hanesyddol, mae nifer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio gyda’r heddluoedd hyn oherwydd y cysylltiadau sydd wedi’u gwneud. O ganlyniad i’r cydweithio hwn, mae nifer o hyfforddwyr yr heddlu yn gweithio gyda’r tîm i gyflwyno arfer proffesiynol ychwanegol a darparu sesiynau ymarferol HYDRA i’r myfyrwyr.

    Mae’r rhaglen heddlu gwirfoddol sydd wedi’i chynnal rhwng PCYDDS a Heddlu De Cymru ers 2012 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr o blismona ymarferol sydd hefyd yn gwella eu cyfleoedd wrth gamu ymlaen.