Clirio 2024
Cofrestru Eich Diddordeb yn y System Glirio
Mae’r Broses Glirio yn llawn Cyfleoedd.
Mae’r cyfnod clirio yn adeg gyffrous pan fo digonedd o gyfleoedd ar gael i chi. Efallai eich bod wedi gwneud penderfyniad hwyr i fynd i’r brifysgol, wedi newid eich meddwl am eich pwnc, neu ddim wedi cael y canlyniadau yr oeddech chi’n eu disgwyl; os felly, mae gan y system Glirio ystod eang o gyrsiau i’ch ysbrydoli.
Efallai eich bod ar fin gadael y coleg neu’r chweched dosbarth, neu wedi penderfynu ei bod yn hen bryd i chi newid gyrfa a dychwelyd i fyd addysg. Defnyddiwch y System Glirio i weld beth sydd ar gael i chi ac i gadw lle ar un o’n cyrsiau.
Main Body
Pam eich bod chi’n ystyried defnyddio’r System Glirio?
Ar ôl i chi gael eich canlyniadau, os nad ydych wedi bodloni gofynion naill ai eich dewisiadau cadarn nac wrth gefn gallwch wneud cais trwy’r System Glirio.
-
Edrychwch ar ein cyrsiau i weld pa rai sydd o ddiddordeb i chi.
-
Ffoniwch y llinell gymorth bwrpasol ar gyfer Clirio neu llenwch ffurflen ymholiadau Clirio.
-
Trafodwch pa opsiynau sydd ar gael i chi gyda’n tîm cyfeillgar a chefnogol.
-
Sicrhewch eich lle trwy dderbyn eich cynnig clirio yn eich cyfrif UCAS.
Os ydych wedi cael eich canlyniadau ond bod eich amgylchiadau personol chi wedi newid a’ch bod yn ailystyried eich dewis o brifysgol, gall y system Glirio fod yn gyfle i chi ganfod rhywle sy’n eich gweddu chi.
-
Dechreuwch chwilio am gyrsiau cyn gynted ag y gallwch chi.
-
Gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni gofynion mynediad y cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi.
-
Cysylltwch â’n llinell gymorth Clirio i gael cyngor ar sut i drosglwyddo o un sefydliad i’r llall a derbyn cynigion newydd.
-
Ar ôl i chi benderfynu ar gwrs newydd, gallwch ryddhau eich hun o’ch sefydliad presennol drwy UCAS a derbyn eich cynnig newydd gyda ni.
Os ydych chi wedi cael eich canlyniadau ac yn awyddus i fynd i’r brifysgol ond ddim wneud cais UCAS, dydy hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i ymuno â ni trwy’r system Glirio.
-
Gofynnwch am wybodaeth a chyngor gan ein llinell gymorth Clirio.
-
Cwblhewch gais UCAS
-
Unwaith y byddwch wedi sicrhau eich lle bydd ein timau arbennig yn eich cefnogi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Os ydych eisiau dychwelyd i fyd addysg a dechrau cwrs prifysgol, ond ddim wedi sefyll unrhyw arholiadau yn ddiweddar, gall y system Glirio eich helpu chi hefyd.
1. Cysylltwch â’n llinell gymorth Clirio i drafod y cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi a’ch dyheadau o ran eich gyrfa.
2. Dewiswch gwrs ac gwnewch gais i ni.
3. Byddwch yn cael pob cefnogaeth gan ein tîm arbennig wrth i chi baratoi i ddychwelyd i fyd addysg.