ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Chloe Griffiths, a raddiodd yn ddiweddar o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi trosglwyddo’n llwyddiannus o yrfa ym maes cyfrifyddu i rôl lewyrchus yn y diwydiant digwyddiadau.  Mae Chloe, sydd newydd gwblhau ei gradd mewn Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol , yn adfyfyrio ar ei thaith a’r profiad trawsffurfiol a’i harweiniodd at swydd barhaol yn Gydlynydd Cynhyrchu gyda Limitless, digwyddiad ymgynnull blynyddol bywiog yn yr haf i bobl ifanc, sy’n ymwneud â chymuned, cysylltu a newid. 

A happy, smiling graduate standing proudly, dressed in her cap and gown at graduation..

Dechreuodd diddordeb Chloe yn y diwydiant digwyddiadau drwy wirfoddoli mewn amryw o wyliau a digwyddiadau.  Ar ôl cwblhau Safon Uwch, treuliodd bum mlynedd yn gweithio ym maes cyfrifyddu.  Fodd bynnag, yn fuan sylweddolodd y gallai’i sgiliau mewn cyfrifyddu ategu’i brwdfrydedd am reoli digwyddiadau.  Fe’i harweiniwyd gan hyn i archwilio gwahanol gyrsiau digwyddiadau, gan ddod o hyd yn y pen draw i’r rhaglen berffaith yn PCYDDS. 

“Dewisais PCYDDS am fod y radd Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn cynnig cwricwlwm cynhwysfawr gyda chymwysiadau ymarferol,” esboniodd Chloe.  “Byddai’r cwrs yn helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth, sgiliau, a dealltwriaeth, a darparai gyfleoedd am leoliadau gwaith a theithio dramor.  Roedd y cyfle i aros yn Abertawe am f’astudiaethau yn fonws ychwanegol!”

Roedd nodau Chloe yn eglur o’r cychwyn cyntaf. Ei nod oedd meithrin hyder, gwella’i galluoedd i ddatrys problemau, a chael profiad ymarferol mewn cynllunio strategol a gweithredol. 

 “F’uchelgais oedd dod yn rheolwr digwyddiadau dibynadwy a medrus, rhywun y gallai tîm digwyddiadau ddibynnu arno,” meddai Chloe. “Rhoddodd y cwrs y wybodaeth ehangach a’r profiad yr oedd eu hangen arnaf i ddilyn yr yrfa hon.” 

Gydol ei thair blynedd yn PCYDDS, profai Chloe nifer o uchafbwyntiau, yn cynnwys teithiau rhyngwladol i’r Swistir a Canada i astudio’u seilwaith digwyddiadau.  “Roedd y profiadau hyn yn fythgofiadwy,” meddai.  “Rhoddon nhw ddealltwriaeth amhrisiadwy i mi am sut mae gwahanol ddiwydiannau’n cydweithio ar gyfer digwyddiadau.”

Hefyd cafodd Chloe gyfle i drefnu Cynhadledd ac Arddangosfa Future You gan y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth yn Arena Abertawe.  Bu’r profiad hwn yn gyfle iddi gymhwyso damcaniaethau a ddysgodd mewn darlithoedd  i senarios o fywyd go iawn, meithrin cysylltiadau, a chael profiad uniongyrchol mewn rheoli digwyddiadau. 

Yn ystod ei gradd, sicrhaodd Chloe swydd gyda Limitless, ble gweithiai ar baratoi, cynllunio, a gweithredu eu gŵyl haf a chynadleddau.  “Roedd y profiad hwn yn ategu f’astudiaethau’n berffaith gan ddatblygu fy ngwybodaeth a sgiliau ym maes digwyddiadau ymhellach,” ychwanegodd. 

Yn debyg i lawer o fyfyrwyr, wynebai Chloe heriau yn ystod ei hastudiaethau, yn enwedig fel myfyriwr aeddfed roedd yn ansicr sut byddai’n ffitio i mewn.  Fodd bynnag, gyda chymorth ei darlithwyr, a Jacqui Jones yn arbennig, goresgynnodd y rhwystrau hyn yn fuan.  “Roedd Jacqui yno bob amser i wrando a chynnig cyngor, ac roedd dysgu drwy’i phrofiad hi’n fuddiol dros ben,” meddai. 

Gan adfyfyrio ar ei hamser yn PCYDDS, mae Chloe yn argymell y cwrs yn fawr i bobl eraill.  “Mae elfennau ymarferol y cwrs, yn cynnwys lleoliadau gwaith a rhedeg dy ddigwyddiad dy hun, yn fuddiol iawn.  Bu’r profiadau hyn yn help i mi symud yn ddidrafferth i mewn i drefnu digwyddiadau yn y gweithle.” 

Mae astudiaethau Chloe eisoes wedi talu ar eu canfed, yn broffesiynol ac yn bersonol.  “Mae’r cwrs wedi meithrin fy ngwybodaeth am y diwydiant digwyddiadau a rhoi hwb i fy hyder.  Bellach rwy’n gallu trosglwyddo fy sgiliau i mewn i fy swydd, ac rwy’n teimlo’n barod i gymhwyso beth rwyf wedi’i ddysgu i wahanol sefyllfaoedd,” meddai. 

Mae Chloe nawr wedi sicrhau rôl barhaol gyda Limitless fel eu Cydlynydd Cynhyrchu.  Yn ddiweddar dychwelodd o weithio yng Ngŵyl Limitless 2024, gyda mwy na 5,000 o bobl yn bresennol.  “Mae bod yn rhan o’r tîm hwn yn rhoi cyffro mawr i mi, a chael y cyfle i barhau i weithio ar ddigwyddiadau sy’n cael cymaint o effaith,” meddai. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon