Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae ein gradd Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn cynnig cymysgedd o ddysgu academaidd a phrofiad ymarferol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a pharatoi ar gyfer gyrfa mewn digwyddiadau.
Mae’r rhaglen hon yn darparu cyfleoedd i feithrin eich gwybodaeth a gwella eich doniau proffesiynol. Byddwch yn dysgu am Wyliau, Digwyddiadau Chwaraeon, Cyfarfodydd, Cynadleddau a Phriodasau. Nod ein cwrs yw gwella eich dealltwriaeth reolaethol a’ch helpu i weithio’n greadigol ac yn arloesol.
Byddwch yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan gynnwys effeithiau Digwyddiadau a Gwyliau a’u gwaddol. Byddwch hefyd yn dysgu am ymgysylltu â rhanddeiliaid, gweithrediadau digwyddiadau, cynllunio gwaddol, cwmpasu, ariannu a marchnata. Bydd hyn yn eich galluogi i reoli digwyddiadau yn effeithiol a deall y diwydiant digwyddiadau byd-eang, ei strategaethau a chyrchfannau. Byddwch hefyd yn astudio materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd.
Mae ein cwrs yn 100% gwaith cwrs, heb unrhyw arholiadau. Mae hyn yn cynnwys asesiadau diwydiant arloesol ac asesiadau yn seiliedig ar ddigwyddiadau. Mae’r dull hwn yn sicrhau eich bod yn cael profiad uniongyrchol mewn meysydd fel llwyfannu a chynhyrchu digwyddiadau, marchnata a hyrwyddo digwyddiadau, rheoli prosiectau, diogelwch a thrwyddedu a rheolaeth strategol.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi eich paratoi’n dda ar gyfer gyrfa mewn Rheolaeth Digwyddiadau. Byddwch hefyd yn deall cyllid digwyddiadau ac yn barod i wneud gwahaniaeth mewn economïau lleol a digwyddiadau cymunedol. Bydd y sgiliau a’r wybodaeth a gewch yn eich helpu i lwyddo i reoli gwahanol fathau o ddigwyddiadau.
Mae’r radd hon yn berffaith i’r rhai sy’n angerddol am ddigwyddiadau ac yn awyddus i adeiladu gyrfa yn y maes cyffrous hwn.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae digwyddiadau a gwyliau yn chwarae rhan allweddol wrth ysgogi datblygiad economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol ar gyfer dinasoedd a chyrchfannau. Mae galw mawr am raddedigion ym maes digwyddiadau.
Mae ein cwrs yn sicrhau eich bod yn deall strwythur a swyddogaethau’r diwydiant, gan gynnwys pwysigrwydd lletygarwch a gwasanaeth gwesteion. Rydym yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol, cysylltiadau â diwydiant, a datblygu eich sgiliau creadigol a rheoli, a phwysigrwydd marchnata a chyfryngau cymdeithasol yn y sector digwyddiadau.
Wrth i’r rhaglen fynd rhagddi, bydd myfyrwyr yn rhoi damcaniaethau academaidd ar waith ar gyfer astudiaethau achos bywyd go iawn. Mae hyn yn cynnwys cynllunio a rheoli digwyddiadau byw, a datblygu gwybodaeth am reoli’n weithredol trwy ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, ymweliadau â digwyddiadau y tu ôl i’r llenni, lleoliadau gwaith â thâl, a chyfleoedd i wirfoddoli.
Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu dealltwriaeth strategol ac arbenigeddau ym maes Digwyddiadau Chwaraeon, Gwyliau, Cyfarfodydd, Cymhellion, Confensiynau, Priodasau a Gwleddoedd.
Lle bo’n bosibl, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau, digwyddiadau, a phrofiadau addysgol yn y DU a thramor sy’n cefnogi dysgu academaidd a gwerthfawrogiad o ddiwydiant*.
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gwrdd ag arweinwyr diwydiant byd-eang a graddedigion yn rhithiol i drafod materion cyfoes a chymryd rhan mewn ymweliadau y tu ôl i’r llenni â diwydiant, yn ddigidol neu’n bersonol.
Trwy eu hastudiaethau, lleoliadau a gweithgareddau allgyrsiol, gall myfyrwyr ennill cymwysterau ychwanegol sy’n seiliedig ar ddiwydiant. Gall hyn gynnwys amrywiaeth o gyfleoedd i gael cymwysterau ardystiedig gan ABTA a Travel Trade, Hyfforddiant Gwin gan WSET* (* gallai fod tâl ychwanegol am yr hyfforddiant yma) a chael amrywiaeth o brofiadau Digwyddiadau. Mae’r Drindod Dewi Sant hefyd yn un o Bartneriaid Addysg ABTA, un o Bartneriaid Addysg y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth ac mae’r myfyrwyr yn aelodau o’r Sefydliad Lletygarwch.
*gall hyn olygu costau ychwanegol
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio hanfodion Rheolaeth Digwyddiadau, gan gynnwys egwyddorion lletygarwch, twristiaeth ac effeithiau digwyddiadau ar economïau lleol. Byddwch yn meithrin sgiliau rhagarweiniol mewn gweithrediadau digwyddiadau, marchnata a rheoli prosiectau, gan osod y sylfaen ar gyfer eich astudiaethau.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credyd)
(20 Credyd)
Mae’r ail flwyddyn yn edrych yn ddyfnach ar farchnata a hyrwyddo digwyddiadau, llwyfannu a chynhyrchu digwyddiadau, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Byddwch yn ffocysu ar ddatblygu profiad o ddigwyddiadau proffesiynol a sgiliau rheoli gweithredol, gan gyfoethogi eich dealltwriaeth o gyd-destun ehangach y diwydiant. Bydd aseiniadau ymarferol yn datblygu eich gallu i gynllunio a gweithredu digwyddiadau.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credyd)
(20 Credyd)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau datblygedig fel cynllunio gwaddol, ariannu a chyllid digwyddiadau. Byddwch yn rhoi eich dysgu ar waith mewn prosiectau byd go iawn, gan gael profiad mewn diogelwch a thrwyddedu, a digwyddiadau cymunedol. Mae’r flwyddyn hon yn eich paratoi ar gyfer rôl broffesiynol yn y sector digwyddiadau, gan bwysleisio arloesedd a chreadigrwydd.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
88 o Bwyntiau UCAS (BA) | 44 o Bwyntiau UCAS (TystDip) | 36 o Bwyntiau UCAS (TystAU)
Derbynnir cymwysterau cyfwerth eraill a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth ystod lawn eich sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.
Mae croeso i ymgeiswyr sydd wedi astudio busnes gynt wneud cais, fel cam nesaf naturiol ymlaen. Bydd y rheini sydd wedi astudio pynciau eraill yn trosglwyddo’n dda. Gall y rheini sydd â phrofiad gwaith, ond heb fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, UE a chyrff rhyngwladol.
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
-
Caiff y rhaglen ei hasesu trwy gyfuniad strwythuredig o asesiadau ymarferol, digwyddiadau, lleoliadau, astudiaethau achos, archwiliadau, ymarferion hyfforddi, adroddiadau rheoli, cyflwyniadau, traethodau, adolygiadau digwyddiadau, DVD/fideos, flogiau/blogiau, astudiaethau dichonoldeb, prosiectau, cyflwyniadau cynnig a’r cyfle i gynllunio, trefnu ac asesu teithiau digwyddiadau a phrofiadau.
Ble bynnag y bo modd, llunnir asesiadau i ddatblygu sgiliau proffesiynol yn ogystal â datblygu meddwl beirniadol, arweinyddiaeth, rheolaeth digwyddiadau, gwasanaeth gwesteion a gwaith tîm wrth baratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y digwyddiadau. NI fydd arholiadau ar y cwrs hwn.
-
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sy’n angenrheidiol i fyfyrwyr ymgymryd â’u modylau.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yn cael costau ychwanegol yn gysylltiedig â theithiau maes. O flwyddyn i flwyddyn mae’r costau hyn yn amrywio o £25 ar lefel 4, i £500 ar lefel 5 a hyd at £1,000 ar lefel 6, fodd bynnag mae’r rhain i gyd â chymhorthdal.
Mae teithiau maes preswyl yn ddewisol a gall y costau amrywio ond maent yn debygol o fod oddeutu £150 ar gyfer Teithiau Preswyl yn y DU, £500 ar gyfer Teithiau Ewropeaidd a £1,000 ar gyfer Teithiau Byd-eang. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael cyfle, pan fydd ar gael, i wneud cais am gyllid Taith i gynorthwyo gyda Theithiau a Lleoliadau Rhyngwladol hwy.
-
Mae bwrsarïau datblygu gyrfa hyd at £1,000 ar gael i fyfyrwyr i gefnogi lleoliadau, interniaethau a gwirfoddoli mewn digwyddiadau. Efallai y bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am y Prosiect Darganfod er cefnogi Symudedd Rhyngwladol i gefnogi Profiadau Lleoliadau Rhyngwladol byr.
Ewch i’n hadran Scholarships and Bursaries i ddysgu rhagor.
-
- Rheolwr Digwyddiadau
- Cyfarwyddwr Digwyddiadau
- Rheolwr Gwyliau
- Diogelwch Digwyddiadau
- Rheolwr Marchnata
- Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus
- Rheolwr Digwyddiadau a Lleoliadau Chwaraeon
- Rheolwr Prosiectau
- Cydlynydd Priodasau
- Trefnydd Cynadleddau Proffesiynol
Mae digwyddiadau a gwyliau yn chwarae rôl allweddol wrth yrru datblygiad economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol dinasoedd a chyrchfannau. Mae galw mawr am raddedigion digwyddiadau.