Profiad PCYDDS Kayleigh Phillips
Fy enw i yw Kayleigh Phillips, myfyriwr rhan-amser ydw i, ac rwy’n astudio BSc Seicoleg a Chwnsela ac rwy’n dychwelyd i astudio ar ôl gadael addysg uwch yn 21 oed. Mae maes Seicoleg wedi bod o ddiddordeb mawr i mi erioed a’m nod i yw astudio PhD ym maes Clinigol neu Iechyd.
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Kayleigh Phillips
Rhaglen: BSc Seicoleg a Chwnsela
Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch A-C mewn Seicoleg, Troseddeg, Celfyddyd Gain, TGCh a Bagloriaeth Cymru. Tystysgrif Addysg Uwch mewn Seicoleg a Throseddeg.
Tref eich Cartref: Abertawe
Kayleigh's Programme Name Experience
Profiad Seicoleg a Chwnsela Kayleigh
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Mae seicoleg wedi bod yn angerdd i mi erioed, yn ogystal â gallu cydbwyso fy astudiaethau rhwng gweithio a fy nheulu. Mae’r gefnogaeth o ran iechyd myfyrwyr yn wych yma yn PCYDDS ac mae’r tîm Lles a Gwasanaethau Myfyrwyr/Cymorth yn hynod o ddefnyddiol ac yn barod i weithio gyda chi i ddod o hyd i’r llwybrau cymorth gorau.
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Y tu allan i fy astudiaethau rwy’n mwynhau darllen, mynd am dro ar hyd arfordiroedd Abertawe, ac rwy’n cynnal gweithgareddau cymdeithasol amrywiol gyda’r Gymdeithas Seicoleg ar gyfer myfyrwyr eraill. Rwyf hefyd yn caru celf ac yn meddwl ei fod yn arf gwych ar gyfer lles a mwynhad.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Mae PCYDDS bob amser wedi trafod pwysigrwydd manteisio ar gyfleoedd pan fyddant yn cyflwyno eu hunain. Mae manteisio ar y cyfleoedd a hysbysebwyd gan yr adran wedi fy ngalluogi i ddod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr ar gyfer y cwrs, yn Llysgennad Myfyrwyr i PCYDDS ar gyfer Cymdeithas Seicolegol Prydain sydd wedi rhoi’r cyfle i mi wneud cysylltiadau rhagorol yn broffesiynol, mynychu cynadleddau a mwy. Trwy eu modiwl lleoliad bûm hefyd yn ddigon ffodus i wirfoddoli o fewn elusen yr wyf bellach yn cael fy nghyflogi fel Swyddog Prosiect sy’n caniatáu ar gyfer cysylltiadau proffesiynol mewn ymchwil trydydd sector o amgylch fy maes diddordeb mewn Seicoleg. Bydd yr holl gyfleoedd hyn yn helpu i ddatblygu fy ngyrfa ac yn fy ngalluogi i gyflawni fy nod i astudio PhD ym maes Clinigol neu Iechyd.
Beth oedd eich hoff beth am Seicoleg a Chwnsela?
Byddwn yn dweud yr amgylchedd dysgu a phrofiad. Mae’r garfan a’r adran yn llai, sy’n caniatáu ymgysylltu gwell. Gallwch gael eich adnabod fel unigolyn ac nid dim ond rhif arall mewn ystafell. Rwy’n credu bod datblygu perthnasoedd proffesiynol gydag aelodau’r adran a chael eu cefnogaeth wedi cyfrannu’n helaeth at fy mherfformiad academaidd.
A fyddech yn argymell PCYDDS a pham?
Heb os nac oni bai, byddwn i’n argymell PCYDDS. Mae’r broses ddysgu wedi bod yn wych, mae’r cwrs yn ddiddorol, ac mae’r holl staff academaidd wedi bod yn gefnogol bob cam o’r ffordd. Rwy hefyd wedi gwneud cysylltiadau gydol oes a ffrindiau yn ystod fy amser yma y bydda i’n ddiolchgar amdano am byth. Mae cymaint o gyfleoedd ar gael drwy’r brifysgol a chymaint o gymorth ar gael. Mae fy mhrofiad i wedi bod yn ddim llai nag anhygoel.
Beth yw eich hoff beth am Gampws Abertawe?
Byddwn yn dweud yr amgylchedd dysgu a phrofiad. Mae’r garfan a’r adran yn llai, sy’n caniatáu ymgysylltu gwell. Gallwch gael eich adnabod fel unigolyn ac nid dim ond rhif arall mewn ystafell. Rwy’n credu bod datblygu perthnasoedd proffesiynol gydag aelodau’r adran a chael eu cefnogaeth wedi cyfrannu’n helaeth at fy mherfformiad academaidd.