Rhaglen Noson Agored
Cyfle i eistedd a thrafod eich opsiynau
Cyfle i eistedd a thrafod eich opsiynau
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i un o’n campysau. I lawer o bobl sy’n gweithio ac yn cydbwyso teulu ac ymrwymiadau eraill, gall Noson Agored fod yn gyfle perffaith i gipio cwpl o oriau a thrafod pa gyfleoedd dysgu sydd ar gael iddynt. Rydym yn ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i bawb allu cael mynediad i’n cyrsiau sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfa, a chaiff ein hymagwedd hyblyg at ddysgu ac addysgu ei hadlewyrchu yn y ffordd rydym yn eich galluogi i ddysgu beth sydd arnoch angen ei wybod am eich cwrs.
Gwneud yn Fawr o Noson Agored
Gwneud yn Fawr o Noson Agored
Mae Noson Agored yn llai strwythuredig ac yn dawelach na Diwrnod Agored, mae’n gyfle am sgwrs 1 i 1 gyda’r tîm academaidd, myfyrwyr presennol a gwasanaethau cymorth myfyrwyr.
Pobl i Siarad gyda Nhw
Yn y diwrnod agored, fel arfer, bydd y timau a ganlyn ar gael i ateb eich cwestiynau:
-
Timau Dysgu ac Addysgu
-
Myfyrwyr Presennol
-
Llety
-
Cyllid Myfyrwyr
-
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
-
°Õî³¾&²Ô²ú²õ±è;³¢±ô±ð²õ¾±²¹²Ô³Ù&²Ô²ú²õ±è;
-
Cyfleoedd Byd-eang
-
Tîm Cymorth Anabledd
-
Gwasanaeth Gyrfaoedd
-
Undeb y Myfyrwyr
-
Cymorth Dysgu
Dolennau Defnyddiol
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Teithio i Ddiwrnod Agored neu Noson Agored
Mae mynychu Diwrnod Agored neu Noson Agored gyda ni yn hawdd, sut bynnag rydych chi’n bwriadu teithio. Mae cysylltiadau da i’n campysau mewn car, ar drên, bws neu feic, gan wneud eich taith yn syml.