Beth yw Diwrnod Agored?
Beth yw Diwrnod Agored?
Mae Diwrnod Agored yn gyfle i archwilio’r brifysgol, cwrdd â myfyrwyr presennol, a dysgu am y cyrsiau sydd gennym. Hefyd, cewch gyfle i siarad yn uniongyrchol gyda’r staff addysgu. Mae’r profiad hwn yn bwysig wrth benderfynu ble i astudio a beth i’w astudio. Nid oes uchafswm o ran faint o Ddiwrnodau Agored y cewch eu mynychu, felly mae croeso i chi ymweld â chymaint ag y mynnwch. Cadwch le ar Ddiwrnod Agored i ddechrau cynllunio eich dyfodol.
Atebion i’ch cwestiynau am Ddiwrnodau Agored
Atebion i’ch cwestiynau am Ddiwrnodau Agored
-
Mae Diwrnod Agored yn ddigwyddiad mwy lle bydd sgyrsiau wedi’u trefnu sy’n eich cyflwyno i’r brifysgol, ei chyrsiau, a’i gwasanaethau cymorth. Mewn cyferbyniad, mae Noson Agored yn ddigwyddiad llai a byrrach sy’n ffocysu ar sgyrsiau un i un gyda thimau addysgu a gwasanaethau myfyrwyr. Mae Nosweithiau Agored yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y sawl sy’n gweithio, sydd â theuluoedd, neu ymrwymiadau eraill, gan gynnig iddynt ffordd fwy hamddenol a phersonol i ddysgu am y brifysgol.
-
Fel arfer, mae Diwrnodau Agored yn dechrau rhwng 9:30 a 10:00 y bore ac yn dod i ben tua 14:30, yn amodol ar y campws. Ar y llaw arall, fel arfer, mae Nosweithiau Agored yn dechrau am 16:00 ac yn gorffen am 18:00. Gan fod yr amseroedd hyn yn gallu amrywio, mae’n hanfodol eich bod yn gwirio amseroedd penodol y digwyddiad rydych chi’n bwriadu ei fynychu.
-
Oes, mae’n bwysig cadw lle ar Ddiwrnod Agored neu Noson Agored. Trwy gadw lle ymlaen llaw, gallwn sicrhau y bydd staff academaidd eich dewis faes pwnc ar gael i gwrdd â chi. Mae cadw lle hefyd yn ein helpu ni i reoli’r digwyddiad yn ddiffwdan, gan roi profiad trefnus a phersonol i chi.
-
Yn sicr, gallwch chi ddod â’ch rhieni, gwarcheidwaid neu gefnogwyr gyda chi. Mae’r unigolion hyn yn chwarae rhan bwysig wrth eich helpu i wneud y penderfyniad iawn, gan ofyn cwestiynau nad ydych chi o bosibl wedi’u hystyried. Mae eu cyfraniad nhw yn sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen i wneud y dewis gorau ar gyfer eich astudiaethau.
-
Na, nid oes raid i bobl sy’n dod gyda chi archebu tocynnau ar wahân. Gallant ymuno â chi yn y Diwrnod Agored neu Noson Agored heb archebu unrhyw beth yn ychwanegol. Gall eu presenoldeb fod yn ddefnyddiol iawn, oherwydd efallai y byddant yn gofyn cwestiynau nad ydych chi wedi’u hystyried, gan sicrhau eich bod yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
-
Gallwch, mae croeso i chi ddod â’ch plant gyda chi. Rydym yn deall pwysigrwydd hyblygrwydd, yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n cydbwyso astudio gyda gwaith a bywyd teulu. Mae llawer o’n myfyrwyr yn dod â’u teuluoedd i Ddiwrnodau Agored, ac rydym yn cefnogi hynny’n llawn.
-
Yn bendant. Mae ein Diwrnodau Agored ²¹â€µµ Nosweithiau Agored ar agor i bawb, gan gynnwys myfyrwyr aeddfed. Rydym yn croesawu myfyrwyr o bob oed ac rydym yn gymwys i gefnogi’r rhai hynny sy’n gyntaf o’u teulu i fynychu prifysgol neu sy’n dychwelyd i addysg ar ôl egwyl. P’un a ydych yn ystyried Diwrnod Agored neu Noson Agored, rydym ni yma i’ch helpu i wneud y dewis iawn ar gyfer eich dyfodol.
-
Byddwch, ar ôl cadw lle, fe gewch e-bost cadarnhau gan Eventbrite. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys cod QR i gofrestru ar y dydd. Byddwn hefyd yn anfon e-byst atgoffa atoch yn nes at yr amser i’ch helpu i baratoi a chynllunio eich ymweliad, gan sicrhau bod gennych bopeth sydd arnoch ei angen.
-
Oes, mae’n rhaid cofrestru wrth gyrraedd y digwyddiad. Mae hyn yn bwysig am resymau iechyd a diogelwch, gan fod angen i ni wybod pwy sydd ar y campws. Yn ogystal, mae cofrestru’n ein helpu i’ch cyfeirio chi at y timau academaidd priodol, gan sicrhau eich bod yn gwneud yn fawr o’ch ymweliad.
-
Bydd, mae teithiau campws y rhan annatod o’n Diwrnodau Agored ²¹â€µµ Nosweithiau Agored. Mae’r teithiau hyn yn rhoi cyfle i chi archwilio’r campws, gweld y cyfleusterau, a chael ymdeimlad o naws yr amgylchedd. Mae’n ffordd wych i ddychmygu eich hun yn astudio yma a gweld ble gallech chi fod yn byw a dysgu.
-
Cewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gyrraedd ein campysau ar ein tudalennau lleoliad. Mae gennym gampysau yn Abertawe, Caerfyrddin, Llambed a Chaerdydd. Mae pob tudalen yn darparu cyfarwyddiadau, opsiynau trafnidiaeth, a manylion hanfodol eraill i’ch helpu i gynllunio eich taith yn ddiffwdan.
-
Os ydych chi’n athro sy’n bwriadu dod â grŵp o fyfyrwyr i Ddiwrnod Agored, e-bostiwch ein tîm recriwtio.
Dylech gynnwys manylion fel a ganlyn:
-
Nifer y myfyrwyr
-
Y pynciau sydd o ddiddordeb iddynt
-
Amser cyrraedd a gadael disgwyliedig
-
Gwybodaeth gyswllt eich ysgol
Bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i gadarnhau eich archeb a helpu gydag unrhyw drefniadau ychwanegol.
-
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Teithio i Ddiwrnod Agored neu Noson Agored
Mae mynychu Diwrnod Agored neu Noson Agored gyda ni yn hawdd, sut bynnag rydych chi’n bwriadu teithio. Mae cysylltiadau da i’n campysau mewn car, ar drên, bws neu feic, gan wneud eich taith yn syml.