ϳԹ

Skip page header and navigation

Yr Athro Ann Parry Owen BA, PhD, FLSW

Llun a Chyflwyniad

Gyda’i gwallt tywyll wedi’i dorri’n fyr ac yn gwisgo clustlysau arian ac amethyst cain, mae’r Athro Ann Parry Owen yn gwenu tuag at y camera.

Athro / Golygydd Hŷn Geriadur Prifysgol Cymru
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS)
Email: apo@cymru.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Athro / Golygydd Hŷn Geriadur Prifysgol Cymru

Cefndir

Mae’r Athro Ann Parry Owen wedi bod yn aelod o staff y Ganolfan ers 1 Hydref 1985, pan agorwyd y Ganolfan yn rhan o Brifysgol Cymru. Bu’n Gymrawd Ymchwil ar brosiect ‘Beirdd y Tywysogion’ (1985–93), gan weithio’n benodol ar farddoniaeth Cynddelw Brydydd Mawr o’r ddeuddegfed ganrif. Yn 1993 fe’i penodwyd yn arweinydd prosiect ‘Beirdd yr Uchelwyr’, prosiect a gynhyrchodd 44 o gyfrolau o farddoniaeth dros ugain mlynedd, o ganlyniad i gydweithio ffrwythlon rhwng y Ganolfan a staff o adrannau Cymraeg y prifysgolion.

Yn 2007 enillodd grant o bron i £900K gan yr AHRC i arwain tîm o ymchwilwyr dros bum mlynedd i greu golygiad newydd a digidol o waith y bardd pwysig o’r 15fed ganrif, Guto’r Glyn. Prif allbwn y prosiect oedd y wefan ddwyieithog ac arloesol . Ers hynny bu’r Athro Parry Owen yn Gyd-Archwilydd ar brosiectau ‘’ (gan ailolygu’r tair awdl fawr o’r ddeuddegfed ganrif i’r seintiau Dewi, Cadfan a Thysilio); ‘Tirweddau Cysegredig Mynachlogydd yr Oesoedd Canol’; a ‘Barddoniaeth Myrddin’. 

Mae’r Athro Parry Owen yn Olygydd Hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru ers 2017, ac mae’n ymddiddori’n yn hanes cynnar geiriau, a geirfa’r beirdd yn benodol. Mae ganddi hefyd ddiddordeb arbennig yng ngeiriadura hanesyddol, ac yn ddiweddar  astudiaeth o gasgliad enfawr o eiriau cyfoes a gofnododd yr ysgrifydd John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint, yn 1632͏–3, pan oedd yn garcharor yn y Fflyd yn Llundain, fel dyledwr. Ar hyn o bryd mae’r Athro Parry Owen yn  i’r geiriadur Lladin–Cymraeg anferth a gynhyrchodd y ffisigwr Thomas Wilems o Drefriw yn 1604–7. Ar hyn o bryd mae’r geiriadur hwn, a fu’n sail i weithgarwch geiriadurol yn y Gymraeg hyd at y cyfnod modern, ar gael mewn llawysgrif yn unig (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Peniarth 228).

Mae’r Athro Parry Owen yn Brif Olygydd  ac yn aelod o Fwrdd Golygyddol Llyfrgell Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol y Modern Humanities Research Association (MHRA). Mae hefyd yn aelod o ‘’ Comisiynydd y Gymraeg.

Diddordebau Academaidd

  • Iaith a gramadeg y Gymraeg
  • Barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol
  • Creu golygiadau digidol a defnyddio technoleg ar gyfer Enwau Lleoedd
  • Geiriadura hanesyddol
  • Llawysgrifau a phaleograffeg

Meysydd Ymchwil

  • Barddoniaeth yr Oesoedd Canol (o’r 12fed ganrif hyd y 15fed ganrif)
  • ҳܳٴ’r&Բ;ұ
  • Iaith a gramadeg y Gymraeg
  • John Jones, Gellilyfdy, a’i waith geirfaol
  • Geiriadura Hanesyddol
  • ɲڲ&Բ;’u&Բ;ڷɲ

Cyhoeddiadau

(Detholiad)

(casgliad o erthyglau byr ar agweddau hanesyddol ar yr iaith Gymraeg)

‘Casglfa Ddirfawr o Eiriau Cymraeg, Henion a Newyddion’: Geiriadur Thomas Wiliems, Trefriw (c.1545–1622/3) yn LlGC Peniarth 228’, Llên Cymru, 47 (2024),&Բ;54–83.

: Casgliad John Jones, Gellilyfdy o Eiriau’r Cartref, Crefftau, Amaeth a Byd Natur (Caaerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2023), 540tt.

, BBC Cymru Fyw, 20 Medi 2021 

‘Enwau lleoedd a Beirdd y Tywysogion’, yn Gareth A. Bevan, G. Angharad Fychan, Hywel Wyn Owen ac Ann Parry Owen (goln.), Ar Drywydd Enwau Lleoedd: Casgliad o Ysgrifau i Anrhydeddu’r Athro Gwynedd O. Pierce ar ei Ben Blwydd yn Gant Oed / A Collection of Essays to Honour Professor Gwynedd O. Pierce on his Hundredth Birthday (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2021)

‘Mynegai i enwau lleoedd ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol’, (Chwefror 2021)

‘Canu i Ddewi’ gan Gwynfardd Brycheiniog,  (Tachwedd 2020)

‘Canu Tysilio’ gan Gynddelw Brydydd Mawr, . (Medi 2019)

‘Canu i Gadfan’ gan Lywelyn Fardd, . (Hydref 2018)

Plu porffor a chlog o fwng ceiliog: Cynddelw Brydydd Mawr a Guto’r Glyn, Darlith Goffa J. E. Caerwyn Williams a Mrs Gwen Williams 2015 (Aberystwyth, 2017)

‘Gramadeg Gwysanau: a fragment of a fourteenth-century Welsh Bardic Grammar’, yn Deborah Hayden a Paul Russell (goln.), Grammatica, Gramadach and Gramadeg: Vernacular Grammar and Grammarians in Medieval Ireland and Wales (Oxford, 2016), tt. 181–20’

“An audacious man of beautiful words”: Ieuan Gethin (c.1390–c.1470)’,&Բ;Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 34 (2014), 1–34

Gwaith Ieuan Gethin (Aberystwyth, 2013)

‘Golygiadau electronig: Gwefan Guto’r Glyn’, Tu Chwith (ҷɲԷɲ&Բ;2013),&Բ;40–8

Golygiad o gerddi 103–18 gan Guto’r Glyn (gw. ) a Golygydd Cyffredinol y wefan (2012)

‘Cywydd Gofyn Cloc gan Ddafydd ab Owain o Fargam ar ran Morys o Ardal y Fenni’, Llên Cymru, 35&Բ;(2012),&Բ;3–18

gyda William Linnard, ‘Horological requests in early Welsh poems’, Antiquarian Horology, 33 (Medi 2012), 631–6

‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, Llên Cymru, 33&Բ;(2010),&Բ;1–31