Image and intro
Lecturer in Language, Literacy and Communication
Institute of Education and Humanities
E-mail: aled.p.williams@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Hyfforddi athrawon Cymraeg ar y cwrs TAR Uwchradd
Cefndir
Ymunodd â PCYDDS yn 2016 yn dilyn 18 mlynedd o brofiad yn addysgu Cymraeg Iaith Gyntaf ac arwain yn Ysgol y Strade, Llanelli. Yno, datblygodd yn arweinydd pwnc dibynadwy ar draws CA3, CA4 a CA5 ac ar draws yr ystod gallu. Un o’i gyfrifoldebau fel Pennaeth Cynorthwyol oedd mentora athrawon ac ANGau. Cafodd hwyl ar gefnogi cynnydd a datblygiad darpar athrawon ac athrawon newydd i’r proffesiwn gan gydweithio’n agos gyda PCYDDS i ddatblygu dulliau newydd o fentora.
Mae cefnogi myfyrwyr yn eu datblygiad yn reddf ac yn egwyddor craidd ganddo. Lluniodd raglen hyfforddiant ar ddulliau effeithiol o Hyfforddi a Mentora ar y cyd gyda Chonsortiwm Canolbarth y De. Datblygodd yr hyfforddiant yn arweiniad mewnol i staff yr Athrofa ar ddatblygu sgiliau Hyfforddi a Mentora.
Mae’n arholwr allanol dros CBAC ar gyfer Unedau llafar Safon Uwch U1 ac U4. Mae’n parhau i gydweithio gyda CBAC wrth lunio arholiadau ac arholi ystod eang o gymwysterau Cymraeg – Lefel Mynediad, TGAU Cymraeg, TGAU Llenyddiaeth Gymraeg a Safon Uwch Cymraeg.
Diddordebau Academaidd
Darlithio ar y modylau Hyfforddiant Athrawon:
- ECAD4008C: Ble ydw i’n Addysgu?
- ECAD6008C: Beth, sut a pam ydw i’n Addysgu?
- ECAD7003C: Ble ydw i’n Addysgu?
Meysydd Ymchwil
Arwain hyfforddiant o fewn y Rhwydweithiau Proffesiynol ar sgiliau Hyfforddi a Mentora.
Arbenigedd
- Addysgu Cymraeg fel pwnc Uwchradd
- Dysgu ieithoedd newydd
- Sgiliau hyfforddi a mentora