Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Rhan amser) (MSc)
Mae ein rhaglen MSc Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion sy’n angerddol am gefnogi athletwyr trwy faetheg ac sy’n dymuno gweithio fel ymarferwyr maetheg chwaraeon neu Faethegwyr Chwaraeon. Wrth i faetheg chwaraeon barhau i gynyddu mewn poblogrwydd, mae’r galw am weithwyr proffesiynol medrus yn y maes hwn yn cynyddu. Mae’r rhaglen hon yn hollol addas ar gyfer y rhai sy’n anelu at weithio gydag athletwyr ac unigolion egnïol, gan roi gwybodaeth a sgiliau hanfodol iddynt.
Mae’r cwrs yn cael ei ddatblygu yn seiliedig ar faetheg sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hyfforddi i roi cyngor maetheg dibynadwy ac effeithiol. Mae’r cwricwlwm yn pwysleisio maetheg perfformiad a sut mae’n berthnasol i sefyllfaoedd bywyd go iawn mewn chwaraeon, gan alluogi graddedigion i ddiwallu anghenion maethol unigryw athletwyr a’r rhai sy’n hoff iawn o chwaraeon. Bydd myfyrwyr yn astudio maetheg chwaraeon ar gyfer athletwyr, gan ganolbwyntio ar effaith diet ar hyfforddiant, perfformiad ac adferiad.
Mae cyfuniad o faetheg chwaraeon gymhwysol a seiliau gwyddor maetheg yn rhoi dealltwriaeth gadarn i fyfyrwyr o ofynion egni’r corff yn ystod gwahanol fathau o weithgaredd corfforol, yn ogystal â’r sgiliau i lunio cynlluniau maeth personol. Trwy ymdrin ag egwyddorion maetheg ymarfer corff, mae myfyrwyr yn cael dealltwriaeth o sut mae diet yn effeithio ar y corff yn ystod gwahanol fathau o chwaraeon a gweithgaredd corfforol, gan gynnwys ymarferion dygnwch ac ymarferion sy’n seiliedig ar gryfder. Mae’r cwrs hefyd yn rhoi pwyslais sylweddol ar iechyd a lles mewn chwaraeon, gan ddysgu myfyrwyr sut i gefnogi iechyd cyffredinol unigolion actif, o’r rhai hynny sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol o bryd i’w gilydd i athletwyr proffesiynol.
Yn ogystal â gwybodaeth dechnegol, mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad ymarferol drwy ymarfer proffesiynol mewn maetheg chwaraeon. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol wrth asesu a chynghori ar ddiet a maetheg, gan sicrhau’r cymwyseddau i weithio gyda chleientiaid yn hyderus ac yn effeithiol. Mae’r hyfforddiant ymarferol hwn yn hanfodol i’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfaoedd mewn maetheg chwaraeon gymhwysol, gan helpu graddedigion i ffynnu mewn lleoliadau proffesiynol amrywiol.
Mae’r rhaglen wedi’i hachredu gan y Gofrestr Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (SENr), corff uchel ei barch ar gyfer gweithwyr proffesiynol maetheg chwaraeon yn y DU. Gydag achrediad SENr, mae graddedigion wedi’u paratoi’n dda i ymuno â’r gweithlu gyda chymwysterau a gydnabyddir gan gyflogwyr. Mae’r cwricwlwm yn cyd-fynd yn ofalus â chymwyseddau SENr, gan sicrhau bod myfyrwyr yn bodloni safonau diwydiant.
Wedi’i chynllunio gyda hyblygrwydd mewn golwg, mae’r rhaglen MSc Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn cael ei chynnig ar benwythnosau a thrwy gymysgedd o ddysgu a addysgir a dysgu cyfunol. Mae’r strwythur hwn yn caniatáu i fyfyrwyr reoli ymrwymiadau gwaith ac astudio, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd angen dull hyblyg o ddysgu.
Manylion y cwrs
- Cyfunol (ar y campws)
- Rhan amser
- Saesneg

Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn cyfuno gwybodaeth wyddonol â phrofiad ymarferol. Mae’r rhaglen hon sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn canolbwyntio ar roi dysgu ar waith, gan eich paratoi ar gyfer llwyddiant proffesiynol mewn maetheg chwaraeon trwy ddysgu cyfunol, rhyngweithiol.
Drwy gydol y cwrs byddwch yn dysgu egwyddorion maetheg a ffitrwydd chwaraeon, wedi’u seilio ar y damcaniaethau a’r dystiolaeth ddiweddaraf. Bydd y wybodaeth hon yn eich galluogi i roi theori ar waith i ymarfer a chynghori athletwyr ar draws chwaraeon amrywiol i wneud y mwyaf o’u perfformiad. Byddwch hefyd yn defnyddio meddalwedd arbenigol ar gyfer dadansoddi dietegol a chynllunio prydau bwyd, ochr yn ochr â’r labordy perfformiad dynol i asesu lefelau iechyd a ffitrwydd.
Gorfodol
(30 credydau)
(60 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Fel arfer dylai bod darpar fyfyrwyr wedi cwblhau gradd gyntaf mewn Maetheg, Dieteteg,
Gwyddor Chwaraeon aac Ymarfer Corff, Bioleg Dynol, Ffisioleg Ymarfer Corff neu debyg, gan gael o leiaf dosbarth 2:2. Mae hon yn ystyriaeth bwysig os yw myfyrwyr yn dymuno dod yn ‘Registrant of the Sport and Exercise Nutrition Register Practitioner’.
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, mae’n rhaid i’r gofynion mynediad fod yn gyfwerth yn ei hanfod â’r rheiny a ddisgwylir gan fyfyrwyr y DU. Wrth gael eich derbyn, rhaid i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu mamiaith feddu ar ofynion Iaith Saesneg addas ar gyfer rhaglen Achrededig AfN, na chaiff fod yn llai na 6.5 IELTS (neu gyfwerth), heb un adran yn llai na 6.0.
-
Bydd amrywiaeth o asesiadau’n cael eu defnyddio i herio myfyrwyr ond hefyd ymestyn y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio ym maes maetheg chwaraeon. Mae yna ffocws academaidd cryf yn y rhaglen ochr yn ochr â datblygiad sgiliau ymarferol.
Bydd yr asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau labordy, astudiaethau achos, profion ymarferol a chyflwyniadau (unigol a grŵp).
-
- Llety – fel arfer ar gael ar gampws Caerfyrddin
- Gwiriad DBS
- Tystysgrif Hylendid Bwyd.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd graddedigion yn mynd ymlaen i weithio gydag athletwyr elit a hamdden ar draws ystod o chwaraeon. Mae llawer o Gyrff Llywodraethu Chwaraeon yn gofyn am o leiaf statws Ymarferydd i weithio gyda nhw.
Mae yna fwy a mwy o gyfleoedd i weithio mewn amrywiaeth o chwaraeon neu i sefydlu busnes i weithio gydag athletwyr elit a hamdden. Mae’r cyfleoedd yn ddi-ben-draw.
Hefyd, mae ein darlithwyr yn ymarferwyr eu hunain a chanddynt gyfoeth o brofiad sy’n helpu i lywio eich gyrfa.