ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Rhan amser) (BSc Anrh)

Caerfyrddin
6 Mlynedd Rhan amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ran-amser yn rhoi i chi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch i lwyddo ym meysydd datblygol chwaraeon, ffitrwydd ac iechyd. Ni fu pwysigrwydd llesiant corfforol erioed yn gliriach, yn enwedig yn dilyn pandemig COVID-19, sydd wedi cryfhau’r angen am ymarferwyr proffesiynol sy’n deall sut mae dewisiadau o ran ymarfer corff a ffordd o fyw yn effeithio ar iechyd.

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi sylfaen gadarn i chi mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff wrth gynnig hyblygrwydd i gydbwyso eich astudiaethau ag ymrwymiadau eraill. Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn meithrin dealltwriaeth ddofn o sut mae ymarfer corff yn dylanwadu ar y corff, gan wella eich gallu i asesu iechyd a ffitrwydd, a dysgu sut i greu rhaglenni ymarfer corff effeithiol wedi’u teilwra i anghenion unigolion. Byddwch hefyd yn canolbwyntio ar faterion iechyd y cyhoedd, gan ddysgu sut i gyfleu pwysigrwydd ymarfer corff a byw’n iach i gynulleidfa ehangach.

Un o brif gryfderau’r rhaglen hon yw ei ffocws ar ddatblygu gwybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol. Fe gewch y cyfle i weithio’n uniongyrchol gyda chleientiaid mewn lleoliadau byd go iawn, gan ennill profiad ymarferol o hyfforddiant ffitrwydd, hyfforddiant personol, ac asesiadau iechyd. Nid yn unig mae’r profiadau hyn yn gwella eich dysgu ond hefyd yn eich gwneud yn fwy cystadleuol yn y farchnad swyddi.

Yn ogystal, gallwch ennill cymwysterau allanol fel hyfforddwr campfa neu ardystiad hyfforddwr personol yn ystod eich astudiaethau. Mae’r cymwysterau hyn yn eich galluogi i ehangu eich arbenigedd ac agor cyfleoedd gyrfa pellach. Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais cryf ar berthnasedd galwedigaethol, sy’n golygu bod y sgiliau y byddwch chi’n eu datblygu yn uniongyrchol berthnasol i’r mathau o rolau y gallech chi eu ceisio ar ôl graddio.

Yn fyfyriwr rhan-amser, byddwch yn elwa o ymagwedd hyblyg at ddysgu sy’n cyd-fynd â’ch bywyd. Byddwch yn dal i dderbyn yr un addysg o ansawdd uchel â myfyrwyr llawn amser, gyda’r cyfle i feithrin eich sgiliau yn raddol. Mae’r fformat hwn yn eich galluogi i ddatblygu’n broffesiynol wrth ennill y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen i ymuno â’r sector yn hyderus.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cymryd rhan mewn ymchwil annibynnol, datrys problemau a meddwl beirniadol, sy’n sgiliau hanfodol ar gyfer unrhyw yrfa ym maes gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. Mae’r rhaglen hefyd yn eich annog i adfyfyrio ar eich arfer eich hun, gan sicrhau eich bod bob amser yn dysgu ac yn tyfu fel ymarferydd proffesiynol.

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch wedi datblygu ystod eang o sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr yn y sector chwaraeon ac ymarfer corff. P’un a ydych yn dewis gweithio ym maes ffitrwydd, hybu iechyd, adsefydlu neu hyfforddi, bydd y radd hon yn eich paratoi ar gyfer heriau a chyfleoedd diwydiant cyffrous a boddhaus.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd UCAS:
Hyd y cwrs:
6 Mlynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfle i gael eich cofrestru ar Gyfeirlyfr Ymarfer Corff a Ffitrwydd CIMSPA.
02
Defnydd o gyfleusterau hyfforddi ffitrwydd pwrpasol a labordai gwyddor ymarfer corff.
03
Cyfleoedd i weithio gyda chleientiaid mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.
04
Cyfleoedd i weithio ochr yn ochr â staff yr Academi Chwaraeon sy'n darparu sesiynau hyfforddi, sesiynau cryfder a chyflyru a phrofion ffitrwydd.
05
Mynediad am ddim i’r ystafell iechyd, neuadd chwaraeon a phwll nofio i gefnogi diddordebau gradd.
06
Yn y 10 cwrs Gwyddor Chwaraeon gorau yn y DU am foddhad myfyrwyr.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth yn pwysleisio cydbwysedd rhwng theori a chymhwyso ymarferol, gan feithrin dysgu annibynnol ac arfer adfyfyriol. Ein nod yw datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad proffesiynol i sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer gyrfa ym maes gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff.

Yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Bydd modylau fel maeth ar gyfer iechyd a hyfforddiant personol, yn eich helpu i ddeall egwyddorion sylfaenol symudiad dynol a’r wyddoniaeth y tu ôl i berfformiad chwaraeon ac ymarfer corff.

Ochr yn ochr â dysgu damcaniaeth anatomeg, ffisioleg, seicoleg a maeth, gall myfyrwyr gyflawni dyfarniadau Hyfforddwr Campfa lefel 2 a Hyfforddwr Personol lefel 3. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddechrau gwneud gwaith rhan-amser yn y sector chwaraeon a ffitrwydd ochr yn ochr â’u hastudiaethau, yn ogystal â lleoliadau gwaith mwy ymarferol.

Gorfodol 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Ffisioleg Ddynol a Ffitrwydd

(20 credydau)

Gorfodol 

Hyfforddiant Personol

(20 credydau)

Maetheg ar gyfer Iechyd

(20 credydau)

Cinesioleg

(10 credydau)

Mae’r drydedd a’r bedwaredd flwyddyn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ym maes perfformiad chwaraeon ac ymarfer corff. Byddwch yn astudio pynciau craidd fel anatomeg, ffisioleg, biomecaneg a seicoleg. Byddwch hefyd yn ymchwilio’n ddyfnach i feysydd fel ffisioleg ymarfer corff, maeth chwaraeon, a dulliau ymchwil. Yn ogystal, byddwch yn ennill profiad ymarferol drwy weithgareddau mewn labordai ac yn dechrau gweithio gyda chleientiaid, gan gyfoethogi eich sgiliau galwedigaethol a’ch sgiliau proffesiynol. Datblygir sgiliau ymchwil ynghyd â’r gallu i greu proffil proffesiynol, ar-lein ac yn rhyngbersonol.

Gorfodol 

Ffisioleg Ymarfer Corff

(20 credydau)

Asesiad Biomecanyddol o Berfformiad ac Anafiadau

(20 credydau)

Ymchwil mewn Iechyd, Ymarfer Corff ac Addysg Gorfforol

(20 credydau)

Gorfodol 

Maetheg ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Datblygu eich Proffil Proffesiynol (Lleoliad)

(20 credydau)

Yn y bumed flwyddyn a’r flwyddyn olaf, byddwch yn mireinio’ch arbenigedd ac yn arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb. Byddwch yn ymgysylltu Ã¢ phynciau uwch fel rhagnodi ymarfer corff, asesu iechyd, a dadansoddi perfformiad. Mae rhan sylweddol o’r flwyddyn yn ymwneud Ã¢ phrosiect ymchwil annibynnol, sy’n eich galluogi i gymhwyso eich dysgu i broblemau byd go iawn a pharatoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Gorfodol 

Ffisioleg Ymarfer Corff Uwch

(20 credydau)

Arfer Seiliedig ar Dystiolaeth mewn Gwyddor Ymarfer Corff

(20 credydau)

Dewisol

Addysgeg Hyfforddi

(20 credydau)

Ymarfer Corff a Phoblogaethau Penodol

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Dewisol

Arfer Proffesiynol mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, byddai disgwyl i fyfyrwyr gyflawni o leiaf 96 o bwyntiau UCAS gyda ffocws ar bynciau seiliedig ar y gwyddorau a/neu addysg gorfforol. Bydd myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt bwyntiau UCAS digonol yn cael eu hystyried ar eu rhinweddau eraill drwy broses gyfweld.

  • Caiff y radd ei hasesu’n bennaf drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiad ymarferol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu portffolio helaeth o arfer proffesiynol a thystiolaeth o astudiaethau achos.

  • Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu tracwisg a thopiau hyfforddi’r brifysgol y bydd eu hagen mewn sesiynau ymarferol ac wrth weithio gyda grwpiau allanol.

    Bydd myfyrwyr sy’n dymuno cyflawni cymhwyster ychwanegol, galwedigaethol yn gorfod talu costau ychwanegol ar gyfer y cyrsiau hyn.

    £30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos i holl fyfyrwyr blwyddyn 1.

    Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae 90% o’n graddedigion yn y maes hwn mewn gwaith neu astudiaethau pellach llawn amser o fewn 6 mis i raddio. Yn gyffredinol, mae graddau gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn paratoi myfyrwyr ar gyfer graddau fel:

    • Ymchwil academaidd
    • Hyfforddi a chynghori athletwyr adloniadol (e.e. triathlon, rhedeg, seiclo)
    • Ffisiolegydd ymarfer corff clinigol GIG
    • Hyfforddwr personol
    • Gwyddonydd chwaraeon (yn gweithio gyda thimau chwaraeon proffesiynol, cyrff llywodraethu, ayb)
    • Hyfforddwr cryfder a chyflyru
    • Addysgu
    • Chwaraeon ieuenctid