Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol (Llawn amser) (BSc Anrh)
Mae ein gradd BSc Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddod yn fedrus wrth addysgu addysg gorfforol a hyfforddi chwaraeon ieuenctid. Mae’r cwrs hwn yn cyfuno cynnwys academaidd a gweithgareddau ymarferol er mwyn rhoi addysg gynhwysfawr i chi.
Fel myfyriwr, byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol, megis gemau, athletau, iechyd a ffitrwydd, dawns, nofio, gymnasteg, a gweithgareddau anturus. Mae’r dull ymarferol hwn yn sicrhau eich bod yn cael profiadau byd go iawn wrth ddysgu.
Byddwch yn cael eich arwain gan dîm o staff academaidd ysbrydoledig sydd â phrofiad helaeth o weithio ac ymchwilio ym meysydd addysg gorfforol a chwaraeon. Bydd eu harbenigedd yn cefnogi eich twf a’ch datblygiad trwy gydol eich astudiaethau.
Mae’r cwrs wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad ag ymarferwyr o feysydd addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid. Mae hyn yn sicrhau bod y cwricwlwm yn berthnasol ac yn gyfredol, gan eich paratoi ar gyfer yr heriau yn y maes. P’un a ydych yn anelu at gymhwyster ôl-raddedig mewn addysg (Addysg Gorfforol Cynradd neu Uwchradd) neu yrfa mewn chwaraeon ieuenctid a hyrwyddo gweithgaredd corfforol, mae’r radd hon yn darparu sylfaen ardderchog.
Mae astudio yn PCYDDS yn golygu bod yn rhan o gymuned sy’n gwerthfawrogi addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid o safon uchel. Mae’r meysydd hyn yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles pobl ifanc. Drwy ddatblygul gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol, byddwch yn gymwys i gefnogi pobl ifanc i fyw bywydau iach ac egnïol.
Y radd Addysg Gorfforol yn PCYDDS yw eich porth i yrfa werthfawr. Mae’n cynnig cyfuniad o gynnwys academaidd a phrofiad ymarferol ar draws ystod o weithgareddau. Mae’r cydbwysedd hwn yn eich helpu i ddeall a chymhwyso egwyddorion addysgu addysg gorfforol a hyfforddi chwaraeon ieuenctid yn effeithiol.
Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol megis gemau, athletau, iechyd a ffitrwydd, dawns, nofio, gymnasteg a gweithgareddau antur drwy gydol eich cwrs. Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i wneud dysgu’n ysgogol a sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau gwerthfawr drwy gymhwyso theori i ymarfer.
Mae addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid o safon uchel yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles pobl ifanc. Drwy gwblhau’r radd hon, byddwch yn cael yr wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i helpu pobl ifanc i fyw bywydau iach ac egnïol. Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfuniad unigryw o gynnwys academaidd a phrofiad ymarferol gan eich darparu â’r sgiliau a’r wybodaeth i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae gan y radd Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol ffocws sylfaenol ar ddysgu ac addysgu, gan gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad ymarferol. Ein nod yw datblygu graddedigion cyflawn sy’n meddu ar y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i ragori ym meysydd addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid.
Mae’r cwrs yn cyfuno’r technolegau diweddaraf er mwyn cefnogi myfyrwyr mewn profiad dysgu cyfunol sy’n cyd-asio darpariaethau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Yn ogystal, mae cysylltiadau cryf gydag ysgolion lleol ac adrannau addysg gorfforol ar draws y rhanbarth yn galluogi cyfleoedd lleoli helaeth i fyfyrwyr.
Blwyddyn 1
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i hanfodion addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid. Mae modylau’n ymdrin â hanfodion hwyluso gweithgareddau anturus ac addysg greadigol drwy symud. Byddwch yn dechrau datblygu’ch gwybodaeth ddamcaniaethol ochr yn ochr â sgiliau ymarferol.
Gorfodol
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
Blwyddyn 2
Bydd yr ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddyfnhau eich dealltwriaeth o addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid. Byddwch yn archwilio dulliau addysgu uwch, technegau hyfforddi, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol mwy arbenigol. Yn ogystal, byddwch yn dechrau cymhwyso dulliau ymchwil a datblygu gwybodaeth ar iechyd a lles mewn addysg.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(60 Credyd)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Blwyddyn 3
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn mireinio eich arbenigedd a pharatoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn cymryd rhan mewn astudiaeth fanwl o addysg, chwaraeon ac addysg gorfforol gan ganolbwyntio ar hyrwyddo bywydau iach ac egnïol ymhlith pobl ifanc. Mae’r flwyddyn yn dod i ben gyda phrosiect ymchwil annibynnol sylweddol sy’n cymhwyso’r cyfan yr ydych wedi’i ddysgu.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
96 pwynt UCAS neu’n amodol ar gyfweliad anffurfiol.
Mae croeso arbennig i fyfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn cyd-destun chwaraeon.
-
Yn unol â’r athroniaeth sy’n tanategu’r radd, rhoddir pwyslais cryf ar ddulliau dysgu ac addysgu wrth asesu modylau.
Er bod perfformiad personol o ansawdd da yn cael ei annog, nid yw’n ffocws asesiadau’r modylau ymarferol eu natur. Yn lle hyn, caiff materion cynhwysiant, hawl a gwahaniaethu eu mewnosod yn llawer o’r asesiadau, a bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio a gwerthuso eu haddysgu nhw eu hunain ac eraill.
Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno dadl gytbwys â thystiolaeth trwy eu gwaith ysgrifenedig ffurfiol, yn ogystal â thrwy cyflwyniadau unigol a grŵp.
Yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn dylunio a chynnal eu prosiect ymchwil neu bortffolio beirniadol eu hunain mewn maes arbenigol o’u dewis.
Ymhlith y mathau penodol o asesiad mae:
- traethodau;
- adroddiad labordy;
- cyflwyniadau (grŵp ac unigol);
- tasgau ymarferol; a,
- arholiadau (papurau a welwyd ac na welwyd).
-
Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs.
£30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos ar gyfer holl fyfyrwyr y flwyddyn 1af. -
Ewch i’n adran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am ragor o wybodaeth. Mae myfyrwyr sy’n dewis astudio rhan o’r cwrs drwy’r Gymraeg hefyd yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
-
Gwnewch yn fawr o’r cyfle i dreulio semestr dramor mewn prifysgolion yn yr UD neu Ganada.
Mae gennym gysylltiadau cyfnewid gyda’r sefydliadau a ganlyn:
California State University, Fullerton
Prifysgol Gogledd Carolina, Greensboro -
Mae myfyrwyr sy’n graddio o’r rhagle radd hon yn debygol o fynd ymlaen i gwrs TAR cynradd neu gwrs Addysg Gorfforol uwchradd neu i’r rhaglen MA Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol mewnol.
Ymhlith y llwybrau gyrfaol poblogaidd eraill mae:
- Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (PESS) neu Swyddog Campau’r Ddraig;
- Datblygu Chwaraeon;
- Gwaith Ieuenctid;
- Graddau uwch eraill; a,
- Y gwasanaethau lifrai.