Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol (Llawn amser) (CertHE)
Mae’r Dystysgrif Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol (TystAU) wedi’i chynllunio i ddatblygu eich sgiliau mewn addysgu addysg gorfforol a hyfforddi chwaraeon ieuenctid. Ar y cwrs blwyddyn hwn, byddwch yn cymhwyso cynnwys academaidd drwy amrywiaeth o weithgareddau ymarferol, gan gynnwys gemau, athletau, iechyd a ffitrwydd, dawns, nofio, gymnasteg a gweithgareddau anturus.
Byddwch yn cael eich arwain gan dîm o staff academaidd ysbrydol gyda phrofiad helaeth mewn addysg gorfforol a chwaraeon. Bydd eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau.
Mae’r rhaglen wedi cael ei datblygu mewn cydweithrediad ag ymarferwyr o faes addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid gan sicrhau ei bod yn berthnasol i’r maes. Bydd astudio’r dystysgrif hon yn helpu i chi benderfynu os ydych am ddilyn y rhaglen radd lawn (dwy flynedd atodol) neu yrfa yn y dyfodol mewn addysgu, hyfforddi neu feysydd cysylltiedig eraill. Yn ogystal, mae’r dystysgrif hon yn eich paratoi ar gyfer swyddi yn y maes hyfforddi a swyddi cynorthwywyr dysgu. Byddwch yn datblygu profiad gwerthfawr yn gweithio gyda phlant, a all arwain at rolau mewn gwaith ieuenctid, gwersylloedd rhyngwladol neu fel gweithiwr chwarae.
Mae addysg ymarfer corff a chwaraeon ieuenctid o safon uchel yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles pobl ifanc. Mae’r cwrs hwn yn rhoi sylfaen gref mewn gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol i’ch helpu i gefnogi pobl ifanc i fyw bywydau iach ac egnïol.
Ydych chi’n siarad Cymraeg? Os hoffech chi astudio rhan o’r cwrs hwn yn Gymraeg, mae 40 credyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir rhagor o wybodaeth ar fersiwn Cymraeg y dudalen hon.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae gan Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol ffocws sylfaenol ar ddysgu ac addysgu, gan gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad ymarferol. Ein nod yw datblygu graddedigion cyflawn sy’n meddu ar y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i ragori ym meysydd addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid.
Mae’r cwrs yn cyfuno’r technolegau diweddaraf er mwyn cefnogi myfyrwyr mewn profiad dysgu cyfunol sy’n cyd-asio darpariaethau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Yn ogystal, mae cysylltiadau cryf gydag ysgolion lleol ac adrannau addysg gorfforol ar draws y rhanbarth yn galluogi cyfleoedd lleoli helaeth i fyfyrwyr.
Year 1
In the first year, you will be introduced to the fundamentals of physical education and youth sport. Modules cover the basics of facilitating adventurous activities and creative education through movement. You will start developing your theoretical knowledge alongside practical skills.
Gorfodol
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
32 pwynt UCAS neu’n amodol ar gyfweliad anffurfiol.
Mae croeso arbennig i fyfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn cyd-destun chwaraeon.
-
Yn unol â’r athroniaeth sy’n tanategu’r radd, rhoddir pwyslais cryf ar ddulliau dysgu ac addysgu wrth asesu modylau.
Er bod perfformiad personol o ansawdd da yn cael ei annog, nid yw’n ffocws asesiadau’r modylau ymarferol eu natur. Yn lle hyn, caiff materion cynhwysiant, hawl a gwahaniaethu eu mewnosod yn llawer o’r asesiadau, a bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio a gwerthuso eu haddysgu nhw eu hunain ac eraill.
Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno dadl gytbwys â thystiolaeth trwy eu gwaith ysgrifenedig ffurfiol, yn ogystal â thrwy cyflwyniadau unigol a grŵp.
Yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn dylunio a chynnal eu prosiect ymchwil neu bortffolio beirniadol eu hunain mewn maes arbenigol o’u dewis.
Ymhlith y mathau penodol o asesiad mae:
- traethodau;
- adroddiad labordy;
- cyflwyniadau (grŵp ac unigol);
- tasgau ymarferol; a,
- arholiadau (papurau a welwyd ac na welwyd).
-
Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs.
£30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos ar gyfer holl fyfyrwyr y flwyddyn 1af. -
Ewch i’n adran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am ragor o wybodaeth. Mae myfyrwyr sy’n dewis astudio rhan o’r cwrs drwy’r Gymraeg hefyd yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
-
Gwnewch yn fawr o’r cyfle i dreulio semestr dramor mewn prifysgolion yn yr UD neu Ganada.
Mae gennym gysylltiadau cyfnewid gyda’r sefydliadau a ganlyn:
California State University, Fullerton
Prifysgol Gogledd Carolina, Greensboro -
Mae myfyrwyr sy’n graddio o’r rhagle radd hon yn debygol o fynd ymlaen i gwrs TAR cynradd neu gwrs Addysg Gorfforol uwchradd neu i’r rhaglen MA Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol mewnol.
Ymhlith y llwybrau gyrfaol poblogaidd eraill mae:
- Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (PESS) neu Swyddog Campau’r Ddraig;
- Datblygu Chwaraeon;
- Gwaith Ieuenctid;
- Graddau uwch eraill; a,
- Y gwasanaethau lifrai.