ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Dysgu yn yr Awyr Agored (CertHE)

Caerfyrddin
1 Blynedd Llawn Amser
32 o Bwyntiau UCAS

Ydych chi’n caru’r awyr agored ac am droi eich angerdd am antur yn yrfa? Mae ein Tystysgrif Addysg Uwch mewn Dysgu yn yr Awyr Agored  yn berffaith i chi. Mae’r cwrs hwn yn cyfuno dysgu ymarferol â gwybodaeth academaidd, gan roi sylfaen gadarn i chi ar gyfer gyrfa mewn addysg awyr agored.

Byddwch yn cael profiad ymarferol trwy amrywiaeth o weithgareddau a theithiau. Dychmygwch ddysgu mewn lleoliadau gwyllt, mynd i’r afael ag amgylcheddau heriol, a datblygu eich sgiliau mewn lleoliadau byd go iawn. Our course covers everything from teaching and coaching to understanding important theories and practices.

Mae ein lleoliad unigryw yn rhoi mynediad i chi i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Bannau Brycheiniog, ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Penrhyn Gŵyr. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnig rhai o’r mannau gorau yn y byd ar gyfer caiacio, arforgampau, beicio mynydd, a dringo creigiau. Gallwch hefyd fwynhau cerdded mynyddoedd, ogofa, caiacio dŵr gwyn, a gweithgareddau mewn coetiroedd.

Mae ein rhaglen wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol trwy ddysgu ymarferol a gwaith maes. Byddwch yn dysgu gan diwtoriaid profiadol a darparwyr addysg antur sy’n angerddol am ddysgu yn yr awyr agored. Byddant yn eich arwain wrth greu profiadau diogel a meithrin cymuned gref o bobl sy’n frwd dros yr awyr agored.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn archwilio pynciau fel dulliau addysgu ac agweddau seicolegol, cymdeithasegol, ac athronyddol addysg awyr agored. Bydd y cymysgedd hwn o theori ac ymarfer yn eich paratoi ar gyfer gwahanol rolau yn y sectorau iechyd, addysg a gweithgarwch corfforol.

Ymunwch â ni a dewch yn rhan o gymuned fywiog sy’n gwerthfawrogi’r awyr agored. Gallwch hefyd astudio rhai modiwlau yn y Gymraeg i wneud eich profiad dysgu hyd yn oed yn gyfoethocach.

Mae ein rhaglen yn elwa o’i chyfleuster arbenigol ei hun ar gyfer darparu antur awyr agored, sef Cynefin. Mae’r lle hwn yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu eich sgiliau gydag adnoddau rhagorol, mannau addysgu, a chyfleusterau ar y safle.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
ODL6
Hyd y cwrs:
1 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae Caerfyrddin Y Drindod mewn lle unigryw o ran mynediad i ystod o leoliadau gweithgarwch o’r radd flaenaf.
02
Mae’r rhaglen hon yn gallu manteisio ar ei chyfleuster arbenigol ei hun ar gyfer darpariaeth Antur Awyr Agored: Cynefin.
03
Mae gan y cwrs sylfaen cadarn a chyfoethog mewn gwaith tîm ac ymdrechu ar y cyd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Drwy gydol y cwrs TAU Dysgu yn yr Awyr Agored, byddwch yn meithrin sgiliau a gwybodaeth hanfodol mewn gweithgareddau awyr agored ymarferol, ac egwyddorion addysgeg. Byddwch yn cymryd rhan mewn dysgu ymarferol, astudiaethau sy’n seiliedig ar theori, a phrofiadau byd go iawn a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y sector addysg awyr agored.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch chi’n adeiladu sylfaen gref mewn addysg antur awyr agored, gan ganolbwyntio ar ddysgu ymarferol a gwaith maes. Byddwch yn archwilio egwyddorion allweddol fel Dysgu yn yr Oes Ddigidol ac Ecoleg Antur, yn datblygu sgiliau hanfodol, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored amrywiol. Mae’r flwyddyn hon yn ymwneud ag ymgolli yn yr awyr agored a dechrau ar eich taith dysgu yn yr awyr agored.

Yr Awyr Agored

(20 credydau)

Hyfforddiant Chwaraeon Antur

(10 credydau)

Hwyluso dysgu yn yr awyr agored

(20 credydau)

Sgiliau Antur Sylfaen

(20 credits)

Rheoli Risg mewn Antur

(20 credydau)

Dulliau Seicolegol i Antur Awyr Agored

(10 credydau)

Sgiliau Academaidd (Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored)

(10 credydau)

Antur ac Ecoleg

(10 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Course Page Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

Gwybodaeth allweddol

  • 32 pwynt UCAS. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21 neu hÅ·n) sydd â phrofiad awyr agored perthnasol.

  • Nod yr asesiadau yw galluogi myfyrwyr i ddangos eu bod wedi bodloni gofynion y rhaglen a chyflawni deilliannau dysgu pob modiwl.

    Gan ystyried natur ymarferol y rhaglen, mae asesiadau wedi’u dyfeisio i wneud yn fawr ar y cyswllt rhwng theori ac arfer a chaniatáu i fyfyrwyr ddangos trylwyredd deallusol ac adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau eu hunain.

    Defnyddir amrywiaeth o fformatau ar gyfer gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol, yn cynnwys:

    Portffolios
    Addysgu/hyfforddi ymarferol
    Traethodau
    Cyfnodolion
    Cyflwyniadau
    Cyfryngau digidol
    Blogiau
    Cyfweliadau academaidd. 

  • Ar wahân i ddarparu pecyn cymorth cyntaf personol, cyllell afon, a rhai dillad awyr agored sylfaenol, nid oes costau ychwanegol gorfodol gyda’r rhaglen hon ar hyn o bryd.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau

  • Mae’r rhaglen Addysg Antur Awyr Agored wedi’i chyfoethogi gan ein partneriaeth sefydledig gyda phrifysgol De-ddwyrain Norwy sy’n cynnig cyfle rhagorol i astudio Sgïo Gwledig Llychlynnaidd ac Arweinyddiaeth Awyr Agored am semester yn yr ail flwyddyn.

  • Ceir nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad o wahanol rolau cyflogaeth yn y sector.

    Mae yna gysylltiadau agos rhwng y rhaglen a’r cyrff proffesiynol a rheolaethol perthnasol, gyda nifer o bartneriaethau cryf gyda busnesau lleol a sefydliadau trydydd sector. Fel y cyfryw, mae myfyrwyr mewn sefyllfa dda i gysylltu eu hastudiaethau gyda’r cymunedau arfer ehangach.

    Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfleoedd i fyfyrwyr ennill nifer o ddyfarniadau gan gyrff llywodraethol ar wahanol lefelau, mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae’r dyfarniadau hyn yn gofyn i fyfyrwyr gofrestru gyda’r cyrff llywodraethol perthnasol a chynnal llyfrau log o brofiad.