
Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd (Rhan amser) (BSc Anrh)
Mae ein planed yn wynebu argyfwng hinsawdd digynsail, ynghyd â bygythiadau i fioamrywiaeth, cynefinoedd a datblygiad dynol. Mae Partneriaeth Dysgu’r Cenhedloedd Unedig yn tynnu sylw at y ffaith y bydd plant heddiw yn wynebu canlyniadau hinsawdd sy’n newid. Daeth adroddiad Lancet yn 2021 i’r casgliad bod 84% o bobl ifanc yn dweud bod ganddynt bryder hinsawdd, ac yn poeni am eu dyfodol ar blaned sy’n diraddio. Fodd bynnag, nid yw’r problemau hyn yn anorchfygol. Yn syml, maen nhw’n gofyn am bobl sy’n barod i weithio i fod yn rhan o’r ateb.
Mae’r cwrs hwn yn wahanol i raglenni gwyddoniaeth amgylcheddol traddodiadol yn yr ystyr ei fod yn canolbwyntio ar gymhwyso gwyddoniaeth a theori yn ymarferol i ddod o hyd i atebion i’r problemau y mae’r blaned yn eu hwynebu a’u gweithredu. Mae gan ein tîm cwrs hanes cryf mewn ymchwil ar draws disgyblaethau amgylcheddol lluosog sy’n caniatáu ymdrin â materion amgylcheddol cyfoes yn gyfannol o bob cyfeiriad. Mae’r themâu allweddol yn cynnwys ecoleg a bioamrywiaeth, newid hinsawdd, datblygu cynaliadwy, rheoli adnoddau naturiol, gwyddor arfordirol a morol, a’r defnydd o dechnolegau amgylcheddol sy’n hanfodol i’r diwydiant fel GIS a synhwyro o bell.
Mae’r addysgu hwn yn cael ei ategu gan ymgysylltu cryf â’r diwydiant a gwaith maes cyson i gymhwyso dysgu i senarios y byd go iawn, adeiladu cysylltiadau, a rhoi theori ar waith. Byddwch yn datblygu sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr, megis meddwl yn feirniadol, y gallu i ddeall a mynd i’r afael â materion cymhleth, a’r sgiliau i gyflwyno dadleuon clir a rhesymegol. Mae ein cyfradd cyflogaeth ôl-gwrs uchel, ar draws llawer o ddisgyblaethau amgylcheddol, yn adlewyrchu gwerth y dull mwy ymarferol hwn.
Ymunwch â ni i ennill yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â newid amgylcheddol byd-eang. Mae dyfodol cynaliadwy yn bosibl; Gadewch i ni roi’r offer i chi i’w wneud hynny’n bosibl.
Mae’r opsiwn rhan amser o’n gradd BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd yn caniatáu i chi gydbwyso astudio gyda’ch bywyd personol a phroffesiynol, gan ei gwneud yn ddewis delfrydol i’r rheiny sy’n chwilio am hyblygrwydd.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Os ydych chi’n angerddol ynghylch gwarchod yr amgylchedd ac am ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i wneud hynny, yna mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi. Mae ein dull dysgu yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â gwaith maes ymarferol, gan feithrin amgylchedd dysgu cyfeillgar a hygyrch dan arweiniad staff sy’n weithgar ym maes ymchwil.
Mae ein campws yn Abertawe mewn lleoliad delfrydol rhwng Penrhyn Gŵyr a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – gan ddarparu safleoedd astudio perffaith ar gyfer gwyddor arfordirol a rheolaeth cynefinoedd.
Yn eich blwyddyn gyntaf a’ch ail flwyddyn byddwch yn astudio modylau a fydd wrth wraidd eich gwybodaeth am bwysigrwydd yr amgylchedd. Byddwch yn datblygu’ch dealltwriaeth o faterion amgylcheddol a gwella eich hyfedredd digidol a’ch sgiliau datrys problemau. Mae’r flwyddyn hon yn eich paratoi ar gyfer gweddill eich astudiaethau a fydd yn rhoi hyder i chi ar faterion amgylcheddol o fewn lleoliad proffesiynol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn y trydydd a’r bedwaredd flwyddyn byddwch yn ymchwilio’n fanylach i feysydd pwnc a dechrau deall y seiliau cyfreithiol ar gyfer yr amgylchedd. Byddwch yn datblygu’ch sgiliau ymchwil, yn ogystal â dechrau brandio’ch hun ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgysylltu â phynciau mwy datblygedig gan gynnwys, gan gynnwys Asesu, Rheoli ac Archwilio Amgylcheddol, a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a Thechnolegau Synhwyro o Bell. Bydd eich Prosiect Annibynnol yn eich galluogi i gynnal ymchwil fanwl ar faes o ddiddordeb personol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Facilities
Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd wedi’u lleoli ar gampws bywiog glannau Abertawe gan gynnig ystod eang o offer maes a labordy, sy’n rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr.

Gwybodaeth allweddol
-
98 o Bwyntiau Tariff UCAS
e.e. Safon Uwch: CCC/B, BTEC: MMM/D, IB: 31
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried: 
-
Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsaw Diploma Cenedlaethol Uwch (HND)
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;
-
Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è;
 Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Mae asesiadau’n amrywio ar draws modylau drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau o adroddiadau maes a labordy i gyflwyniadau, traethodau ac arholiadau i roi’r cyfle i chi wneud yn dda a dangos eich gwybodaeth ddatblygol.
Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi adborth ardderchog ar bob cam o’r cwrs i’ch helpu i wneud cynnydd.
Rydym yn defnyddio adborth i ddatblygu eich gwybodaeth am y cwrs ac, yn bwysig, eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ehangach wrth ysgrifennu adroddiadau, a chyfathrebu gwyddoniaeth fel y galwch ddangos eich gallu i weithio’n effeithiol yn sector yr amgylchedd ar ddiwedd eich cwrs.
-
Oherwydd natur ymarferol ein rhaglen rydym yn treulio llawer o amser yn y maes. Bydd angen i fyfyrwyr brynu dillad ac esgidiau addas ar gyfer hyn, fel esgidiau glaw a dillad gwrth-ddŵr. Yn ogystal, bydd angen prynu bwyd ar rai ymweliadau maes, yn ôl yr angen.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Mae ein BSc yn creu graddedigion y mae galw amdanynt mewn amrywiaeth o rolau a sectorau. Mae ein graddedigion yn cael eu cyflogi mewn ystod eang o yrfaoedd, gan gynnwys:
- Cadwraeth
- Ecoleg
- Dadansoddi Data
- Swyddogion arbenigol/ fel Ymgynghorwyr ac Ymchwilwyr / Myfyrwyr PhD
- Swyddogion Technegol
- Rheoli Gwastraff a Chynaliadwyedd,
- Ansawdd Dŵr ac eraill.
Mae’r wybodaeth hon yn fuddiol mewn ystod eang o sectorau gan gynnwys y sector cyhoeddus (Llywodraeth leol a chenedlaethol, Parciau Cenedlaethol), y sector preifat (arbenigwyr ymgynghori ar gyfer sefydliadau ac eraill) a’r trydydd sector (elusennau, addysg, prosiectau arbenigol). Mae gennym gyfradd gyflogaeth uchel ar ôl graddio, ac rydym hefyd yn annog ein graddedigion i ddychwelyd i wneud cyflwyniadau i’n myfyrwyr presennol.
Rydym yn darparu’r wybodaeth arbenigol sydd ei hangen ar ein graddedigion i fynd i’r afael â materion amgylcheddol cyfoes; fodd bynnag, rydym hefyd yn hyfforddi graddedigion sydd ag ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy ac ymarferol, gan gynyddu eich cyfleoedd gwaith.