ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol

Mae darpariaeth gydweithredol yn bwysig i’r Brifysgol am ei bod yn ffordd o drefnu bod ei rhaglenni ar gael i fyfyrwyr o ystod eang o ardaloedd daearyddol ac yn cynnig iddynt brofiad addysg byd-eang o’r iawn ryw.

Mae hefyd o fudd i sefydliadau partner y Brifysgol, a’r myfyrwyr sy’n astudio yno, trwy gynnig:

  • Cysylltiadau gwerthfawr ag addysg uwch yn y DU,
  • Cyfleoedd ymchwil a datblygiad staff,
  • Cyfleoedd ar gyfer dilyniant myfyrwyr,
  • Manteision sydd ar gael i holl gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
QAA – yn ymroddedig i ansawdd Addysg Uwch Drawswladol y DU – Cyfranogwr yn y Cynllun.

Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol

Mae’r Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol yn cefnogi cyflwyno’r canlynol mewn partneriaeth:

  • Rhaglenni PCYDDS
  • Rhaglenni Prifysgol Cymru (tan eu cwblhau).

Mae’n goruchwylio prosesau cymeradwyo a monitro ac yn cynnig cyngor ynghylch materion sy’n gysylltiedig â darpariaeth gydweithredol i staff yn y sefydliadau partner cydweithredol a’r Brifysgol.

  • Pan fydd myfyrwyr yn cofrestru ar un o raglenni’r Drindod Dewi Sant maent yn cytuno i dderbyn y telerau a’r amodau a nodir gan y sefydliad partner pan fyddwch yn derbyn lle ar y rhaglen. Maent hefyd yn cytuno i gydymffurfio â rheoliadau a phrosesau’r Brifysgol, sydd wedi eu crynhoi  yn y Cytundeb Cofrestru Partner.

  • Ysgrifennwyd llawlyfr Gweithrediadau Partneriaid yn bennaf er mwyn rhoi arweiniad i sefydliadau partner, er bod llawer o’r wybodaeth a geir ynddo hefyd yn berthnasol i staff y Brifysgol sy’n rhan o bartneriaethau cydweithredol. 

    Nod y Llawlyfr yw rhoi canllawiau cyffredinol ynghylch gweithredu rhaglen gydweithredol, a chadarnhau ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu gwasanaeth o ansawdd ar gyfer ei sefydliadau, er mwyn eu galluogi i weithredu’n effeithiol. 

    Yn y llawlyfr ceir cynnwys o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd a chyfeirir at y penodau a’r atodiadau priodol ar gyfer manylion pellach, fel y bo’n berthnasol. 

  • Mae’r Brifysgol hefyd wedi diweddaru ei chanllawiau mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer amgylchiadau esgusodol. Gellir dod o hyd i gopi o’r canllawiau newydd isod:

Students studying in Lampeter library

Adnoddau Llyfrgell

Er y darperir adnoddau dysgu craidd ar gyfer myfyrwyr gan bob sefydliad partner, gall y Brifysgol ddarparu rhai adnoddau ychwanegol ar gyfer ei myfyrwyr mewn sefydliadau partner.

Mae'r swyddfa wedi'i lleoli yng Nghaerdydd yn:

Adeilad Cofrestrfa’r Prifysgol Cymru
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Parc Cathays
Caerdydd 
CF10 3NS

  • Sylwch fod gennym ddau dîm o Swyddogion sy’n cefnogi ein partneriaid cydweithredol:

    Team A, sy’n cefnogi ac yn delio â’n partneriaid yn Tsieina a’r Dwyrain Pell.

    Team B, sy’n cefnogi ein partneriaid yn Ewrop. 

    Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol