Academi Chwaraeon PCYDDS yn Dathlu Anrhydedd Pêl-droed
Mae Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o gyhoeddi y bydd ei Phennaeth Pêl-droed, Martyn Bowles, yn parhau yn ei rôl fel Rheolwr Cynorthwyol Tîm Rhyngwladol Dan 18 CP Ysgolion Cymru am y tymor sydd i ddod.
Wrth iddynt baratoi i lansio eu hymgyrch am Darian Canmlwyddiant 2024, mae’r tîm yn edrych ymlaen at gystadlu mewn gemau bywiog yn erbyn gwrthwynebwyr yn cynnwys yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.
Cyflwynwyd y Darian Canmlwyddiant i Fwrdd Rhyngwladol Pêl-droed y Gymdeithas Ysgolion (SAFIB) yn 1973 gan C.P. yr Alban i nodi canmlwyddiant y Gymdeithas. Ar hyn o bryd detholion Bechgyn Dan 18 sy’n cynrychioli Cymdeithasau Bechgyn Ysgol gwledydd Ynysoedd Prydain sy’n cystadlu amdani. Gyda Martin yn bresennol yn y tîm rheoli dros nifer o flynyddoedd, nod Cymru yw sicrhau trydedd fuddugoliaeth hanesyddol o’r bron yn y bencampwriaeth.
Meddai Martyn:
“Ar ôl tymor llwyddiannus yma yn PCYDDS i’r timau pêl-droed, byddai’n ddiwedd tymor perffaith i mi pe gallai Cymru ennill deirgwaith yn olynol yn y gystadleuaeth hon. Ond mae’n dasg enfawr am fod yr holl dimau’n gystadleuol iawn ac mae’n her aruthrol o anodd.”
Dywedodd Lee Tregoning, Pennaeth yr Academi Chwaraeon yn PCYDDS, fod rôl hyfforddi ryngwladol Martyn yn ased arwyddocaol i’r sefydliad. Meddai:
“Mae’n fonws aruthrol cael hyfforddwr rhyngwladol yn aelod o staff yma yn yr Academi Chwaraeon a bydd y profiad hwn nid yn unig yn gwella Martyn yn bersonol wrth iddo ddod i gysylltiad â phêl-droed ryngwladol, ond wedyn wrth iddo ddefnyddio’r profiad hwn yn gweithio gyda’n timau Dynion a Menywod yn y dyfodol. Hefyd mae’n ymestyn brand PCYDDS yn allanol o fewn cylchoedd pêl-droed, sydd ond yn rhywbeth cadarnhaol. Estynwn ein dymuniadau gorau i Martyn a’r sgwad yn y gystadleuaeth.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476