O weithio fel swyddog gweinyddol i Eiriolwr Iechyd Cyhoeddus gyda PCYDDS
Gan ddangos ymrwymiad diwyro i ddatblygu ei haddysg a’i gyrfa, mae Shana Rankin, cyn swyddog gweinyddol cymorth adrannol y GIG, wedi trawsnewid yn llwyddiannus i yrfa ym maes iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol, diolch i gampws Birmingham Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Meddai Shana: “Arweiniodd fy awydd i ddatblygu fy ngyrfa fi at PCYDDS, prifysgol sy’n adnabyddus am ei hystod amrywiol o gyrsiau sy’n cyd-fynd yn berffaith â’m diddordebau a’m nodau. Cadarnhaodd fy rôl yn y GIG, lle’r oeddwn yn gyfrifol am recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, fy angerdd dros gael effaith gadarnhaol yn y sector gofal iechyd. Roedd cwblhau fy BSc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag anrhydedd tra’n rhagori yn y rôl ganolog hon yn garreg filltir arwyddocaol.”
Wedi’i gyrru gan awydd i ddatblygu ei harbenigedd, cofrestrodd Shana ar gyfer yr MSc mewn Ymarferion Iechyd Cyhoeddus a Gofal Cymdeithasol yn PCYDDS, gan ennill rhagoriaeth.
Dywedodd Shana: “Dewisais y cwrs hwn oherwydd ei fod yn cynnig sylfaen gadarn ac ystod amrywiol o wybodaeth sy’n hanfodol ar gyfer fy nhwf proffesiynol. Fy uchelgeisiau oedd ehangu fy ngwybodaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, tyfu’n broffesiynol, a chyfrannu’n ystyrlon at fywydau pobl. Roedd y cwrs hwn yn allweddol i’m helpu i gyrraedd fy nodau.”
Roedd cydbwyso cyfrifoldebau academaidd â heriau personol, gan gynnwys adferiad ar ôl llawdriniaeth, yn gamp fawr.
“Roedd y gefnogaeth gan fy nghyd-ddisgyblion, fy nheulu, ac yn arbennig fy narlithydd, Dr Aishat Bakre, yn hanfodol i oresgyn yr heriau hyn. Fe wnaeth eu cefnogaeth fy helpu i bontio yn ôl i’r brifysgol yn ddidrafferth.”
Wrth annog eraill i ystyried y cwrs hwn, ychwanegodd Shana: “Mae’r cwrs hwn yn sefyll allan am ei brofiadau dysgu cynhwysfawr, gan baratoi unigolion ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus ym maes iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol. Mae wedi bod yn hynod fuddiol yn broffesiynol ac yn bersonol, gan ehangu fy safbwynt a gwella fy ngallu i gael effaith gadarnhaol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071