ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Gabor Gulyas, sy’n frwd dros gyfrifiadura, yn 42 oed ac yn dod yn wreiddiol o Hwngari. Arweiniodd ei ymchwil am ragoriaeth academaidd a phrofiad ymarferol ef i gampws Llundain PCYDDS a heddiw mae’n graddio gyda BSc mewn Cyfrifiadura Cwmwl. 

A happy, smiling graduate standing proudly, dressed in his cap and gown at graduation..

Dywedodd Gabor mai pan oedd yn ifanc y dechreuodd ei angerdd am gyfrifiadura. Yn y blynyddoedd diweddarach, wrth geisio rhaglen a oedd yn cyfuno trylwyredd academaidd â chymhwysiad ymarferol, dywedodd ei fod yn gweld cwricwlwm cynhwysfawr ac amgylchedd dysgu cefnogol PCYDDS yn lleoliad delfrydol ar gyfer ei astudiaethau graddedig. 

“Dewisais y cwrs hwn oherwydd ei fod yn cynnig cyfuniad unigryw o wybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol,” meddai. “Mae’r modiwlau wedi’u teilwra i safonau cyfredol y diwydiant, ac mae’r gyfadran yn cynnwys arbenigwyr sy’n ymwneud yn weithredol ag ymchwil arloesol. Mae’r cwrs hwn yn gyfle perffaith i ddyfnhau fy nealltwriaeth a’m sgiliau mewn Cyfrifiadura Cwmwl.” 

Dywedodd Gabor mai ei brif nod oedd ennill gwybodaeth uwch ac arbenigedd mewn cyfrifiadura, gyda dyheadau i gyfrannu at brosiectau arloesol ac o bosibl ddilyn MSc. Yn broffesiynol, mae’n anelu at wella ei gymwysterau ymhellach i sicrhau swydd mewn cwmni neu sefydliad blaenllaw o fewn y diwydiant. 

“Un o uchafbwyntiau allweddol y cwrs oedd y prosiectau cydweithredol gyda phartneriaid yn y diwydiant, gan ddarparu profiad byd go iawn amhrisiadwy a chyfleoedd rhwydweithio,” meddai.  

“Yn ogystal, roedd y garfan amrywiol o fyfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn cyfoethogi trafodaethau dosbarth ac yn ehangu safbwyntiau. Roedd darlithoedd gwadd gan weithwyr proffesiynol y diwydiant hefyd yn cynnig mewnwelediadau anhygoel.” 

Yn ystod ei astudiaethau, cwblhaodd Gabor brosiect ymchwil heriol a gwerth chweil ar ddatblygu apiau symudol. Caniataodd y profiad hwn iddo gymhwyso ei wybodaeth academaidd at broblemau’r byd go iawn a datblygu sgiliau ymarferol. 

Dywedodd Gabor mai cydbwyso ei lwyth gwaith academaidd ag ymrwymiadau personol oedd un o’r prif heriau a wynebai. Trwy reoli amser yn effeithiol, blaenoriaethu tasgau, a cheisio cefnogaeth gan ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr, llwyddodd i oresgyn y rhwystrau hyn, gan gynnal agwedd gadarnhaol drwyddi draw. 

“Mae’r cwrs hwn yn darparu addysg gyflawn sy’n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad ymarferol. Mae’r gyfadran yn gefnogol iawn, ac mae’r cwricwlwm wedi’i gynllunio i fodloni gofynion cyfredol y diwydiant. I unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu gyrfa mewn cyfrifiadura, mae’r cwrs hwn yn cynnig yr offer a’r cyfleoedd sydd eu hangen i lwyddo.” 

Wrth edrych ymlaen, dywedodd Gabor ei fod yn ystyried astudiaethau pellach neu ardystiadau i barhau i ddatblygu ei yrfa. Yn y tymor hir, mae’n gobeithio cyfrannu at brosiectau sy’n cael effaith ac yn y pen draw ymgymryd â rôl arweiniol yn ei faes. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon