ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Coleg Celf Abertawe yn PCYDDS yn falch o gyflwyno ‘EDRYCHWCH AR BETH WNAETHOCH CHI’, arddangosfa ddiddorol i brocio’r meddwl sy’n dangos gwaith arloesol a rhyngddisgyblaethol myfyrwyr y rhaglen MA Deialogau Cyfoes. 

A student standing in front of several paintings at the exhibition.

Mae’r arddangosfa ddeinamig hon yn dod â gwaith at ei gilydd gan fyfyrwyr ar draws ystod o raglenni, yn cynnwys Ffotograffiaeth, Celf Gain, Darlunio, Tecstilau, Crefftau Dylunio, Gwydr, Dylunio Graffig, a Delwedd Symudol, gan ddathlu eu meistrolaeth ar sgiliau arbenigol ar yr un pryd â manteisio ar ddulliau rhyngddisgyblaethol cyffrous. 

Mae’r teitl, ‘EDRYCHWCH AR BETH WNAETHOCH CHI’, yn ddatganiad eofn ac yn her.  Mae’n ysgogi cynulleidfaoedd i adfyfyrio ar oblygiadau effaith dynoliaeth ar y byd, yn enwedig yng nghyd-destun yr Anthroposen, masgynhyrchu, a phrynwriaeth.  Mae’r artistiaid a dylunwyr newydd hyn yn ein gwahodd i ailystyried prosesau a systemau cyfredol, gan gynnig strategaethau ffres ar gyfer y dyfodol. 

Meddai’r Uwch Ddarlithydd Catherine Brown: “Mae’r portffolio MA Deialogau Cyfoes yn annog myfyrwyr i ddefnyddio dull rhyngddisgyblaethol, ac mae’r arddangosfa hon yn dangos yn eglur y cyfleoedd cyffrous y maen nhw wedi manteisio arnynt.  O fyfyrwyr Darlunio yn gweithio mewn gwydr lliw i fyfyrwyr Ffotograffiaeth yn creu gosodweithiau cerfluniol ar raddfa fawr, mae’r gweithiau’n adlewyrchu ymrwymiad i arloesi a meddwl i’r dyfodol.  Rydym ni’n ymfalchïo’n fawr iawn yn eu brwdfrydedd a’u hymroddiad ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.”

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Mae cynnal arddangosfa yn cynnwys gwaith myfyrwyr ar draws y rhaglenni hyn yn hollbwysig er mwyn meithrin doniau creadigol a rhoi platfform i artistiaid newydd rannu eu lleisiau.  Nid yn unig y mae’n dathlu eu cyflawniadau ond mae hefyd yn meithrin deialog, yn ysbrydoli arloesi, ac yn cysylltu eu syniadau â’r gymuned ehangach, gan siapio tirwedd ddiwylliannol a chreadigol yfory.” 

Ynglŷn â’r Arddangosfa 

Drwy arferion arbrofol a rhyngddisgyblaethol, mae’r myfyrwyr hyn yn cwestiynu, yn herio, ac yn ail-ddychmygu’r ffordd rydym yn rhyngweithio â’r byd.  Mae pob gwaith yn ymgorffori ymateb i ethos y rhaglen o feithrin deialog feirniadol a manteisio ar greadigrwydd arbrofol, gan gynnig cipolwg ar oes newydd o ddylunio a chelfyddyd gynaliadwy ac ymwybodol. 

ٲ徱岹’r&Բ;岹ԲDzڲ:

              •            Digwyddiad Agoriadol: Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024, 4pm–9pm

              •            Arddangosfa ar Agor: 14 Rhagfyr 2024 – 10 Ionawr 2025, 10am–4pm

              •            Arddangosfa ar Gau: 21 Rhagfyr 2024 – 5 Ionawr 2025 ac ar ddydd Sul 

Lleoliad: Cyntedd Dinefwr a Stiwdio Griffith, Coleg Celf Abertawe, SA1 3EU

A happy smiling student showcasing his exhibition work of figures.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon