ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous a phrysur i Amy Evans, sydd wedi cwblhau gradd-brentisiaeth bedair blynedd yn y Drindod Dewi Sant, wedi sicrhau swydd amser llawn newydd ym maes peirianneg gyda sefydliad ymchwil, ac wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobr fawreddog i ychwanegu at y cyfan!

A woman sitting at a desk in front of her laptop.

Cwblhaodd Amy ei Gradd-brentisiaeth mewn Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch gyda’r Brifysgol ac mae’n canmol ei dysgu seiliedig ar waith. Meddai Amy, “P’un a ydych chi newydd ddechrau fel peiriannydd neu wedi bod yn y maes ers cryn amser, mae pob agwedd ar y rhaglen hon yn rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd i chi sy’n hanfodol ar gyfer symud ymlaen ym maes  gweithgynhyrchu modern. Mae’n galluogi peirianwyr i wella a datblygu eu harferion er mwyn siapio diwydiant y dyfodol.”

Fel cyn beiriannydd prosiect gyda Zimmer Biomet, arweinydd byd-eang ym maes technoleg feddygol, enillodd Amy gydnabyddiaeth am ddynodi gwelliant gweithgynhyrchu a arbedodd £180,000 y flwyddyn a lleihau’r defnydd o sylweddau seiliedig ar doddyddion.  Yn sgil ei champ yn hyn o beth cafodd ei dewis i fod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 gan gyrraedd y rownd derfynol yn y categori Prentis Uwch y Flwyddyn.

“Mae ymgymryd â’r brentisiaeth wedi bod yn brofiad trawsnewidiol, gan roi hwb i’m hyder a’m hunan-barch wrth agor cyfleoedd gyrfa newydd,” meddai Amy. “Gyda phob sgil newydd a phob darn o wybodaeth a enillais, cynyddodd fy hyder yn fy ngalluoedd. Rwyf bellach yn mynd i’r afael â phrosiectau a heriau gydag ymdeimlad cryfach o sicrwydd a phenderfyniad”.

Yn ddiweddar mae Amy wedi ymuno ag AMRC Cymru, sy’n rhan o Brifysgol Sheffield, fel Uwch Beiriannydd Ymchwil Gweithgynhyrchu. Wedi’i leoli ym Mrychdyn, Gogledd Cymru a Baglan, De Cymru, ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae AMRC Cymru yn aelod o’r High Value Manufacturing (HVM) Catapult, consortiwm o ganolfannau ymchwil gweithgynhyrchu a phrosesu blaenllaw a gefnogir gan Innovate UK. Mae’n troi ymchwil sy’n arwain ar lefel fyd-eang yn welliannau ymarferol i ddiwydiant, gan helpu i hybu cynhyrchiant busnesau a’u gwneud yn fwy cystadleuol, wrth arbed amser, arian ac egni. Mae AMRC Cymru yn meithrin cydweithrediadau a phartneriaethau rhwng diwydiant, y byd academaidd a llywodraeth i ddarparu ymchwil, datblygu ac arloesi newydd i sicrhau gwell cynhyrchion a phrosesau; gan yrru technolegau gweithgynhyrchu cynaliadwy yn eu blaen at sero net, a chreu’r newidiadau sylweddol hanfodol sydd eu hangen wrth bontio i economi carbon isel.

“Rwy’n hynod gyffrous i ymgymryd â’r rôl newydd hon yn AMRC Cymru. Mae’r wybodaeth a’r arbenigedd rydw i wedi’u hennill drwy fy ngradd yn y Drindod Dewi Sant, ynghyd â’m profiad fel peiriannydd ym maes gweithgynhyrchu, yn fy ngwneud yn hyderus y gallaf wneud gwahaniaeth ystyrlon a chefnogi twf gweithgynhyrchu yng Nghymru. Rwy’n awyddus i gyfrannu at y gwaith arloesol sy’n digwydd yn yr AMRC a helpu i yrru dyfodol gweithgynhyrchu uwch.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon