Arbenigwyr Newydd yn Symbylu Llwyddiant yn Academi Chwaraeon PCYDDS
Mae Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu ychwanegiad dau aelod o staff rhan-amser newydd at y tîm, ac mae eu harbenigedd wedi cael effaith sylweddol yn barod yn ystod y tymor academaidd cyntaf.
Mae Dr Rhys Jones wedi ymuno â’r Academi yn Bennaeth Cryfder a Chyflyru, gan ddod ag 16 blynedd o brofiad chwaraeon proffesiynol gydag ef. Mae ei yrfa eithriadol yn cynnwys rolau yn Athrofa Chwaraeon Lloegr (a elwir bellach yn Athrofa Chwaraeon y DU), Wasps Llundain, a degawd yn Uwch Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru yn y Sgarlets. Yn un o raddedigion Prifysgol Loughborough a Phrifysgol Abertawe, lle enillodd ei PhD, daw Dr Jones â chyfoeth o wybodaeth i’r rôl. Meddai:
“Mae uchelgais, potensial a chyfleoedd enfawr yn PCYDDS. Rwy’n edrych ymlaen i allu cyfrannu at dwf a llwyddiant parhaus yr Academi Chwaraeon.”
Mae’r Academi hefyd wedi croesawu Rob Thomas yn Bennaeth Pêl-droed newydd. Gyda thros 15 mlynedd o brofiad yn Ymddiriedolaeth FAW yn Gydlynydd Addysg Hyfforddwyr Gôl-geidwaid Cenedlaethol, mae Rob wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu hyfforddiant gôl-geidwaid yng Nghymru. Mae ei gymwysterau’n cynnwys goruchwylio rhaglen gôl-geidwaid FAW a darparu cyrsiau amrywiol o Lefel 1 i’r Drwydded A Gôl-geidwaid FAW/UEFA mawreddog. Yn Bennaeth Gôl-geidwaid AFC Sir Casnewydd EFL ar hyn o bryd, bydd Rob yn cyfuno’r rôl hon gyda’i gyfrifoldebau yn PCYDDS. Meddai Rob:
“Mae’r ddarpariaeth bêl-droed yn PCYDDS wedi datblygu’n enfawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac rwy’n edrych ymlaen at ei datblygu ymhellach.”
Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:
“Mae’n bleser gennym groesawu dau unigolyn cymwys a phrofiadol iawn yn eu meysydd i’r Academi Chwaraeon. Bydd eu profiad o chwaraeon elît proffesiynol yn fantais enfawr i’n darpar athletwyr. Maent wedi cael effaith yn syth, mae Rob wedi goruchwylio dechrau anhygoel i’r tymor pêl-droed gyda’r tîm Dynion heb eu curo hyd yma ac wedi’u gosod ar frig eu cynghrair ac mae Rhys wedi trawsnewid perfformiadau corfforol holl dimau ac unigolion Chwaraeon Undeb y Myfyrwyr sy’n cael eu cefnogi gan yr Academi Chwaraeon mewn cyfnod byr ac nid ydynt wedi bod mewn gwell cyflwr corfforol.
“Bu’n dymor cyntaf gwych i’r holl dimau wrth i Rygbi Dynion a Phêl-rwyd Merched ymuno â Phêl-droed Dynion o ran eu bod hwythau hefyd heb eu curo ac ar frig y cynghreiriau perthnasol ar hyn o bryd. Mae pawb yn edrych ymlaen at ail-ddechrau’r tymor ar ôl egwyl y Nadolig gyda’r gobaith y bydd popeth yn parhau yn yr un ffordd.”
Disgwylir i Academi Chwaraeon PCYDDS barhau ar ei llwybr llwyddiannus, gyda Dr Rhys Jones a Rob Thomas yn chwarae rhannau hanfodol wrth siapio ei dyfodol.
Am fwy o wybodaeth am yr Academi Wybodaeth, ewch i: Academi Chwaraeon | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476