ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Fframwaith Arfer Proffesiynol

Students in a lecture.

Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP)

Croeso i Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae rhaglenni’r Fframwaith wedi’u llunio i rymuso dysgwyr i weld gwerth eu dysgu seiliedig ar waith a gwella’u sgiliau i sicrhau llwyddiant yn amgylchedd proffesiynol dynamig y byd sydd ohoni.  

Pa un a ydych yn unigolyn sydd eisiau tyfu’n bersonol neu’n gyflogwr sy’n gwella galluoedd y gweithlu, mae ein fframwaith yn cynnig atebion hyblyg, wedi’u teilwra, sy’n gymwys ar draws pob diwydiant. 

Ffeithiau am radd-brentisiaethau

01
Mae’r FfAP wedi ymrwymo i gydweithio gyda dysgwyr a chyflogwyr i ddarparu rhaglenni sy’n bodloni’u hanghenion yn effeithiol. Mae’n cynnig cyrsiau sy’n galluogi dysgwyr i gydnabod y dysgu maent eisoes wedi’i gaffael o fewn eu hamgylcheddau gwaith.
02
Manteisiwch ar ein profiad o ddiwydiant, gan bontio gwybodaeth academaidd â mewnwelediadau o’r byd go iawn. Gyda thîm sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol, mae ein fframwaith yn sicrhau eich bod yn derbyn arweiniad a mentoriaeth arbenigol.
03
Mae’r FfAP yn caniatáu i ddysgwyr gydbwyso eu hastudiaethau ag ymrwymiadau eraill, heb fod angen mynychu’n wythnosol fel sy’n draddodiadol. Mae ein fframwaith yn darparu ar gyfer arddulliau dysgu amrywiol, gan sicrhau hygyrchedd a chyfleustra i bawb.
04
Gall cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant weithio gyda ni i ddatblygu rhaglenni achrededig pwrpasol, gan wella gwerth, hygrededd ac ansawdd rhaglenni datblygu mewnol a masnachol.
05
Mae dysgwyr yn ennill sgiliau ymarferol, gwybodaeth ddamcaniaethol, sgiliau adfyfyriol a beirniadol, gan sicrhau deilliannau sy’n cael effaith yn achos cyflogwyr ac unigolion. Mae pob aseiniad cwrs yn cael ei gymhwyso’n uniongyrchol i’r gweithle.
06
Mae dysgwyr yn ymgymryd â thaith hunanddarganfod drwy adfyfyrio a dadansoddi beirniadol, gan arwain at hawlio credydau academaidd am hyd at ddwy ran o dair o ddyfarniad, am ddysgu a gaffaelwyd eisoes wrth weithio.

Gwybodaeth am y Fframwaith Arfer Proffesiynol 

Ystyrir bod profiad proffesiynol o werth mawr, ac nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol arnoch i astudio gyda ni. Mae’r FfAP yn darparu cyfleoedd dysgu dwyieithog sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, ac sy’n hygyrch, yn hyblyg, yn gynhwysol ac yn berthnasol i bob diwydiant.

2 students discussing in the classroom.

Pa un a ydych yn awyddus i achredu cymwysterau neu brofiad dysgu wedi’i addasu’n arbennig, mae ein fframwaith yn cynnig hyblygrwydd a chymorth wedi’i deilwra i anghenion eich sefydliad. Llunnir rhaglenni a modylau wedi’u teilwra i ddatblygu twf proffesiynol a gyrru llwyddiant sefydliadol.

a group of people smiling

Mae’r FfAP wedi’i lunio i wella eich dysgu seiliedig ar waith drwy gydnabod eich profiad a gwella eich sgiliau sy’n berthnasol i’ch gweithle. Archwiliwch ein hamrywiaeth o fodylau, o ddatblygu arweinyddiaeth i hyfforddi a mentora, cydnabod ac achredu dysgu drwy brofiad, astudio annibynnol, prosiectau ymchwil ar ddysgu seiliedig ar waith, a mwy.

Students discussing in the classroom.
Three students discussing in class

FAQs on the Professional Practice Framework

The Professional Practice Framework (PPF) at ºÚÁϳԹÏÍø is a non-traditional and flexible learning framework designed to help professionals balance their studies with work and personal commitments. With over 500 learners enrolled in 2023/24, the PPF offers bilingual provision across all programmes to ensure accessibility for a diverse range of learners. The framework is particularly focused on enhancing professional development within the workplace, making it an employer-focused programme that directly benefits both the professionals and their organisations. 

The FAQ page offers detailed insights into the programme’s structure, benefits, and the support available to learners, highlighting how the PPF facilitates a comprehensive and practical learning experience.

More information about degree apprenticeships.

Ffeithiau a Ffigurau