Cyflogwyr – Pam gweithio gyda’r Fframwaith Arfer Proffesiynol?
Cyfoethogwch eich Rhaglenni Hyfforddi gyda’n Gwasanaethau Achredu
Yn y Drindod Dewi Sant, rydym yn cydweithio’n agos â chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i addasu ac achredu eu rhaglenni hyfforddi mewnol. Mae ein gwasanaeth achredu’n sicrhau bod y rhaglenni hyn yn bodloni safonau academaidd trylwyr ac yn cynnig credydau prifysgol gwerthfawr. Mae’r bartneriaeth hon nid yn unig yn cyfoethogi sgiliau eich gweithlu ond hefyd yn alinio datblygiad proffesiynol ag anghenion strategol eich sefydliad.
Bydd ein cynghorydd dysgu arweiniol yn gweithio gyda chi i ateb y cwestiynau canlynol ac yna dylunio ein gwasanaethau i fodloni eich anghenion:
-
Ydych chi’n gwmni sy’n awyddus i gael eich datblygiad staff mewnol neu’ch darpariaeth hyfforddi masnachol wedi’i gydnabod gan y Brifysgol?
Gall ein gwasanaeth achredu fodloni eich gofynion.
-
Croesewir ceisiadau gan:
1. Sefydliadau sydd wedi sefydlu eu cwrs dysgu eu hunain sy’n benodol i’w sector, a ddarparwyd yn flaenorol yn fewnol, ac sydd nawr eisiau ei achredu i’w ddarparu’n fasnachol i sefydliadau eraill yn eu sector eu hunain.
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau sydd wedi datblygu cyrsiau dysgu penodol i’w sector ac sydd nawr eisiau achredu’r cyrsiau hyn i’w darparu’n fasnachol. Mae’r broses hon yn ychwanegu gwerth a hygrededd i’ch rhaglenni hyfforddi, gan sicrhau eu bod yn bodloni safonau diwydiant ac yn cynnig cymwysterau cydnabyddedig.
2. Sefydliadau sydd wedi nodi angen am ddysgu a datblygu ar gyfer sector penodol mewn pwnc/maes arbennig ac sy’n dymuno datblygu cwrs wedi’i achredu i ddarparu hyn yn fasnachol.
Rydym yn cynorthwyo i ddatblygu ac achredu cyrsiau newydd penodol i sectorau i fynd i’r afael ag anghenion dysgu a datblygu penodol o fewn eich sefydliad neu ddiwydiant. Mae hyn yn sicrhau bod eich rhaglenni hyfforddi wedi’u teilwra i fodloni gofynion esblygol eich sector.
3. Sefydliadau hyfforddi a datblygu sy’n dymuno ychwanegu gwerth a bri marchnata i’r rhaglenni pwrpasol maent yn eu datblygu ar gyfer eu cleientiaid trwy eu hachredu.
Rydym yn cydweithio â darparwyr hyfforddiant i achredu rhaglenni pwrpasol, gan eu gwneud yn haws eu marchnata a darparu gwerth ychwanegol i’w cleientiaid.
Darpariaeth wedi’i theilwra i fodloni anghenion sefydliadol penodol.
Rydym yn cynnig ein holl brif ddarpariaethau ar ffurf hyfforddiant i garfannau sefydliadol neu fel rhan o gynllun dysgu ar gyfer eich gweithwyr. Gall ein tiwtoriaid ddarparu hyfforddiant a datblygu ar eich safle chi, ar adeg sy’n gyfleus i chi. Gallwn addasu’r patrwm cyflwyno i leihau gwrthdaro â phatrymau gwaith a gallwn addasu cyrsiau i adlewyrchu eich anghenion diwylliannol a strategol. Er enghraifft, gallwn integreiddio eich fframwaith arweinyddiaeth neu ymgorffori eich blaenoriaethau sefydliadol o fewn prosiectau ymchwil seiliedig ar waith.
Trwy bartneru â’r Drindod Dewi Sant a’r Fframwaith Arfer Proffesiynol, gall eich sefydliad elwa o hyfforddiant achrededig sy’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â’ch anghenion unigryw ac sy’n gwella galluoedd eich gweithlu. Cysylltwch â ni i archwilio sut y gallwn gydweithio i gyflawni eich nodau datblygu sefydliadol - ppf@uwtsd.ac.uk.