Aelodau’r Cyngor PCYDDS
-
Yn raddedig o Brifysgol Cymru (Bangor) a PCYDDS, cafodd Emlyn Dole yrfa gynnar yng ngweinidogaeth y Bedyddwyr ac yn y celfyddydau cyn dod yn Gynghorydd Sir etholedig. Gwasanaethodd am saith mlynedd fel Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin lle bu’n gyfrifol am weledigaeth a strategaeth gorfforaethol y Cyngor. Roedd yn un o brif benseiri Bargen Ddinesig Bae Abertawe ynghyd â llwyddiant y Cyngor i ddenu cyllid Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU. Mae’n un o ymddiriedolwyr Undeb Bedyddwyr Cymru ac yn parhau i weithio’n rhan amser fel gweinidog hunan-gyflogedig.
-
Yr Athro Elwen Evans, KC, yw Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Astudiodd yr Athro Evans y Gyfraith yng Ngholeg Girton, Caergrawnt, gan raddio â gradd dosbarth cyntaf ddwbl: M.A. (Cantab). Ar ôl graddio aeth ymlaen i Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Frawdlys ac fe’i galwyd i’r Bar gan Gray’s Inn yn 1980. Fe’i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2002.
Mae’r Athro Evans wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus iawn yn fargyfreithiwr gan ddewis ymarfer yng Nghymru yn bennaf. Mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith cyfreithiol, ac wedi arbenigo mewn cyfraith trosedd ar lefelau treial ac apeliadau. Mae ei gwaith wedi cynnwys llawer o achosion difrifol, cymhleth, sensitif ac uchel eu proffil, megis arwain y tîm erlyn yn achos April Jones a’r tîm amddiffyn yn achos trychineb Glofa Gleision. Mae hi’n Gofiadur Llys y Goron ers cael ei phenodi yn 2001. Bu’n Bennaeth Iscoed Chambers am dros 15 mlynedd cyn ei phenodi i rôl Pennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe yn 2015 lle sefydlodd Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Yn 2020, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a bu’n gyfrifol am arwain twf llwyddiannus y Gyfadran yn ystod y cyfnod hwn. Roedd ei phortffolio hefyd yn cynnwys cynnig arweiniad strategol i weithgareddau cenhadaeth ddinesig y Brifysgol a datblygu perthnasoedd y Brifysgol yn llwyddiannus gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys cyn-fyfyrwyr a chymwynaswyr.
Gyda’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddi, mae hi’n Feinciwr yn ei Hysbyty, fe’i hanrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaethau i’r Gyfraith yng Nghymru a bu’n Gomisiynydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae hi wedi gwasanaethu ar amrywiaeth eang o gyrff a phwyllgorau allanol, gan adlewyrchu ei meysydd profiad a diddordeb proffesiynol. Yn 2018, roedd ymhlith y 10 uchaf ar restr yn dathlu 100 o fenywod mwyaf ysbrydoledig Cymru.
-
Mae Justin Albert OBE wedi bod yn Gyfarwyddwr ar Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru er 2011. Mae ganddo gefndir cyfreithiol a phrofiad helaeth o arweinyddiaeth fasnachol ac nid-er-elw mewn sefydliadau cadwraeth, addysgol a diwylliannol. Mae ei rolau blaenorol wedi cynnwys bod yn aelod o fwrdd Croeso Cymru a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac yn ymgynghorydd i Weinidog y Cabinet ar gyfer Economi a Thrafnidiaeth; mae ei rolau cyfredol yn cynnwys Is-Lywydd Gŵyl y Gelli, Ymddiriedolwr Farms for City Children a llywodraethwr yr Ysgol Fale Frenhinol.
Yn ogystal â’i radd yn y gyfraith mae ganddo radd Anrhydeddus o Brifysgol Cymru. Mae’n ddinesydd deuol y DU a’r Unol Daleithiau.
-
Wedi’i eni a’i addysgu yng Nghaerfyrddin, mae gan Timothy Llewelyn gefndir mewn bancio. Roedd ganddo uwch swyddi rheolaethol ym Manc Lloyds tan 2018, ac yn fwyaf diweddar, bu’n Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol dros Gymru a’r Rhanbarth Gorllewinol. Mae ganddo bellach nifer o swyddi anweithredol: ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Cymdeithas Tai Bro Myrddin; mae’n aelod Lleyg o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ac yn Gadeirydd ei Bwyllgor Sefydlog; yn Is-gadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi; ac yn Drysorydd Eglwys Sant Pedr yng Nghaerfyrddin.
-
Mae cefndir gan Nigel Roberts ym maes bancio ac mae wedi dal swyddi rheoli gyda Banc Midland/HSBC tan 2010, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Bancio Masnachol ar gyfer Gorllewin Cymru. Bellach mae’n gweithio fel ymgynghorydd i Clay Shaw Butler, Cyfrifyddion Siartredig ac mae’n dal nifer o swyddi anweithredol o fewn Esgobaeth Tyddewi. Mae rolau cyfredol eraill yn cynnwys Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Wirfoddol Eglwysig y Model ac Ymddiriedolwr ar gyfer Canolfannau Teulu Caerfyrddin. Mae hefyd yn aelod o’r Panel Benthyciadau ar gyfer Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.
-
Wedi ei magu a’i haddysgu yng Nghymru, gweithiai Elizabeth Siberry fel gwas sifil yn Llundain: yn Gyfarwyddwr AD adrannol rhwng 2003-08 ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol rhwng 2008-11. Bellach mae ganddi bortffolio o rolau sector cyhoeddus ac ymddiriedolaethau yn y sector elusennol: yn ogystal â bod yn aelod o Gyngor y Brifysgol mae’n un o Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cymdeithas Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Celfyddydau Brycheiniog, ac Ymddiriedolaeth Gregynog.
Astudiodd hanes yn Llundain a Chaergrawnt a dyfarnwyd iddi PhD yn 1982. Mae’n parhau i ysgrifennu a chyhoeddi fel hanesydd, gan weithio ar agweddau ar hanes canoloesol a hanes Sir Frycheiniog ac mae hi’n aelod o fwrdd golygyddol y cylchgrawn Brycheiniog. Dyfarnwyd iddi OBE yn 1997.
-
An Honorary Fellow of the ºÚÁϳԹÏÍø, Deris Williams was Director of Menter Cwm Gwendraeth for almost twenty years prior to her retirement in 2015. She has also worked extensively in the voluntary sector, including as a school governor, a community councillor and as a member of the Local Health Board. She was the General Secretary of the Carmarthenshire Urdd National Eisteddfod and the Carmarthenshire National Eisteddfod. She currently works in a freelance capacity as a Lay Inspector for Estyn and is a regular contributor to the S4C programme ‘Prynhawn Da’ and to various programmes on Radio Cymru. She is also Chair of Hanfod Cymru, the registered charity which distributes grants to community groups on behalf of Loteri Cymru.
-
Iwan Thomas is the current Chair of the Governing Body at Pembrokeshire College. He is the Chief Executive of PLANED, a regional community development charity working across West Wales and an Independent Member of Hywel Dda University Health Board. In addition, Iwan serves in a voluntary capacity on a number of key bodies and organisations, including as a member of the Third Sector Partnership Council for Wales, a Director of Visit Pembrokeshire and the Chair of St Mary’s Llanllwch Church Council. In his spare time he supports a number of community organisations with fundraising and activities.
-
Geraint Evans MBE has been the Chair of Cardiff and the Vale College Corporation since 2011. He is a lawyer who has spent over twenty years working as a managing director of a retail company. He has run several successful businesses and worked in several voluntary positions in the business and education sectors serving local communities across Cardiff and the Vale.
Until recently, he was the Chair of Business in Focus – the business and enterprise support company where he remains a director. He is the Vice-Chair of the Governors of Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, after spending twelve years as Chair. He is a keen sports fan, particularly rugby and cricket, and has played for the MCC in the past.
Penodwyd gan y Staff Academaidd
-
Ymunodd Dr Kerry Tudor â’r Drindod Dewi Sant yn 2013 yn ddarlithydd mewn Peirianneg Foduro, ar ôl cwblhau Doethuriaeth Beirianneg (EngD) a oedd yn rhychwantu’r Diwydiannau Moduro a Dur. Gan ddefnyddio ei phrofiad diwydiannol, mae wedi datblygu cyfres lwyddiannus ynghylch Datblygiad Proffesiynol a Chyflogadwyedd i helpu’r myfyrwyr peirianneg i gynyddu eu sgiliau meddal ac elwa o ddarlithoedd gwadd gan amrywiaeth o gwmnïau a sefydliadau perthnasol.
Y meysydd ymchwil sydd o ddiddordeb iddi yw’r dadansoddiad cynaliadwyedd a chylch bywyd ar gyfer y diwydiant moduro a chwaraeon moduro. Mae ei chyfrifoldebau addysgu yn cynnwys pynciau megis dylunio peirianneg, sgiliau astudio peirianneg a materion cynaliadwyedd, yn ogystal â chyflwyno sgiliau peirianneg allweddol megis dylunio drwy gymorth cyfrifiadur a llunio adroddiadau technegol. Enillodd statws Peiriannydd Siartredig yn 2015 ac mae’n un o Gymrodyr yr Academi Addysg Uwch.
Clerc y Cyngor
-
Clerc y Cyngor yw:
Sarah Clark
Ysgrifennydd y Brifysgol
E-bost: s.clark@uwtsd.ac.uk