Cyn Cyrraedd
Cynnwys
Lawrlwythwch Ap Hwb
Ap yr Hwb yw’r ap hanfodol ar gyfer holl fyfyrwyr PCYDDS. Cyn i chi ddechrau, fe welwch wybodaeth bwysig am eich digwyddiadau Croeso a Chyfeiriadedd ar yr ap.
Byddwch hefyd yn cael mynediad at ein Hwbcasts drwy’r ap. Ymunwch â thîm Hwb wrth i ni gyflwyno popeth PCYDDS mewn penodau hawdd eu treulio. P’un a ydych yn ymuno â ni am y tro cyntaf neu os ydych yn dychwelyd, gallwch wrando, gwylio, neu ddarllen yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Gallwch gael mynediad i’r ap yn eich porwr gwe
Rhestr Wirio
MyTSD
Dylech ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn i ddiweddaru data personol, gweld eich dewisiadau modiwl, a gweld eich canlyniadau.
Lanlwytho Llun
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi lanlwytho llun ar gyfer eich Cerdyn Adnabod. Mewngofnodwch i a chliciwch ar ‘Dogfennau gofynnol cyn cofrestru’. Mae angen y wybodaeth hon arnom i argraffu eich cerdyn adnabod corfforol ag i chi weld eich ID digidol.
Cofrestru
Tua pythenfos cyn i’ch cwrs ddechrau, byddwch yn derbyn e-bost yn dweud wrthych am fewngofnodi i i gofrestru i’ch rhaglen astudio. Fel rhan o’r broses, gofynnir i chi gadarnhau pa fodiwlau yr hoffech eu hastudio yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Amserlen
Bydd eich amserlen ar gael unwaith y byddwch wedi cofrestru. Gallwch gael mynediad at eich amserlen drwy ap yr Hwb. Os na allwch weld eich amserlen 48 awr ar ôl i chi gofrestru, cysylltwch â’r Hwb.
Delio â Newid
Rydym yn deall y gall symud i amgylchedd dysgu newydd fod yn anodd. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n gyffrous ac yn obeithiol, neu efallai y byddwch chi’n teimlo dan straen ac yn poeni am y newidiadau.
Dyna pam rydyn ni’n cynnal sesiynau ar draws ein campysau Cymraeg i drafod y gefnogaeth sydd ar gael i chi.
Dysgwch am y gwasanaethau cymorth yn y brifysgol a chwrdd â’r staff sydd yma i’ch helpu.
- Darganfyddwch y campws a’ch amgylchedd dysgu newydd.
- Clywch gan fyfyrwyr sydd wedi profi newidiadau tebyg.
- Gwneud ffrindiau newydd.
- Archwiliwch sgiliau hanfodol ar gyfer ennill annibyniaeth.
Pryd mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal?
- Medi 4 – Caerdydd
- Medi 13 – Llambed
- Medi 20 - Abertawe (IQ), Caerfyrddin
Gallwch fynychu sesiwn bore neu brynhawn ar unrhyw gampws sy’n cynnal digwyddiad. Cynhelir y sesiynau rhwng 10yb ac 1.30yp a 1:30yp a 5:00yp ar bob dyddiad.
Cefnogaeth
Cefnogaeth
Cwblhewch ein i ofyn am ragor o wybodaeth am sut y gallwn eich cynorthwyo i astudio gyda PCYDDS.
Mae’r tîm Cymorth Dysgu yn darparu cymorth academaidd cynhwysfawr i fyfyrwyr anabl.
Mae ein tîm yn cefnogi myfyrwyr i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), gan gynnwys mynediad i asesiad ar gyfer Gwahaniaeth Dysgu Penodol (SpLD).
Beth bynnag eich statws DSA, rydym wrth law i’ch cefnogi.
Gallwch ofyn am gyfweliad i drafod eich anghenion ar unrhyw adeg.
Parcio
Mae parcio ar gael yn rhad ac am ddim ar rai o’n campysau ond bydd angen i chi gofrestru am drwydded. Bydd angen i chi gofrestru gyda’ch cyfeiriad e-bost PCYDDS. Bydd unrhyw ceisiadau a grëir gydag e-bost nad yw’n ymwneud â PCYDDS yn cael eu gwrthod.
Llety
Mae gan ein campysau yng Nghaerfyrddin a Llambed llety myfyrwyr ar y safle, gyda llawer o’r ystafelloedd hyn wedi’u blaenoriaethu ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf.
Mae gan Abertawe, Caerdydd, Llundain a Birmingham gynnig o lety preifat pwrpasol yn agos at ein campysau.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am lety? Cysylltwch â’r tîm llety@uwtsd.ac.uk
Peidiwch ag anghofio ymweld â’n tudalennau llety.
Cyllid
Yn ystod y proses gofrestru bydd angen i chi amlinellu sut rydych yn bwriadu talu eich ffioedd dysgu.
Os ydych wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr, byddwch yn derbyn eich rhandaliad taliad cyntaf o fewn eich wythnos gyntaf yn PCYDDS. Telir eich ffioedd dysgu yn uniongyrchol i’r brifysgol.
Sylwch na fydd eich arian yn cael ei ryddhau nes i chi gofrestru ar eich cwrs. Mae taliadau’n cymryd tri i bum diwrnod gwaith i’w prosesu unwaith y bydd eich presenoldeb wedi’i gadarnhau.
Taliadau Uniongyrchol
Os byddwch yn talu eich ffioedd yn uniongyrchol i ni, y ffordd orau o wneud hynny yw ar-lein trwy dalu â cherdyn. Gellir gwneud hyn mewn un taliad, neu mewn dau neu dri rhandaliad, yn dibynnu ar y gost.
Bwrsariaethau
Efallai y byddwch yn gymwys i gael bwrsariaethau ac ysgoloriaethau prifysgol. Dyfernir pob bwrsariaeth ac ysgoloriaeth ar ôl gwneud cais llwyddiannus.
Dewch o hyd i restr lawn o ddyfarniadau a gwybodaeth fanylach ar Dudalen µþ·É°ù²õ²¹°ù¾±²¹±ð³Ù³ó²¹³Ü’r&²Ô²ú²õ±è;²ú°ù¾±´Ú²â²õ²µ´Ç±ô.
Cyfryngau Cymdeithasol
Dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yr ydym wedi ei greu ar gyfer myfyrwyr PCYDDS
Grwpiau Campws
Rydym wedi creu grwpiau campws Facebook i rannu newyddion a diweddariadau am eich campws. Bydd angen i chi ddarparu eich rhif myfyriwr a chytuno i rheolau’r grŵp i ymuno.