Llun a Chyflwyniad
Athro Cyswllt Archaeoleg a Threftadaeth yr Aifft
Ffôn: 01570-424929
E-bost: k.zinn@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Athro Cyswllt mewn Archaeoleg a Threftadaeth yr Aifft yn yr Athrofa Addysg a Dyniaethau
- Rheolwr yr Athrofa ar gyfer Graddau Ymchwil yn yr Athrofa Addysg a Dyniaethau
- Bwrdd y Coleg Doethurol
- Aelod yr Athrofa ar y Pwyllgor Graddau Ymchwil
- Rheolwr Rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol (ProfDoc) Treftadaeth
- Cyfarwyddwr Astudiaethau a goruchwyliwr myfyrwyr MRes, PhD a ProfDoc ym meysydd treftadaeth, astudiaethau amgueddfa, Eifftoleg, archaeoleg a llythrennedd ar draws nifer o athrofeydd PCDDS
- Mentor i ymgeiswyr Cynllun Cymrodoriaeth yr AAU (Cymrawd, Uwch-gymrawd)
Cefndir
Rwyf i’n Eifftolegwr rhyngddisgyblaethol sy’n cymhwyso dulliau ac agweddau o astudiaethau diwylliant materol, archaeoleg, treftadaeth, astudiaethau amgueddfa, anthropoleg ac astudiaethau derbyn. Mae fy mhrosiectau diweddaraf yn fy nghysylltu ag ystod eang o artistiaid (celf gain, ffotograffiaeth, celf a gynhyrchir gan gyfrifiaduron, dawns, bale, barddoniaeth) sy’n dehongli gwrthrychau amgueddfa Eifftolegol ac archaeolegol i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd mewn lleoliadau amgueddfa a thu hwnt. Rwyf i wrth fy modd yn ymchwilio ac yn addysgu, a bob amser yn ceisio cyfuno’r ddau. Mae’r maes diddordeb eang hwn yn llywio fy addysgu a fy ngoruchwylio, o gyrsiau sylfaen i lefel ddoethurol.
Astudiais Wyddor Llyfrgell, ac yna Eifftoleg, Gwyddor Cyfryngau a Busnes ym Mhrifysgol Leipzig, yr Almaen, lle gwnes i fy Noethuriaeth mewn Eifftoleg hefyd. Bûm i’n gweithio mewn gwahanol rolau mewn prifysgolion yn yr Almaen, Tsieina a’r DU. Yn ogystal â’r sector AU, bûm i’n gweithio mewn llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yn yr Almaen, yr Aifft, UDA a’r DU.
Yn 2006 symudais i’r DU ac addysgu Eifftoleg, archaeoleg a threftadaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, Prifysgol Abertawe a PCDDS. Yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24, dyfarnwyd Athrawiaeth Ymweld mewn Eifftoleg i mi yn Sefydliad Hanes yr Henfyd, Prifysgol Normal y Gogledd-ddwyrain, Changchun, Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Yn ogystal, cyflwynais weithdai wythnos o hyd yn GAFA (Academi Celfyddydau Cain Guangzhou) a XAFA (Academi Celfyddydau Cain Xian).
Aelodaeth
- Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA)
- Coleg Adolygu Cymheiriaid AHRC (academaidd, rhyngwladol)
- Coleg Adolygu Cymheiriaid Talent UKRI (rhyngwladol)
- Cymdeithas Archwiliadau’r Aifft (EES)
- Cyngor Rhyngwladol yr Amgueddfeydd (ICOM) – aelodaeth pleidleisio CIPEG (Pwyllgor Rhyngwladol Eifftoleg)
- IAE (Cymdeithas Ryngwladol yr Eifftolegwyr)
- SMA (Cymdeithas Archaeoleg Amgueddfa)
- Cymdeithas yr Amgueddfeydd
Diddordebau Academaidd
Mae fy niddordebau addysgu ym meysydd diwylliant materol a’i gynrychiolaeth mewn amgueddfeydd, yn ogystal â threftadaeth yn ei chyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol gyda ffocws penodol ar amgueddfeydd ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Rwyf i hefyd yn cwmpasu hunaniaeth a chof (hanesyddol a chyfoes), crefydd, celf a rhywedd. Yr Aifft hynafol yw’r diwylliant sy’n darparu’r rhan fwyaf o fy astudiaethau achos. Rwyf i hefyd yn olrhain y modd y caiff y gorffennol ei dderbyn yn y cyfnod modern. Mae rhan fawr o fy addysgu ac ymchwil yn canolbwyntio ar ddad-drefedigaethu Eifftoleg, yn enwedig dadbacio casgliadau.
Rwyf i’n addysgu nifer o fodiwlau sy’n cwmpasu astudiaethau sylfaen, modiwlau israddedig ac ôl-raddedig. Caiff fy addysgu ei arwain gan ymchwil ac mae’n canolbwyntio ar fateroldeb y diwylliant Eifftaidd gyda phwyslais ar gelf, crefydd a hunaniaeth yn ogystal â dehongliadau o dreftadaeth a chof diwylliannol wedi’u llywio gan ddamcaniaeth. Rwyf i hefyd yn edrych ar ddichonoldeb cymhwyso damcaniaethau a chysyniadau anthropolegol i ddiwylliannau hynafol. Mae fy nghyrsiau’n cwmpasu crefydd, hanes a hanes cymdeithasol, celf a phensaernïaeth Eifftaidd hynafol, yn ogystal â chydgysylltiadau gyda gwledydd cyfagos. Ymhellach, rwyf i’n cyflwyno gwersi iaith ar Eiffteg Canol (hieroglyffau). Rwyf i hefyd yn weithredol iawn ym meysydd amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau fel rhan o dreftadaeth a ffocws ar ddulliau cymharydd.
Ar hyn o bryd rwyf i’n goruchwylio myfyrwyr ymchwil (MRes, PhD, ProfDoc) ym meysydd Eifftoleg, treftadaeth ac astudiaethau amgueddfa.
Bûm yn arholwr allanol gyfer arholiadau MRes, MPhil a PhD yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn ogystal ag yn arholwr allanol ar raglenni ym Mhrifysgol Caergrawnt (Eifftoleg o fewn y Tripos Archaeolegol) a Phrifysgol Caer (MA, MSC Treftadaeth) a nifer o ddilysiadau rhaglen.
Meysydd Ymwchil
Mae fy mhrosiect ymchwil cyfredol yn ymdrin â naratifau treftadaeth ddiriaethol ac anniriaethol yn seiliedig ar fywgraffiadau gwrthrych ar wrthrychau amgueddfa heb darddiad ac “anghofiedig”. Datblygodd y prosiect o fy swydd ychwanegol gyfredol yn Guradur Cyswllt y Casgliad Dwyreiniol yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Merthyr Tydfil yn ogystal â nifer o benodiadau gwirfoddol, curadurol neu ymchwil mewn gwahanol amgueddfeydd yn flaenorol.
Rwyf i’n cyfuno ymchwil myfyrwyr (lefel israddedig ac ôl-raddedig) gyda fy agenda ymchwil fy hun ac yn curadu arddangosfeydd pop-up blynyddol gyda gwrthrychau o Gastell Cyfarthfa gan gynnwys ymchwil myfyrwyr annibynnol dan fy arweiniad i. Mae’r prosiect yn cynnwys yr is-brosiect THE MUSEUM OF LIES sy’n casglu ymatebion creadigol i’r gwrthrychau fel ymdrechion cyd-gynhyrchiol dan arweiniad ymarfer.
Diddordebau eraill:
- Diwylliant Materol/ Astudiaethau Amgueddfa ac Eifftoleg
- Casgliad Eifftaidd Castell Cyfarthfa, Merthyr Tydfil (Cymru) – Cydweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Prosiect Museum of Lies
- Scarabau yn Amgueddfa Fitzwilliam, Caergrawnt
- Deunydd y Deyrnas Ganol – Lisht, gan gynnwys blociau yr Hen Deyrnas wedi’u hailddefnyddio (Prosiect Amgueddfa Gelf Prifysgol Princeton – Catalogio)
- Agweddau at fateroliaeth a threftadaeth a arweinir gan ddamcaniaeth
- Treftadaeth a hunaniaeth (treftadaeth ddiriaethol / anniriaethol, treftadaeth ddiwylliannol)
- Bywgraffiadau gwrthrychau – Naratifau treftadaeth faterol
- Gwrthrychau coll / anghofiedig / nas cerir
- Gwrthrychau â tharddiad a heb darddiad
- Celf fodern fel dehongli
- Anthropoleg y Gorffennol: Anthropoleg, Eifftoleg a Tsieina Hynafol - agweddau cymharol ar Ddiwylliannau Hynafol:
- Celf
- Materoldeb – Anfateroldeb, Materoldeb Newydd
- Crefydd ac Ysbrydolrwydd, Tirweddau Cysegredig
- Rhywedd
- Hunaniaeth
- Cnawdolrwydd
- Bwydydd
- Trosglwyddo Gwybodaeth ac Agweddau ar Gof
- Cof Diwylliannol ac Astudiaethau Cof
- Llythrennedd fel ffenomen ddiwylliannol
- Llyfrgelloedd ac Archifau yn yr Aifft Hynafol
- Gwybodaeth a Doethineb yn yr Aifft Hynafol
Arbenigedd
Mae gennyf arbenigedd yn y categorïau canlynol:
- Eifftoleg: crefydd, rhywedd, treftadaeth, llythrennedd, celf
- Astudiaethau Amgueddfa: cynrychioli’r gorffennol, arddangosfeydd pop-up, bywgraffiadau gwrthrych, naratifau (an)academaidd, ymgysylltu â’r cyhoedd
- Celf, Archaeoleg, Treftadaeth: croestoriad prosesau creadigol a’r Dyniaethau
- Dyniaethau Digidol
- Treftadaeth: treftadaeth ddiwylliannol ddiriaethol ac anniriaethol, dad-drefedigaethu treftadaeth
Rwyf i’n gwahodd datganiadau o ddiddordeb i oruchwylio myfyrwyr ymchwil yn y meysydd hyn.
Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori
- Curadur Cyswllt y Casgliad Eifftaidd yn Amgueddfeydd ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Merthyr Tydfil
- Aelod o Banel Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Amgueddfa Scarborough
- Arweinydd prosiect hirdymor “Casgliad Dwyreiniol Amgueddfeydd ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa”
- Curadur arddangosfeydd pop-up dros dro blynyddol (gan gynnwys prosiect “Museum of Lies”) gyda rhaglen allgymorth ac ymgysylltu â’r cyhoedd
- Arweinydd Academaidd Prosiect Museums Portalis
Arddangosfeydd a guradwyd
Hydref 2025: Agor y storfeydd gyda’n gilydd – Casgliad Eifftaidd Castell Cyfarthfa a’r cyd-brosiect gyda PCDDS, Amgueddfa Castell Cyfarthfa, Merthyr Tydfil (Ystafell Felyn)
Mai 2025: Profi Celf Eifftaidd Hynafol: Arteffactau o Amgueddfa Castell Cyfarthfa, Merthyr Tydfil – gan gynnwys prosiect Museum of Lies
Mai 2019: Y tu hwnt i’r bedd? Arteffact Eifftaidd hynafol o Amgueddfa Castell Cyfarthfa – PCDDS – gan gynnwys prosiect Museum of Lies
Mai - Mehefin 2018: “Hedfanais fry mewn amser cynoesol” – Credoau Angladdol Hynafol Eifftaidd – PCDDS – gan gynnwys prosiect Museum of Lies
Mehefin 2017: Materoldeb Bywyd ar ôl Marwolaeth yr Aifft Hynafol - PCDDS - gan gynnwys prosiect Museum of Lies
Ebrill – Mehefin 2017: Egyptomania – Casgliad Harry Hartley Southey yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Merthyr Tydfil (Oriel Newydd) (cyd-guradu)
Mehefin 2016: Chwe Throedfedd dan y Ddaear? Agweddau angladdol ar y diwylliant Eifftaidd, PCDDS
May 2014: Bwydydd – Bwyd mewn amser a gofod: yr Aifft – Tsieina – Cymru – PCDDS
Gorffennaf 2013: “Hanes, Gwleidyddiaeth a Brenhiniaeth: yr Aifft a Tsieina Hynafol ym Merthyr Tydfil” - Llyfrgelloedd ac Archif Roderic Bowen, Llambed
Mehefin 2012: Scarabau a Dreigiau – Blas ar yr Aifft Hynafol yn Llambed – Llyfrgelloedd ac Archif Roderic Bowen, Llambed
Cyhoeddiadau
Cyfrolau Golygedig
L. Steel, K. Zinn (goln.). Exploring the materiality of Food ‘Stuffs’: Transformations, symbolic consumption and embodiments. Llundain: Routledge, 2017.
Jansen, T. Chinaliteratur in der Universitätsbibliothek Leipzig (1500-1939). Eine systematische Bibliographie [Books on China in the Leipzig University Library (1500-1939: A Systematic Bibliography]. Teil 1: Werke in westlichen Sprachen [Works in Western Languages]. With the collaboration of G. Schlesinger, R. Teschke and K. Zinn. Leipzig: Leipziger Universitätsverlag, 2003.
Erthyglau a phenodau llyfr (Detholiad)
The Museum of Lies: Incorrect facts or advancing knowledge of ancient Egypt? Journal of History and Cultures (2019) – Special Issue 10: Myth and Magic: Interdisciplinary Readings of the Reception of Ancient Egypt. 165-190. Ar gael ar-lein
Dance. In: L. Sabbahi (ed.). All Things Ancient Egypt: An Encyclopedia of the Ancient Egyptian World. Santa Barbara, Ca.: ABC-Clio, 2019; 119-123.
Libraries. In: L. Sabbahi (ed.). All Things Ancient Egypt: An Encyclopedia of the Ancient Egyptian World. Santa Barbara, Ca.: ABC-Clio, 2019; 307-311.
Scarab. In: L. Sabbahi (ed.). All Things Ancient Egypt: An Encyclopedia of the Ancient Egyptian World. Santa Barbara, Ca.: ABC-Clio, 2019; 463-465.
Literacy in Pharaonic Egypt: Orality and Literacy between Agency and Memory. In: A. Kolb (ed.). Literacy in Ancient Everyday Life - Schriftlichkeit im antiken Alltag. Berlin, Boston: De Guyter, 2018, 67-98.
Did you sleep well on your headrest? – Anthropological Perspectives on an Ancient Egyptian Implement. Journal of Ancient Egyptian Interconnections 17(2018),&Բ;202–219.
Object Biographies and Political Expectations: Egyptian Artefacts, Welsh Heritage and the Regional Community Museum. In: G. Rosati and M.C. Guidotti (goln.). Proceedings of the 11th International Congress of Egyptologists, Florence, Italy 23-30 August 2015. Rhydychen: Archaeopress, 2017, 693-700.
Introduction: Exploring the materiality of Food ‘Stuffs’: Transformations, symbolic consumption and embodiments (together with L. Steel). In: L. Steel, K. Zinn (goln.). Exploring the materiality of Food ‘Stuffs’: Transformations, symbolic consumption and embodiments. Llundain: Routledge, 2017, 1-11.
Lacklustre offering plates? Symbolic Food Consumption, Ritual, and Representations in ancient Egyptian funerary culture. In: L. Steel, K. Zinn (goln.). Exploring the materiality of Food ‘Stuffs’: Transformations, symbolic consumption and embodiments. Llundain: Routledge, 2017, 205-225.
Shaping Welsh identity? – Egyptian Objects and Intangible Heritage. The Ancient Near East Today 4(2016)6.
Nofretete – eine Königin ihrer Zeit? In: M. Eldamaty, F. Hoffmann, M. Minas-Nerpel (goln.) Königinnen in Ägypten,. Vaterstetten: Brose, 2015, 27-67.
- I weld mwy ewch i:
Catalogau arddangosfeydd (golygwyd):
- Beyond the tomb? Ancient Egyptian Artefact from Cyfarthfa Castle Cyfarthfa – Llambed: PCDDS, 2019.
- “I have flown up in premieval time” – Ancient Egyptian Funerary Beliefs. Llambed: PCDDS, 2018.
- The Materiality of the Ancient Egyptian Afterlife. Llambed: PCDDS, 2017.
- Six feet under? Funerary aspects of Egyptian culture. Llambed: PCDDS, 2016.
- FoodStuffs – Food in time and space: Egypt – China – Wales. Llambed: PCDDS, 2014.
- History, Politics and Kingship: Ancient Egypt and China in Merthyr Tydfill. Llambed: PCDDS, 2013.
- Scarabs and Dragons: A taste of Ancient Egypt in Lampeter. Llambed: PCDDS, 2012.
Cyhoeddiadau a gyflwynwyd dan adolygiad
- Material Culture, the Public and the Extraordinary – unloved museum objects as the tool to fascinate Engaging the Public, Heritage and Educators through Material Culture Research (Special Edition of Open Archaeology, 2024).
- MOVING OBJECTS: Futuring and enhancing Ancient Egypt through Modern Art (Proceedings of the 13th International Congress of Egyptologists, Leiden, 2023. Egyptologische Uitgaven. Leuven: Peeters , Leiden: The Netherlands Institute for the Near East, 2025)