Y Coleg Doethurol ar gyfer Myfyrwyr
Croeso i Astudiaethau Doethurol PCYDDS
Bwriad Coleg Doethurol PCYDDS yw dathlu a hyrwyddo ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig amrywiol a deinamig. Rydym yn gartref i amrywiaeth o raglenni a llwybrau
doethuriaeth gwahanol ond mae gan bob un ohonynt yr un nod sef datblygu
ymchwilwyr rhagorol sy’n gallu gwneud cyfraniad sylweddol at wybodaeth yn eu
dewis ddisgyblaeth neu arfer proffesiynol.​ Mae ein myfyrwyr yn dod atom ar bob
cam o'u bywydau proffesiynol, o'u swyddi cyntaf i fod yn uwch arweinwyr mewn
amrywiaeth o sectorau ledled y byd. Dim ond am gyfnod byr fydd rhai o'n myfyrwyr ar
ein campysau cyn dychwelyd adref i weithio tra bydd eraill yn cael y cyfle i astudio
rhaglenni mwy preswyl. Pa bynnag drywydd y byddwch chi’n ei ddilyn, rydym yn
awyddus i sicrhau bod gennych fynediad i'r amgylchedd ymchwil a fydd wir yn
meithrin eich datblygiad.
Cefnogaeth a Hyfforddiant
Cymorth sydd ar gael
Mae Coleg Doethurol PCYDDS yma i’ch cefnogi yn ystod pob cam o’r broses.​ Rydym yn gweithio gyda nifer o wasanaethau ar draws y brifysgol i gynnig cymorth ymchwil ôl-raddedig penodol i’n holl fyfyrwyr, gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, Cymorth i Fyfyrwyr, y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu, a’r Swyddfa Ryngwladol.​ Dyma rai o’r ffyrdd rydym yn cefnogi darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol:
- Cymorth i bob ymgeisydd ar gyfer astudiaeth ymchwil ôl-raddedig
- Digwyddiad cynefino i bob myfyriwr newydd
- Digwyddiadau hyfforddi drwy gydol y flwyddyn
- Digwyddiadau cymdeithasol a rhwydweithio
- Cynhadledd flynyddol ac ysgol haf i fyfyrwyr
- Platfform cymunedol ar-lein yn llawn canllawiau, gwybodaeth a chyfleoedd yn
arbennig ar gyfer ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig​ - Grant penodol ar gyfer ymchwil ôl-raddedig er mwyn cymryd rhan mewn
cynadleddau
Hyfforddiant a Digwyddiadau
Fel rhan o’n gwaith yn PCYDDS, mae’r Coleg Doethurol yn cynnig hyfforddiant a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.​ Gan weithio gyda staff academaidd a phroffesiynol o bob rhan o’r Brifysgol, rydym wedi datblygu cyfres o sesiynau hyfforddi yn unol â Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae. Mae’r sesiynau hyn yn sicrhau bod gan bob un o’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig fynediad at hyfforddiant o safon sydd wedi'i gynllunio er mwyn cefnogi sgiliau ymchwil, galluoedd proffesiynol a datblygu ymchwilwyr annibynnol a hyderus.​
Mae enghreifftiau o sesiynau hyfforddi diweddar yn cynnwys:
-
Cynllunio ymchwil a rheoli data
-
Cwblhau’r cais Moeseg
-
Canllaw i gyflwyno traethawd ymchwil
-
Paratoi ar gyfer eich cyfweliad viva
-
Dulliau ymchwil
-
Hyfforddiant meddalwedd arbenigol, gan gynnwys SPSS, NVivo a Qualtrics.
Sut i Wneud Cais
Ydych chi’n barod i gychwyn ar eich taith ddoethuriaeth gyda ni? Cymerwch gip ar ein
dolenni sut i wneud cais, tudalennau ymchwil yr athrofeydd, ffioedd cyrsiau,
diwrnodau agored a’r ffurflen gais ar-lein (ceisiadau PhD ac MPhil yn unig) i gael yr
holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.​
Cyfleoedd Ymchwil
Sefydlwyd Prifysgol yn Llambed yn 1822 ac mae iddi draddodiad clodwiw ym maes ymchwil, a hwnnw’n ymchwil byd-eang ei bersbectif ond sydd hefyd yn rhoi sylw i bryderon cyfoes.
Mae Ymchwil ac Arloesi wedi gwreiddio’n gadarn yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru yn y Drindod Dewi Sant. Mae academyddion yn yr Athrofa yn weithgar ym maes ymchwil a chydnabyddir bod llawer o artistiaid, dylunwyr a meddylwyr beirniadol ar flaen y gad yn eu meysydd.
Mae ein hymchwil yn drawsddisgyblaethol, ac mae’n cwmpasu maes eang o waith mewn Peirianneg Fodurol, Logisteg a Pheirianneg Gweithgynhyrchu, ynghyd â Chyfrifiadura Cymhwysol.
Mae gan yr adran Seicoleg yn Y Drindod Dewi Sant broffil ymchwil cryf a chyffrous ym meysydd seicoleg gymhwysol ac arbrofol.
Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.