Llun a Chyflwyniad
Darlithydd mewn Parodrwydd am Argyfyngau ac Amddiffyn Sifil
Yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd
Rôl yn y Brifysgol
- Darlithydd mewn Parodrwydd am Argyfyngau ac Amddiffyn Sifil
- Tîm Datblygu’r Dystysgrif Addysg Uwch.
Cefndir
Mae Wyn yn gyn-Bennaeth Cydnerthedd yn Llywodraeth Cymru a chynghorydd i Weinidogion Cymru ar Argyfyngau Sifil Posibl a materion Diogelwch Gwladol. Ar ôl ymuno â’r Swyddfa Gymreig yn 1989, trosglwyddodd Wyn i’r Gangen Argyfyngau ym 1999 ac aeth ymlaen i fod yn bennaeth y Tîm Cydnerthedd o 2005 tan ei ymddeoliad yn 2019.
Yn 2003, ef oedd prif swyddog Llywodraeth Cymru ar y Bil Argyfyngau Sifil Posibl gan lywio’r Bil drwy wahanol gamau cyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr oedd ar y pryd. Aeth yn ei flaen i arwain ar ddatblygu adrannau Cymru o’r rheoliadau statudol a chanllawiau anstatudol sy’n ategu’r Ddeddf, yn ogystal â drafftio’r Concordat gan sefydlu fframwaith a gytunwyd ar gyfer cydweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Yn fwy diweddar, arweiniodd Wyn y trafodaethau gyda Swyddfa’r Cabinet am bwerau ychwanegol o dan y Ddeddf, gan arwain at Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018.
Roedd Wyn yn un o sylfaenwyr Fforwm Cymru Gydnerth, a sefydlwyd ac a gadeiriwyd gan Brif Weinidog Cymru i gefnogi cyfathrebu da a gwella cynllunio at argyfyngau ar draws asiantaethau a gwasanaethau yng Nghymru. Gweithredodd hefyd fel Dirprwy Gadeirydd Tîm Partneriaeth Cymru Gydnerth, y grŵp aml-asiantaethol a sefydlwyd i gefnogi’r Fforwm, a Grŵp Dysgu a Datblygu Cymru. Yn ogystal â chadeirio grwpiau cenedlaethol ar risg, adferiad a marwolaethau torfol roedd hefyd yn aelod o grwpiau a sefydlwyd i ddatblygu cynlluniau ymateb ynghylch llifogydd, bygythiadau Cemegol, Biolegol, Radiolegol a Niwclear (CBRN), cadernid cymunedol, ffliw pandemig a seilwaith hanfodol. Bu hefyd yn cynrychioli Cymru ar Raglen Galluoedd Cenedlaethol Llywodraeth y DU a byrddau argyfyngau sifil posibl cenedlaethol eraill.
O ran diogelwch gwladol, roedd Wyn yn aelod o fwrdd CONTEST Cymru a sefydlwyd i sicrhau parodrwydd am y bygythiad o derfysgaeth yng Nghymru. Bu hefyd yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref fel cynghorydd ar ymarferion gwrthderfysgaeth Haen 1 cenedlaethol.
Arweiniodd Wyn ar ddatblygu Cynllun Ymateb Cymru Gyfan sy’n darparu fframwaith ar gyfer rheoli argyfwng mawr yng Nghymru. Yn ystod digwyddiadau mawr, bu hefyd yn gweithredu fel Swyddog Cyswllt y Llywodraeth mewn Grwpiau Cydlynu Strategol ar gyfer Llywodraethau Cymru a’r DU. Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yng Nghanolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) yn ystod ymarferion Haen 1 a digwyddiadau mawr. Fel aelod o Bwyllgor Argyfyngau Sifil Posibl Cymru, cynrychiolodd Gymru yng nghyfarfodydd Swyddogion COBR.
Ar ôl ymddeol, cyfrannodd Wyn fel arbenigwr pwnc at yr adolygiad interim i’r ymateb aml-asiantaethol i Covid-19 yng Nghymru ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar y paratoadau ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Covid-19.
Dyfarnwyd iddo OBE am wasanaethau i argyfyngau sifil posibl a chynllunio at argyfyngau yn 2012.
Diddordebau Academaidd
- Llywodraethu, Deddfwriaeth a Datganoli
- Cydgysylltiad ac Ymateb y Llywodraeth
- Adferiad ar ôl Trychineb
- Hyfforddiant ac Ymarfer ar gyfer Digwyddiad Mawr
- Ô±ô-»å°ù²¹´Ú´Ç»å²¹±ð³Ù³ó/¶Ù²â²õ²µ³Ü&²Ô²ú²õ±è;³Ò·É±ð°ù²õ¾±
- Diogelwch Gwladol
Arbenigedd
- Deddfwriaeth Argyfyngau Sifil Posibl
- Argyfyngau Sifil Posibl a Datganoli
- Ymateb a Chyswllt y Llywodraeth
- Arweinyddiaeth Strategol a Gwneud Penderfyniadau
- Cynllunio Adferiad