ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Dr Patrick Curry BA, MSc, PhD

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Tiwtor yng Nghanolfan Sophia

Athrofa Addysg ²¹â€™r Dyniaethau


Ffôn: (020) 7603-7835 
E-bost: p.curry@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Goruchwylio myfyrwyr PhD.

Cefndir

Mae gen i BA (Prifysgol Califfornia, Santa Cruz, 1978, mewn Seicoleg, gyd²¹â€™r anrhydedd uchaf), MSc (L.S.E., 1980, mewn Rhesymeg a Dull Gwyddonol), a PhD (Coleg Prifysgol Llundain, 1987, mewn Hanes ac Athroniaeth Gwyddoniaeth).

O fis Medi 2006 tan fis Medi 2009 roeddwn yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Caint (Caergaint), lle bûm yn addysgu ar y rhaglen MA Astudiaeth Ddiwylliannol o Gosmoleg a Dewiniaeth. O 2002–2006 roeddwn yn Ddarlithydd yng Nghanolfan Sophia, Prifysgol Bath Spa, lle roeddwn yn cyd-addysgu ar yr MA mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol. Yn 2009 dychwelais i Ganolfan Sophia wedi iddi drosglwyddo i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Rwy’n Olygydd y cyfnodolyn ar-lein, , a lansiwyd yn y Gwanwyn 2017.

Yn ychwanegol at nifer o bapurau, erthyglau ac adolygiadau, rwy’n ysgrifennu llyfr ar hyn o bryd ar ddewiniaeth. Mae rhagor o wybodaeth ²¹â€™r rhan fwyaf o’m papurau i’w gweld ar 

Rwyf wedi gweithredu fel arholwr allanol ar nifer o draethodau ymchwil PhD ac rwy’n parhau i oruchwylio myfyrwyr PhD.

Diddordebau Academaidd

Yn flaenorol bûm yn addysgu modylau ar yr MA Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol (Gwyddoniaeth a Sgeptigiaeth, Hanes Astroleg, Cyflwyniad i Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol, a Dulliau Ymchwil: Ethnograffeg a Gwaith Maes). Rwyf ar hyn o bryd yn goruchwylio traethodau PhD: Garry Phillipson, ‘Astrology and Truth’; Anthony Thorley, ‘The Landscape Zodiac Phenomenon’.

Meysydd Ymchwil

Hanes ac athroniaeth astroleg, dewiniaeth, Weber, astudiaethau Tolkien a rhai agweddau ar athroniaeth, anthropoleg ac astudiaethau crefyddol.

Arbenigedd

Rwyf wedi adolygu llyfrau ar gyfer History Today, New Statesman and Society, The Guardian, The Independent ²¹â€™r Times Literary Supplement, wedi ymddangos ar ddwy raglen deledu ac wedi cymryd rhan mewn dwy raglen ar BBC Radio Four. Rwy’n ymddangos mewn cyfweliadau ar ddau o’r tri DVD New Line estynedig ar The Lord of the Rings.

Cyhoeddiadau

  • Prophecy and Power: Astrology in Early Modern England (Oxford: Polity Press & Princeton: Princeton University Press, 1989),
  • A Confusion of Prophets (Collins a Brown, 1992) a, gyda Roy Willis, Astrology, Science and Culture: Pulling Down the Moon (Oxford: Berg, 2004).
  • Astrology and the Academy, gyda Nicholas Campion a Michael York (goln.)  (Bristol: Cinnabar Books, 2004),
  • Sky and Psyche: The Relationship between Cosmos and Consciousness, gol. gyda Nicholas Campion (Edinburgh: Floris Books, 2006).
  • Seeing with Different Eyes: Essays on Astrology and Divination, gyda Angela Voss (Newcastle: Cambridge Scholars Press, 2008).
  • Divination: Perspectives for a New Millennium, golygydd (Farnham: Ashgate Publishing, 2010).
  • Defending Middle-Earth: Tolkien, Myth and Modernity (Houghton Mifflin, 2004).
  • Ecological Ethics: An Introduction, arg. diw. (Polity Press, 2011)
  • Deep Roots in a Time of Frost: Essays on Tolkien (Zurich: Walking Tree Books, 2014).