Image and intro
Rôl yn y Brifysgol
Cymorth Technegol ar gyfer pob agwedd o’r gweithgareddau creadigol ar y graddau Celf Greadigol a’r rhaglenni Meistr
Cefndir
Mae Lyndon Davies yn ymroddedig, angerddol, gweithgar, trefnus, gwybodus a brwdfrydig. Mae’n ddylunydd 3D gyda chefndir cryf mewn cerameg a phatrwm arwyneb ac mae ganddo ddiddordeb personol mewn datblygu odyn enamel a dulliau tanio.
Mae Lyndon yn brofiadol wrth gyfathrebu a gwrando gyda phob math o bobl ac yn medru helpu gydag anghenion amrywiol. Yn ogystal â gweithio’n unigol mae hefyd yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm gan gyflwyno gweithgareddau’n effeithiol ac i safon uchel.
Fel technegydd, a chyn hynny fel rheolwr stiwdio cerameg, mae wedi ymdrin â gwerthiant, cynhyrchu, trin a chludo darnau ceramig i sioeau masnachol . Mae hefyd yn brofiadol iawn yn trefnu a rhedeg stondinau sioe mewn ffeiriau masnach.
Mae Lyndon yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd ble mae’r gweithgareddau’n amrywio o ddydd i ddydd ac yn ffynnu gyda’r her o wynebu gwahanol sefyllfaoedd yn y gweithle.
Ar hyn o bryd mae Lyndon yn ddarlithydd mewn cerameg yng Ngholeg Sir Gâr ar Gampws y Graig yn Llanelli. Mae hefyd yn Dechnegydd mewn Celfyddyd Gain a Cherameg ar gampws Coleg Sir Gâr Heol Ffynnon Job Caerfyrddin, yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol.
Diddordebau Academaidd
- Cerameg
- Gwaith Enamel
- Cerflunio
- Argraffu
Arbenigedd
Prif swydd Lyndon Davies yw darparu cymorth technegol ar gyfer pob agwedd o’i gelfyddydau creadigol o fewn y graddau celf a dylunio a’r celfyddydau ymarferol ar gampws Caerfyrddin. Mae ei arbenigedd yn cynnwys cefnogi staff a myfyrwyr yn y gweithdai argraffu a phaentio yn ogystal â mewn cerameg. Fel rhan o’r tîm cymorth, mae Lyndon yn aelod o staff bywiog a gweithgar . Mae’n cyfrannu cyfoeth o arbenigedd a gwybodaeth. Ar hyn o bryd, ei ddiddordeb creadigol personol yw trosglwyddo delweddau i waith enamel.