Llun a Chyflwyniad
Darlithydd mewn Seicoleg
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Ffôn: 01792 482013
E-bost: judith.marshall@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Darlithydd: Seicoleg Gymdeithasol; Seicoleg Datblygiad y Rhychwant Oes; Gwahaniaethau Unigol; Dulliau Ymchwil Ansoddol
- Tiwtor Derbyn
- Arweinydd Modwl
- Tiwtor Cymorth Academaidd
- Tiwtor Blwyddyn Lefel Chwech
- Goruchwyliwr Traethodau Hir Israddedig
- Goruchwyliwr PhD
Cefndir
Astudiais Seicoleg, Ieithyddiaeth, Seineg a Ffonoleg ar gyfer fy ngradd BSc (Anrh) Seicoleg a Chyfathrebu.
Ar ôl cwblhau fy nghymhwyster TAR (AB) ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2001, des i’n ddarlithydd seicoleg llawn amser yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, yn addysgu ar lefel Israddedig a Meistr. Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn i hefyd yn rhan o dîm addysgu’r cwrs TAR (AB).
Yna cofrestrais ym Mhrifysgol Caerdydd yn fyfyriwr ôl-raddedig llawn amser a ariannwyd gan yr ESRC i ennill fy ngradd Meistr mewn Dulliau Ymchwil ac yna fy PhD.
Yn 2008, ymunais â Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin i gyd-ysgrifennu a chyflwyno’r cwrs gradd Seicoleg cyntaf yn y brifysgol hon. Yn 2012 trosglwyddais i’r tîm Seicoleg ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe yn ystod proses gyfuno Prifysgolion Y Drindod Caerfyrddin, Met Abertawe a Llambed i ffurfio PCYDDS.
Yn rhan o dîm y rhaglen yn PCYDDS, rwy’n cyfrannu at gyflwyno ac asesu’r modwl Seicoleg, a goruchwylio ymchwil ar gampysau Abertawe a Chaerfyrddin.
Aelod O
- Cymrawd Cyswllt Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
- Seicolegydd Siartredig
- Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
- Aelod llawn y Gyfadran Academyddion, Ymchwilwyr ac Athrawon mewn Seicoleg
- Aelod llawn o adran Seicoleg Gymdeithasol BPS
- Aelod llawn o adran Seicoleg Datblygiad BPS
- Aelod llawn o Gangen Gymreig BPS
- Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD)
Diddordebau Academaidd
Fy mhrif feysydd addysgu yw:
- Seicoleg Gymdeithasol, Seicoleg Datblygiad Gydol Oes, a Gwahaniaethau Unigol, gyda ffocws cryf ar ddylanwadau cymdeithasol a diwylliannol ar wneud synnwyr o ddatblygiad a gwahaniaeth dynol.
- Dulliau Ymchwil Ansoddol.
Pynciau goruchwylio PhD cyfredol:
- Cerddorion cerddoriaeth boblogaidd oedd yn weithgar rhwng 1976 a 1979: trafod hunaniaeth dros amser mewn byd globaleiddiedig ôl-fodern
- Archwiliad ethnograffig o rithffurfiau digidol artistiaid eu hunain yn oes y cyfryngau cymdeithasol.
Arholwr allanol MPhil
Meysydd Ymchwil
Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn y croestoriad rhwng yr unigol a’r cymdeithasol, gan gynnwys y ffyrdd y mae gwybodaeth a hunaniaeth yn cael eu llunio.  Yn benodol:
Y ffyrdd y mae pobl yn defnyddio dealltwriaeth â seiliau diwylliannol a gwreiddiau hanesyddol fel adnoddau symbolaidd ar gyfer gwneud synnwyr o’r byd.
Y ffyrdd y mae gwybodaeth, sgiliau ac arferion ymgorfforedig yn effeithio ar ffurfio hunaniaeth.
Gallu pobl i uniaethu ac ymgysylltu â gweithgarwch gwleidyddol o fewn eu cymunedau
Gallu lleoliadau cymdeithasol a ffisegol i hwyluso a chyfyngu ar y ffyrdd y gall pobl ymgysylltu ag addysg a dychmygu dyfodol mewn addysg a gwaith.
Prosiect ymchwil presennol:  ‘Diagnosis Hwyr o Wahaniaethau Dysgu Penodol: Rheoli Hunaniaeth ac Ymgysylltu’
PhD: ‘Dychmygu Dyfodol mewn Lleoliadau sy’n Newid: Dad-ddiwydiannu a rhyngwynebau addysg/gwaith’. Cyfraniad at ddamcaniaeth seicoleg gymdeithasol.
Arbenigedd
Dulliau a dadansoddi ansoddol, gan gynnwys cyfweld, grwpiau ffocws, dulliau ennyn ymateb trwy luniau, dulliau symudol, dulliau cymysg.
Cyhoeddiadau
Davies, SMB, Lohmann-Hancock, C., Welton, N, Sutton, L, McKnight, G, Fletcher- Miles, J, Jones, S, Williams, D., & Marshall, J. (2014). Perceptions of Poverty: A Study of the Impact of Age on Opinions about Poverty. Caerfyrddin: Pennath.