Llun a Chyflwyniad
Cymrawd Ymchwil
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
Ffôn: 01970 636543
E-bost: ffion.jones@cymru.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Ymchwil
- Arolygu
Cefndir
Prosiectau sy’n ymwneud â’r ddeunawfed ganrif yw prif faes Ffion. Y diweddaraf o’r rhain yw ‘Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithio i Gymru ac i’r Alban 1760–1820’ (2014–22) a’r dilyniant cyfredol (2023–5). Bu’n trawsysgrifio ac yn creu golygiadau digidol o rannau o ohebiaeth eang a hynod Thomas Pennant, gan weithio’n neilltuol ar ei ohebiaeth Gymreig a’r llythyru a fu rhyngddo a’r casglwr printiau Richard Bull.
At hyn, mae’n ymddiddori yng ngohebiaeth gynnar Pennant; ei ohebiaeth Gyfandirol a’i daith i’r Cyfandir yn 1765; y broses o greu British Zoology; arlunwyr Pennant; a derbyniad Pennant mewn cylchoedd Cymraeg eu hiaith hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae elfennau o’r gwaith hwn yn flaenllaw yn ei monograff ar Pennant, Thomas Pennant (1726–1798): Cysylltiadau Cymreig, i’w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru, 2025. Ar gyfer ail ran y prosiect, golygiadau digidol o deithlyfr llawysgrif Pennant, 1770, ac ail gyfrol A Tour in Wales ’r&Բ;ڴڴdzɲ.
Yn flaenorol, gweithiodd Ffion ar brosiect ’Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru, 1740–1918’, gan gydolygu gohebiaeth Iolo, The Correspondence of Iolo Morganwg, 3 cyf. (Cardiff, 2007), ac chyhoeddi monograff sy’n rhoi sylw i nodiadau ymyl-dalen Iolo mewn llyfrau o’i eiddo ac ar odrau ei lythyrau, ‘The Bard is a Very Singular Character’: Iolo Morganwg, Marginalia and Print Culture (Cardiff, 2010).
Fel aelod o brosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’ cyhoeddodd gyfrol o faledi o’r cyfnod rhwng blynyddoedd cynnar y Chwyldro a diwedd y rhyfeloedd Napoleonaidd, Welsh Ballads of the French Revolution 1793–1815 (Cardiff, 2012); sawl ysgrif ynghylch y faled; a golygiad o anterliwt o waith Huw Jones, Glan Conwy, sy’n adrodd hanes y Chwyldro o safbwynt Cymreig.
Mae ei diddordebau pellach yn cynnwys genre poblogaidd yr anterliwt yng Nghymru. Yn y cyswllt hwn, canolbwyntiodd ar ddeunydd hanesyddol sy’n ymdrin â Rhyfeloedd Cartref Prydain yn yr ail ganrif ar bymtheg (gw. y golygiad o Huw Morys, Y Rhyfel Cartrefol (Bangor, 2008)) a’r chwyldroadau Americanaidd a Ffrengig, ac ar ddeunydd cronicl megis hanes y Brenin Llŷr.
Yn ogystal â hyn, mae ganddi ddiddordeb mewn materion sy’n ymwneud â llythrennedd yn y ddeunawfed ganrif fel y caiff ei awgrymu gan y baledi Cymraeg ac yn y defnydd o’r Gymraeg yn llythyrau Morrisiaid Môn, yn enwedig mewn perthynas â chyfieithu geirfa’r Ymoleuedigaeth i’r Gymraeg; ac mewn cyfieithiadau rhwng y Saesneg a’r Gymraeg.
Fel aelod o dîm yn gweithio ar ddiweddaru elfennau ar y Bywgraffiadur Cymreig, mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar gyfer yr adnodd ar-lein hwn, cofnodion ar fenywod yn bennaf.
Diddordebau Academaidd
Gwaith dysgu yn ymwneud â chrefyddau Celtaidd yn Oes yr Haearn a’r cyfnod Rhufeinig; a dirnadaeth o’r Byd Arall mewn llenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg.
Modiwlau a Ddysgwyd
- Celtic Otherworlds (modiwl MA)
- Celtic Religions (modiwl BA).
Arolygu Traethodau MA
Tramgwydd, colled a galar mewn barddoniaeth Gymraeg a Gwyddeleg Canol; Cymeriadau o’r Byd Arall mewn llenyddiaeth a llên gwerin o’r Alban, Iwerddon a Chymru yn y canol oesoedd a’r cyfnod modern cynnar; Traddodiau Gwerin a gweddillion archaeolegol yn Sir Gaerhirfryn; Symbolaeth Geltaidd yng ngwaith W. B. Yeats.
Meysydd Ymchwil
- gohebiaeth a rhwydweithiau gohebol yn y ddeunawfed ganrif, gan ganolbwyntio ar ddeunydd Cymreig
- potensial a defnydd o dechnegau dadansoddi rhwydweithiau ar gyfer darllen gohebiaeth
- gohebiaeth wyddonol a gohebiaeth ynghylch byd natur
- cynrychioli byd natur a thirlun mewn gwaith celf;
- rhwydweithiau hynafiaethol ym Mhrydain y 18g a’r 19g
- baledi ac anterliwtiau Cymraeg
- cyfieithu i ac o’r Gymraeg yn y 18g a’r 19g
- bywgraffiadau merched ac unigolion o dras ethnig leiafrifol yng Nghymru
Arbenigedd
- gohebiaethau Cymraeg o’r ddeunawfed ganrif – Iolo Morganwg, Thomas Pennant, Morrisiaid Môn
- cylchoedd byd natur a’r byd hynafiaethol
- arlunwyr Thomas Pennant, gan gynnwys Moses Griffith
- baledi ac anterliwtiau Cymraeg, gyda phwyslais ar anterliwtiau hanes
- bywgraffiadau merched yng Nghymru
Cyhoeddiadau
- Jones, Ffion Mair, Y Chwyldro Ffrengig a’r Anterliwt: Hanes Bywyd a Marwolaeth Brenin a Brenhines Ffrainc gan Huw Jones, Glanconwy (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2014)
- ––––––– ‘’
- ––––––– ‘’
- ––––––– ‘Rhwng Pennant a’i Thad: “Castellau Y Fflynt” Angharad Llwyd (1780–1866)’, Studia Celtica, LVII (2023), 131–50
- ––––––– ‘’ (9 Mawrth 2017)
- ––––––– ‘Thomas Pennant a’r Morrisiaid: Tri Llythyr o Archifdy Sirol Swydd Warwig’, Tlysau’r Hen Oesoedd, 40 (Hydref 2016), 5–14
- ––––––– ‘Thomas Pennant, Emanuel Mendes da Costa, a “nod glas Mawddwy”‘, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, XIX, rhif I (2022), 35–48
- ––––––– ‘William Morris a Thomas Pennant: Cysylltiadau Cyffredin’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (2019),&Բ;23–48
- ––––––– ‘Y Llanc yn Baronhill’, ym
- ––––––– (gol.), ‘’
- ––––––– (gol.), ‘’
- ––––––– (gol.), Welsh Correspondence of the French Revolution 1789–1802 (Aberystwyth: University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies, 2018)
- –––––––, Philip Beeley, ac Yann Ryan, ‘“From the Cabinets of mere vertuosi into the busy world”: Thomas Pennant’s Natural Philosophical Networks and the Creation of British Zoology, 1752–1766’, Huntington Library Quarterly, 86.2 (2024)
Y Bywgraffiadur Cymreig: cofnodion newydd
- Gifford, Isabella (c.1825–1891)
- Grossman, Yehudit Anastasia (1919–2011)
- Hughes, Gainor (1745–1780)
- Jarman, Eldra Mary (1917–2000)
- Jones, Elizabeth May Watkin (1907–1965)
- Kotschnig, Elined Prys (1895–1983)
- Philipps, Leonora (1862–1915)
- Rhŷs, Elizabeth (1841–1911)
- Roberts, Gwen Rees (1916–2002)
- Shand, Frances Batty (c.1815–1885)
- Williams, Frances (Fanny) (?1760–c.1801)
- Ystumllyn, John (bu farw 1786)
Gwybodaeth bellach
- Aelod o grŵp ‘Networking Archives: Assembling and Analysing Early Modern Correspondence’, Caer-grawnt, Rhydychen, ar ar-lein (2019–20)
- Trefnu cynhadledd ar-lein ‘Ailymweld: Cymru a Chaethwasiaeth, Cenhadaeth ac Ymerodraeth’ (2021), gyda grant oddi wrth Gymdeithas Ddysgedig Cymru
- Trefnu gweithdai ar-lein, ‘Caethwasiaeth, Diddymiaeth, a thu hwnt: Adroddiad Thomas Pennant ar Orllewin Affrica’ (2022), gyda grant oddi wrth Rwydwaith Arloesi Cymru
- Sefydlu grŵp trafod ar Angharad Llwyd, gyda grant oddi wrth Gronfa Twf Cydweithredol Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (2022–3)