Image and intro
Cymrawd Ymchwil
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
Ffôn: 01970 636543
E-bost: e.edwards@wales.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Cymrawd Ymchwil
Cefndir
Astudiodd Liz Edwards Saesneg ym Mhrifysgol y Drindod, Rhydychen, ac yng Nghanolfan Astudiaethau’r Ddeunawfed Ganrif ym Mhrifysgol Caerefrog, cyn ymuno â’r Ganolfan ym mis Ionawr 2009 fel Cymrawd Ymchwil ar brosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’. Ei diddordebau ymchwil yw llenyddiaeth a diwylliant y ddeunawfed ganrif a’r cyfnod Rhamantaidd, gyda phwyslais arbennig ar ailddarganfyddiadau llenyddol, golygu testunol, dulliau ac ymagweddau beirniadol o’r archipelago a hanes llenyddiaeth merched.
Detholiad beirniadol o farddoniaeth Saesneg o Gymru yn y cyfnod 1789–1806 oedd cyfrol gyntaf Liz, ac ynddi mae’n troi at lawysgrifau, papurau newydd a gweithiau printiedig llai cyfarwydd er mwyn cyflwyno corff newydd o lenyddiaeth o, ac ynglŷn â, Chymru yn y cyfnod Rhamantaidd. Cyhoeddwyd ei hail gyfrol, detholiad o farddoniaeth y bardd dosbarth gweithiol o Fôn, Richard Llwyd (1752–1835), yn rhan o’r gyfres ‘Poetry Recoveries’ gan Trent Editions yn 2016. Mae wrthi’n ysgrifennu llyfr am Gymru a llenyddiaeth merched yn y cyfnod 1789–1830, ac yn golygu detholiad o deithiau yng Nghymru ar gyfer y prosiect ‘Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithio i Gymru ac i’r Alban (1760–1820)’ dan nawdd yr AHRC.
Ym mis Medi 2013, cynhaliodd Liz gynhadledd ‘Four Nations Fiction: Women and the Novel, 1780–1830’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyhoeddwyd casgliad o erthyglau yn seiliedig ar y gynhadledd fel rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn Romantic Textualities: Literature and Print Culture, 1780–1840 yn 2017
Ym mis Ebrill 2016, bu Liz yn cydgyflwyno cyfres o bodlediadau ar lenyddiaeth merched yn y ddeunawfed ganrif i’r New Statesman, dan y teitl ‘The Great Forgetting: Women Writers before Jane Austen’
Mae Liz hefyd wedi cyhoeddi erthyglau a phenodau mewn cyfrolau ar y Gothig Cymreig, barddoniaeth y cyfnod Rhamantaidd, canu cenedlaethol a llenyddiaeth daith. Ar hyn o bryd, mae’n cydgyfarwyddo doethuriaeth ar deithwyr o ogledd Lloegr i Gymru ac i’r Alban (1760–1820), a byddai’n croesawu ymholiadau ynglŷn â chyfarwyddo ymchwil yn unrhyw un o’r meysydd y sonnir amdanynt uchod.
Cyhoeddiadau
(gol.), Romantic Textualities: Literature and Print Culture, 1780–1840, 22 (2017), rhifyn arbennig ar ‘Four Nations Fiction by Women, 1789–1830’
‘Four nations fiction by women, 1789–1830: introduction’,
Romantic Textualities: Literature and Print Culture, 1780–1840, 22 (2017), 11–22
(gyda Mary-Ann Constantine), ‘Introduction/Rhagymadrodd’, Teithwyr Chwilfrydig: Symud, Tirlun, Celf / Curious Travellers: Movement, Landscape, Art, catalog i gyd-fynd ag arddangosfa gelf (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Celtaidd, 2017), tt. 3–10
‘ “A galaxy of the blended lights”: the reception of Thomas Pennant’, yn Mary-Ann Constantine a Nigel Leask (goln.), Enlightenment Travel and British Identities: Thomas Pennant’s Tours of Scotland and Wales (London: Anthem, 2017), tt. 141–60
‘ “Local and contemporary”: reception, community and the poetry of Ann Julia Hatton (‘Ann of Swansea’)’, Women’s Writing (2017), rhifyn arbennig ar ‘Welsh Women’s Writing 1536–1914’, gol. Jane Aaron
‘Archipelagic Anglesey: coastal contexts for Romantic-period poetry and travel writing’, Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club 2015–16&Բ;(2016),&Բ;100–13
(gol. a rhagymadrodd), Richard Llwyd: Beaumaris Bay and Other Poems (Nottingham: Trent Editions, 2016)
‘Footnotes to a nation: Richard Llwyd’s Beaumaris Bay (1800)’, yn Joanna Fowler ac Allan Ingram (goln.), Voice and Context in Eighteenth-Century Verse: Order in Variety (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2015), tt. 133–54
‘ “Lonely and voiceless your halls must remain”: Romantic-era national song and Felicia Hemans’s Welsh Melodies&Բ;(1822)’, Journal for Eighteenth-Century Studies, 38:1 (2015), 83–97
‘ “Place makes a great Difference”: Hester Piozzi’s Welsh independence’, Wales Arts Review, 3:17 (Awst 2014): walesartsreview.org
‘ “Je me suis cru l’espace d’un instant dans mon proper pays”: paysage et voyage dans le pays de Galles du dix-huitième siècle’, yn Jean-Yves le Disez a Heather Williams (goln.), Regards croisés sur la Bretagne et le pays de Galles/Cross-Cultural Essays on Wales and Brittany (Brest: CRBC, 2013), tt. 155–72
‘The voices of war: poetry from Wales, 1794–1804’, yn Mary-Ann Constantine a Dafydd Johnston (goln.), ‘Footsteps of Liberty and Revolt’: Essays on Wales and the French Revolution (Cardiff: GPC, 2013), tt. 271–90
(gol. a rhagymadrodd), English-Language Poetry from Wales 1789–1806 (Cardiff: GPC, 2013)
‘Confined to a living grave: Welsh Gothic and the French Revolution’, yn Marion Gibson, Garry Tregidga a Shelley Trower (goln.), Mysticism, Myth, and Celtic Identity (London: Routledge, 2012), tt. 87–98
(gyda Mary-Ann Constantine), ‘Bard of Liberty: Iolo Morganwg, Wales and radical song’, yn Michael Brown, John Kirk ac Andrew Noble (goln.), United Islands? The Languages of Resistance (London: Routledge, 2012), tt. 63–76
‘Iniquity, terror and survival: Welsh Gothic, 1789–1804’, Journal for Eighteenth-Century Studies, 35:1 (2012), 119–33