Llun a Chyflwyniad
Athro (Amlieithrwydd a’r Diwydiannau Creadigol); Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiad Cymreig a Cheltaidd (Prifysgol Cymru)
Canolfan Uwchefrydiad Cymreig a Cheltaidd
Ffôn: 01267 676767
E-bost: elin.jones@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Cyfarwyddwr, Canolfan Uwchefrydiad Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
- Cyfarwyddwr Mercator
- Cyfarwyddwr Strategol: Cyfnewidfa Lên Cymru
- Tim Rheoli: Ewrop Lenyddol Fyw+ / Literary Europe Live+
- Tim Rheoli: Ulysses’ Shelter
- Tim Rheoli: LEILA
Cefndir
Mae’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones wedi gweithio ym maes ieithoedd lleiafrifol Ewrop ers tri degawd gan arbenigo ym maes y cyfryngau, y sectorau creadigol a diwylliannol, cyfieithu, polisi a chynllunio ieithyddol.
Fel aelod-sylfaenydd o Rwydwaith Mercator, mae wedi trefnu a chymryd rhan mewn niferoedd lawer o gynadleddau, prosiectau ymchwil, teithiau astudio ac wedi ysgrifennu a chyfrannu at adroddiadau, erthyglau a llyfrau yn y maes.
Ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mae hefyd yn cyfarwyddo gwaith Cyfnewidfa Lên Cymru ac yn cydweithio’n agos â Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Wales PEN Cymru.
Yn 2016, fe’i hapwyntiwyd yn Is-Gadeirydd Adolygiad Annibynnol ar Gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Gyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru. Yn 2017, fe’i hapwyntiwyd yn aelod o grŵp arbenigwyr Cyngor Ewrop ar y cyfryngau ar gyfer Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol.
Rhwng 2014 a 2018, arweiniodd ddatblygiad y ddarpariaeth ôl-raddedig gyntaf ar lefel Cymru gyfan gydag Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol a gynigir gan Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“Senedd” heddiw), Cymdeithas Lywodraeth leol Cymru a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Mae’n amlieithog, ac yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, mae’n siarad Basgeg, Catalaneg, Ffrangeg, Galisieg a Sbaeneg ac mae ganddi wybodaeth o Eidaleg, Portiwgaleg, Almaeneg a Gwyddeleg.
Mae’n adolygu ar gyfer ystod o gyfnodolion ac mewn sawl iaith. Mae’n aelod o baneli asesu ymchwil mewn sawl gwlad ac wedi arholi doethuriaethau sawl prifysgol yma yn Ewrop.
Goruchwyliodd 8 doethuriaeth ac ar hyn o bryd mae’n arolygu dwy, sydd wedi eu cyllido’n llawn:
Strategaethau ar gyfer rhyngwladoli’r sector cyhoeddi i blant yng Nghymru (Megan Farr) mewn partneriaeth gyda Chyngor Llyfrau Cymru.
Archwilio Cyfleoedd Digidol wrth Ddatblygu a Gweithredu Strategaeth Ryngwladol Gynaliadwy: Eisteddfod Genedlaethol Cymru (Nici Beech).
Prosiectau PhD a gwblhawyd:
- Cynnwys Aml-Gyfryngol Ar-lein mewn Cyd-destunau Lleol a Hyper-Lleol yn yr iaith Gymraeg. Siôn Richards mewn partneriaeth â Golwg360 (KESS)
- The role of Welsh language media in the construction and perceptions of identity during middle childhood. Helen Davies (ail oruchwyliwr)
- Naratifau Clyweledol Aml-blatfform ar gyfer Cynhyrchu Cyfryngau. Nia Dryhurst mewn partneriaeth â Cwmni Da (KESS)
- Diwylliant Cyfranogol a’r Economi Gyfryngol Ddigidol Rhodri ap Dyfrig, mewn partneriaeth â Boom (KESS)
- The significance of animé as a novel animation form Ywain Tomos
- Negotiations of Identity in Minority Language Media: Enrique Uribe-Jongbloed.
- Linguistic Representation in Teen Genre Films 1990-2005 Lisa Richards
- Hanes y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg Kate Woodward (ail oruchwyliwr)
Swyddogaethau blaenorol:
- Cadeirydd Bwrdd Prosiect Termau, Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2013-2017)
- Cyfarwyddwr Uned Monitro ac Ymchwil Cydymffurfiaeth Ddarlledu S4C (1998-2010)
- Cynorthwyydd Ymchwil a Darlithydd, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
- Darlithydd, Uwch Ddarlithydd ac Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Cyfarwyddwr y Gymraeg a Diwylliant Cymru ar draws chwe adran academaidd yn Athrofa’r Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Aberystwyth.
Diddordebau Academaidd
- Amrywiaeth ieithyddol, Polisi a Chynllunio Iaith, Ieithoedd Lleiafrifol/edig
- Sector Greadigol, Cyfryngau a Diwylliant, Cyfryngau Cymdeithasol, Cyfieithu Llenyddol a Chreadigol, Cyhoeddi, Polisi ac Ymarfer
- Cyfnewid Rhyng-Ddiwylliannol, Rhwydweithiau Rhyngwladol, Dinasyddiaeth
Meysydd Ymchwil

Arbenigedd
Mae’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones wedi gweithio ym maes ieithoedd lleiafrifol Ewrop ers tri degawd gan arbenigo ym maes y cyfryngau, y sectorau creadigol a diwylliannol, cyfieithu, polisi a chynllunio ieithyddol.
Fel aelod-sylfaenydd o Rwydwaith Mercator, mae wedi trefnu a chymryd rhan mewn niferoedd lawer o gynadleddau, prosiectau ymchwil, teithiau astudio ac wedi ysgrifennu a chyfrannu at adroddiadau, erthyglau a llyfrau yn y maes.
Ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mae hefyd yn cyfarwyddo gwaith Cyfnewidfa Lên Cymru ac yn cydweithio’n agos â Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Wales PEN Cymru.
Yn 2017, fe’i hapwyntiwyd yn aelod o grŵp arbenigwyr Cyngor Ewrop ar y cyfryngau ar gyfer Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol.
Mae’n aelod o bwyllgor gweithredol ELEN (European Language Equality Network), yn aelod o Fwrdd yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Gadeirydd Cwmni Theatr Arad Goch.
Mae’n amlieithog, ac yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, mae’n siarad Basgeg, Catalaneg, Ffrangeg, Galisieg a Sbaeneg ac mae ganddi wybodaeth o Eidaleg, Portiwgaleg, Almaeneg a Gwyddeleg.