Llun a Chyflwyniad
Rheolwr Rhaglen ar gyfer yr MSc Iechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol ar Waith
Yr Athrofa Dysgu Canol Dinas
E-bost: d.bijlhout@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Rheolwr Rhaglen ar gyfer yr MSc Iechyd y Cyhoedd a Gofal Cymdeithasol ar Waith
- Darlithydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cefndir
Derbyniodd Diola radd PhD mewn Addysg ym Mhrifysgol Greenwich yn Llundain ar y pwnc o hyrwyddo a gwerthuso iechyd a llesiant pobl ifanc yn seiliedig ar fframwaith addysgol arloesol. Graddiodd o Brifysgol Erasmus Rotterdam, yr Iseldiroedd, mewn Economeg Iechyd, Polisi a’r Gyfraith ac roedd ei thraethawd ymchwil yn ymwneud â phŵer cymdeithasau cleifion yn ystod diwygiadau polisi iechyd.
Mae’n cyfuno arfer rhagorol ac arbenigedd ymchwil â chyfrifoldebau darlithio a rheoli rhaglen ar gampws Llundain Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae gan Diola gwmpas rhyngwladol ac mae wedi gweithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Ben Gurion (Israel), Prifysgol Leuven (gwlad Belg), a Choleg Prifysgol Llundain (y DU). Mae wedi addysgu nifer o bynciau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar draws gwahanol wledydd.
Aelod O
ATEE – Cadeirydd y Gymuned Ymchwil a Datblygu ar Addysg Iechyd, yr Amgylchedd ac Addysg Gynaliadwy (2019 – presennol)
Diddordebau Academaidd
- Rheoli Iechyd y Cyhoedd
- Llywodraethu Gofal Cymdeithasol
- Dulliau trawsgwricwlaidd mewn Economeg Iechyd
- Systemau Iechyd Rhyngwladol
- Iechyd Byd-eang
- Ymchwil a Dadansoddi Data
Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori
- Cefnogi sefydliadau trwy ddarparu gofal iechyd/cymdeithasol ac arbenigedd ymchwil i wella statws iechyd poblogaethau, gwasanaethau a dulliau addysgol.
- Wedi datblygu fformat adrodd yn llwyddiannus ar gyfer elusen ryngwladol yn Llundain i ddylanwadu ar bolisi’r llywodraeth.
- Wedi datblygu ymchwil gwerthuso yn llwyddiannus i asesu llwybr gofal newydd yn maes diabetes clinigol.
Cyhoeddiadau
- Bijlhout, D., Vilaca, T., a Chewitt-Lucas, R. (2023). Best Teaching Practices in Environmental Sustainability Education: A Cross-Country Comparison. Palgrave Macmillan, Cham.
- Magaji, A., Ade-Ojo, G. A., Bijlhout, D., (2022), The Impact of After School Science Club on the Learning Progress and Attainment of Students, International Journal of Instruction. Vol.15 (3), pp. 171-190.
- Muraro, A, Bijlhout, D., et al., (2021). EAACI guideline: Anaphylaxis (2021 update), Allergy European Journal of Allergy and Clinical Immunology,2021.
- Silva, D, Bijlhout, D., et al., (2020). Diagnosing, managing and preventing anaphylaxis: Systematic review, Allergy European Journal of Allergy and Clinical Immunology, 2020 (00), 1–14.
- Bijlhout, D., (2015). “Vulnerable migrants’ ability to register with GP’s in Greater London: assessing General Practice behaviour”, Adroddiad – Doctors of the World, London.
- Neyens, I., Bijlhout, D., Vermeulen, B., a Van Audenhove, C.H. (2015). “Psychosocial needs and support for men with prostate cancer and their spouse”, Tijdschrift voor Geneeskunde, Vol. 71 (16), 1019 – 1024.
- Bijlhout, D., Neyens, I., Vermeulen, B., and Van Audenhove, CH. (2013). Adroddiad “Qualitative data results of the psychosocial needs of men diagnosed with prostate cancer and their partners in Flanders”. LUCAS, Leuven University, Belgium.
- Vermeulen, B. Bijlhout, D., DeSmet, A., Neyens, I., a Van Audenhove, CH. (2013). Adroddiad “Quantitative data results of the psychosocial needs of men diagnosed with prostate cancer and their partners in Flanders”. LUCAS, Leuven University, Belgium.
- Bijlhout, D., DeSmet, A., Schrijfers, J., a Van Audenhove, Ch. (2011). Adroddiad “Psychosocial support for the needs of men with prostate cancer and their partners in Flanders”. LUCAS, Leuven, Belgium.
Gwybodaeth bellach
Mae’n gweithredu fel adolygydd cymheiriaid ar gyfer :
- Y Gymdeithas Addysg Athrawon yn Ewrop (ATEE)