Llun a Chyflwyniad
Rôl yn y Brifysgol
Rwy’n marcio papurau ar gyfer yr MA Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg ac yn addysgu sesiynau dysgu o bell ym modwl Hanes yr MA Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg. Yn ogystal, rwy’n gwneud cyflwyniadau yn yr ysgol haf a gynhelir bob blwyddyn, ac ar gampws Llundain PCYDDS mewn cynadleddau undydd achlysurol.
Cefndir
Mae gen i PhD o Brifysgol Caerlŷr ar gyflwyniad seryddiaeth i Loegr yn y ddeuddegfed ganrif trwy gyfieithiadau Lladin o destunau sêr-ddewiniol Arabeg a Hebraeg o’r byd Islamaidd. Rwyf hefyd yn addysgu cysyniadau astroleg canoloesol i fyfyrwyr hanes israddedig yn eu blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerlŷr, ac yn rhoi areithiau rheolaidd mewn cynadleddau cysylltiedig â seryddiaeth ac academaidd, er enghraifft yn yr International Congress on Medieval Studies ym Mhrifysgol Michigan, Kalamazoo.
Diddordebau Academaidd
Yn 2019, gwnes i gwblhau PhD ym Mhrifysgol Caerlŷr a chyn hynny roeddwn wedi graddio o Goleg Prifysgol Bath Spa gydag MA mewn Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg yn 2008. Mae fy niddordebau academaidd mewn hanes astroleg – roedd fy MA ar ddatblygiad y zodiac mewn testunau Babilonaidd, a’m PhD ar gyfieithu llawysgrifau sêr-ddewiniol Arabeg yn bennaf i Ladin yn y ddeuddegfed ganrif. Rwy’n diwtor ar fodwl Hanes Astroleg yr MA Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (HPCA7017 Hanes Astroleg) a sesiynau addysgu ar y modwl hwn a marcio papurau myfyrwyr.
Meysydd Ymchwil
Mae fy ymchwil academaidd yn ymwneud â mudiad cyfieithu’r ddeuddegfed ganrif o destunau sêr-ddewiniol a chompiwtistig o’r byd Islamaidd, a ysgrifennwyd yn bennaf mewn Arabeg, i’r Lladin ac ymchwilio i’r effaith gafodd y wybodaeth newydd hon wrth ddosbarthu astudio astroleg Yn yr Ewrop Gristnogol. Mae gen i hefyd ddiddordeb yn y rôl a chwaraeodd ysgolheigion Iddewig o’r unfed ganrif ar ddeg i’r bedwaredd ganrif ar ddeg ym maes astroleg a’i lledaeniad i Ewrop Gristnogol, gan ystyried eu rôl unigryw wrth fyw mewn tiroedd Islamaidd a Christnogol.
Arbenigedd
Mae gen i gefndir cryf mewn technegau astroleg canoloesol, ac rwy’n gweithio gyda llawysgrifau canoloesol, sydd wedi galw am astudio paleograffeg a Lladin yn ffurfiol. Rwyf wedi mynychu gwahanol gynadleddau ar ddigideiddio llawysgrifau gan ddefnyddio offer i wneud dogfennau’n haws eu dadansoddi gan feddalwedd cyfrifiadurol, sydd o ddiddordeb arbennig i mi.
Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori
Yn ogystal ag addysgu yn PCYDDS, rwy’n gyfarwyddwr ar gwmni ymgynghori meddalwedd sy’n cynhyrchu meddalwedd ar gyfer ysbytai GIG, ac rwyf hefyd yn rhedeg cwmni ymgynghori bach sy’n darparu gwasanaethau sêr-ddewiniol o natur dechnegol. Ymhlith y prosiectau rydym wedi’u cynnal mae gwaith i gynhyrchu byrddau sêr-ddewiniol ac astronomegol ar gyfer cyhoeddwr cylchgronau, cynhyrchu effemeris ar gyfer cwmni cyhoeddi Japaneaidd, a chynhyrchu byrddau cefnogi o gyfnodau’r lloer ar gyfer ap rhadwedd boblogaidd.
Cyhoeddiadau
2008: ‘Did the division of the year by the Babylonians into twelve months lead to the adoption of an equal twelve-sign zodiac in Hellenistic astrology?’, traethawd hir MA.
2014: ‘Astrology: Part of integrated health care?’, Datganiad i’r Wasg gan Brifysgol Caerlŷr a gyhoeddwyd yn y Leicester Mercury
2020: , traethawd hir PhD, Prifysgol Caerlŷr.
Gwybodaeth bellach
Dyfarnwyd i mi grant teithio i gyflwyno papur yn yr International Congress on Medieval Studies yn Western Michigan University, Kalamazoo, o’r enw “The Rabbi, the Pope and the Black Death: Levi ben Gerson’s Prognostication for the Conjunction of 1345” yn 2015.