Image and intro
Darlithydd
Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru
Ffôn: 01267 676767
E-bost: b.davis@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Arweinydd modwl ar gyfer BMus Cyflwyno Perfformiad
Cefndir
Yn hanu o Gaerfaddon yn Lloegr, astudiodd Ben Davis Saesneg a llenyddiaeth gysylltiedig ym Mhrifysgol Efrog gydag ysgoloriaeth Erasmus i astudio Llenyddiaeth Ffrangeg a Chelf Fodern yn Saint Étienne. Mae ganddo MA mewn Cyfarwyddo Theatr o Goleg Goldsmiths, Llundain, lle arbenigodd mewn carnifalésg trwy brosiect ymchwil yn Rio a Salvador Bahia, Brasil. Ar ddechrau ei yrfa, bu’n addysgu EAP ym Mhrifysgol Ryngwladol Schiller ac yn gweithio mewn theatrau ar Gyrion Llundain ac yng Ngŵyl Caeredin cyn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyfarwyddwr Staff o 2001-2012. Yn Opera Cenedlaethol Cymru, bu’n cynorthwyo cyfarwyddwyr sefydledig ar gynyrchiadau teithiol cenedlaethol, yn cyfarwyddo sawl adfywiad yn ogystal â phrosiectau addysg, a’i gynyrchiadau cymunedol a phrif lwyfan ei hun. Ers 2012, mae wedi mwynhau gyrfa lawrydd ryngwladol yn gyfarwyddwr llwyfan, yn gweithio gyda chwmnïau opera a gwyliau rhanbarthol a chenedlaethol yn y DU, Ffrainc, yr Almaen, Awstria, yr Eidal, Sbaen, Denmarc, yr Iseldiroedd, Malta, Canada, Gogledd America, a Tsieina.
Ochr yn ochr â’i yrfa yn gyfarwyddwr opera, cwblhaodd Ben Davis ei draethawd ymchwil doethurol yn 2020: astudiaeth ar sail arfer o Berfformio Realaeth mewn cynyrchiadau opera cyfoes, wedi’i noddi gan y Ganolfan Ymchwil Ryngddisgyblaethol Opera a Drama, yn yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae hefyd yn Ymchwilydd Cysylltiol. Mae wedi byw yng Nghymru ers mwy nag 20 mlynedd, gan addysgu’n rheolaidd yn sector AU y DU wrth ddatblygu arfer proffesiynol a diddordeb ymchwil mewn ffurfiau perfformio cyfoes.
Aelod O
- AGMA ac Equity Canada yn Gyfarwyddwr Opera
Diddordebau Academaidd
Ymchwilydd Cysylltiol
Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd
Cyd-drefnydd, cyflwynydd, a hwylusydd gweithdai rhyngddisgyblaethol ôl-raddedig rhwng Ysgolion MLANG a CHERDD gyda CIRO (Y Ganolfan Ymchwil Ryngddisgyblaethol Opera a Drama) ac Opera Cenedlaethol Cymru yn 2018, 2019 a 2021, 2022:
‘Ralph Koltai: Life and Adventures of an Enemy Alien. An interdisciplinary workshop extravaganza!’ ym Mhrifysgol Caerdydd, 20fed Mawrth 2018.
‘Understanding Opera: Adventures in Surtitling’ yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Mawrth 2019
‘The Languages of Opera, Translation and Adaptation: A Creative Workshop’, Mawrth 2021 a Mawrth 2022
‘M쾱Բ 쾱ɱ’, cynhyrchiad ffilm digidol o fonodrama operatig, Mai 2021
Darlithydd Cysylltiol
Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd
Addysgu ac asesu modylau israddedig: ‘Busnes Opera’, ‘Opera Eidaleg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’, ‘Astudiaethau Repertoire’, ac ‘O’r Dudalen i’r Llwyfan’
Prifysgol y Celfyddydau Llundain
BA Actio a Pherfformio, BA Theatr Gyfoes: addysgu ar 2 gynhyrchiad digidol a darlithoedd ar y Dudalen i’r Llwyfan, Realaeth Gyfoes, a Gwrthwynebiad i Gynhyrchu mewn Perfformio a gyflwynwyd ar draws 3 modwl dysgu cyfunol
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
MA Astudiaethau Lleisiol Uwch, cynllunio a chyflwyno dosbarthiadau actio pwrpasol
Arweinydd modwl BMus Cyflwyno Perfformiad
Meysydd Ymchwil
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys:
- Perfformio fel cyfeiriannu
- Arfer fel Ymchwil
- ‘A//ٴDz’&Բ;
- Rhywedd a pherfformio
- Trothwyoldeb
- Realaeth ddeialogaidd a beirniadol
- Perfformiad diwylliannol materol ac anfaterol
- Cynyrchiadau opera cyfoes
Gwobrau Opera Rhyngwladol
- Première Byd, gweithio fel collaborateur artistique à la mise-en-scène ar gyfer Written On Skin gan George Benjamin a Martin Crimp yng Ngŵyl Aix-en-Provence.
- DVD, gweithio yn Gyfarwyddwr Adfywiadau ar gyfer Gianni Schicchi gan Giacomo Puccini yn rhan o Il Trittico yn ROH Covent Garden.
Arbenigedd
Mwy nag ugain mlynedd yn gweithio yn gyfarwyddwr opera proffesiynol a chyfarwyddwr adfywiadau ar draws repertoire eang, o brosiectau stiwdio i blatfformau cyngerdd, i dai opera mawr a gwyliau rhyngwladol, fel y rheiny yng Nghaerdydd, Salzburg, Aix-en-Provence, Amsterdam, a Beijing.
Arbenigedd mewn llwyfannu a lled-lwyfannu opera cyfoes, sydd wedi cynnwys première byd o Written On Skin gan Martin Crimp a George Benjamin a enillodd Wobr Opera Ryngwladol, yn ogystal â première y DU o As One, ar thema drawsryweddol, gan Laura Kaminsky, Kimberley Reed a Mark Campbell, a’r première byd digidol a byw o Bhekizizwe, gan Robert Fokkens a Mkhululi Mabija.
Hefyd â phrofiad o gyfarwyddo perfformiadau byw ar gyfer y cyfryngau wedi’u recordio fel darllediadau ar y teledu, y rhyngrwyd, a’r sinema.
Darlithydd a Chyfarwyddwr Gwadd mewn Conservatoires yn y DU
-
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
-
MA a BA Dylunio ar gyfer Prosiectau Perfformio (Opera)
-
Golygfeydd Opera
-
Preswylfeydd y Stiwdio Opera Genedlaethol gydag Opera Cenedlaethol Cymru
-
Cynyrchiadau ar gyfer Conservatoire Brenhinol Ysgol Opera’r Alban:
-
‘Sir John in Love’ gan Vaughn Williams
-
‘La Rondine’, gan Giacomo Puccini
Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori
-
Gwaith ymgynghori celfyddydol ar gyfer prosiect Arloesi ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd ynghylch Bhekizizwe
-
Aelod o Bwyllgor Llywio’r Diwydiant, Prifysgol Bath Spa, Adran y Celfyddydau Perfformio
-
Ymgynghorydd Arbenigol i Brifysgol Bath Spa, Adran y Celfyddydau Perfformio, Cwrs Gradd Sylfaen
Cyhoeddiadau
Ysgolheigaidd:
-
Pennod Llyfr: ‘Semi-staging Written On Skin: an experiment in the ‘doubleness’ of lived experience and unfolding performative invention’ yn The Routledge Companion to Autoethnography and Self-Reflexivity in Music Studies, goln. C. Wiley a P. Gouzouasis, (Llundain: Routledge, 2023).
-
Pennod Llyfr: ‘’ yn Musical Spaces: Place, Performance and Power, Goln. James Williams, Samuel Horlor (Efrog Newydd: Jenny Stanford Publishing, 2022)
-
Traethawd ymchwil PhD: ‘’ (2020) Ar gael ar-lein yn:
-
Ralph Koltai: Life and Adventures of an Enemy Alien. An interdisciplinary workshop extravaganza!’ yn 100 Gwrthrych #16 Ymchwil yn yr Ysgol Cerddoriaeth
-
Erthygl: ‘’ yn Irish Studies Review, Cyf.4 1996 Rhifyn 14, cyhoeddwyd ar-lein yn 2008, ar gael yn:
Erthyglau mewn Rhaglenni Opera:
-
Bhekizizwe, ‘’, Opera’r Ddraig, Cymru 2022:
-
The Queen of Spades, ‘Obsession and collision in Tchaikovsky’s The Queen of Spades’, Erthygl Nodwedd a Nodyn y Cyfarwyddwr, Lyric Opera of Chicago, UDA 2020
-
Ariodante ‘Director’s Note’, Lyric Opera of Chicago, UDA 2019
-
Ariodante ‘Director’s Note’, Canadian Opera Company 2016
-
Cosi fan tutte, ‘The Arabian Phoenix’, Opera Cenedlaethol Cymru 2011 a 2012
-
Hansel and Gretel, ‘Director’s Note’, Portland Opera, UDA 2010
-
Il trittico, ‘Time is essential’, Opera Zuid, Yr Iseldiroedd 2007
Mewnwelediad Cynhyrchu a Deunydd Cyfweld Ar-lein:
-
Inside Opera:
-
Canllawiau :
-
Cyfarwyddwr fersiwn ffilm stiwdio o Bhekizizwe a ddangoswyd gyntaf yn 2021 gyda BBC ar-lein yn rhan o Ŵyl Ryngwladol y Llais.
Gwybodaeth bellach
Aelod pwyllgor cynhadledd ar gyfer Diwrnod Astudio ‘Musical Mapping’ ym Mhrifysgol Caerdydd, 18fed Mehefin 2019, a noddwyd gan yr Academi Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Leverhulme
Papurau a chyflwyniadau mewn cynadleddau academaidd
‘Lifting Realism off the Floor’, yng Nghynhadledd OBERTO ar ‘Operatic Acting’ ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen.
Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd:
Darlith Bird:
‘Finding Hannah “in-between”: an experiment in liminality and a/r/tography’ ynghylch digwyddiad première y DU o As One, yn cynnwys y dawnsiwr trawsryweddol, Jarry Glavin, ar gyfer y Lontano Festival of American Music yn Llundain 2021.
‘Opera as Diamond Ring and Other Valuables’ yn dilyn ethnograffeg ar sail cyfweliadau gyda gweithwyr opera proffesiynol
‘Dialogue as a research methodology’
‘Khovanshchina and the Centenary of the Russian Revolution’ yn dilyn fy adfywiad o gynhyrchiad Syr David Poutney ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru.