ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Dr Badir Miftah BSc, MSc, PhD

Llun a chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Darlithydd

Athrofa Rheolaeth ac Iechyd


E-bost: b.miftah@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Darlithydd mewn Cyllid

Diddordebau Academaidd

  • Cyfrifeg Rheolaeth
  • Cyllid ar gyfer Rheolwyr Busnes
  • Cyllid ar gyfer Busnes
  • Cyfrifeg ar gyfer Busnes
  • Egwyddorion Cyllid
  • Egwyddorion Cyfrifeg
  • Adrodd Ariannol
  • Dadansoddi Ariannol
  • Modelu Ariannol

Meysydd Ymchwil

  • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR)
  • Prisio Asedau
  • Rhagolygu
  • Llywodraethu, Amgylcheddol, Cymdeithasol (ESG)

Arbenigedd

Mae gyda fi brofiad helaeth o addysgu, arholi a goruchwylio mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU (PCYDDS a Phrifysgol Abertawe) ac yn rhyngwladol (Prifysgolion Sabha ac Almergib, Libya). Yn fy swydd gyfredol yn PCYDDS rydw i’n addysgu adrodd corfforaethol, dadansoddi cyfriflenni ariannol, cyllid ar gyfer rheolwyr busnes a dadansoddi data digidol. Ym Mhrifysgol Abertawe, bues i’n gyfrifol am addysgu ac arholi modylau amrywiol, megis Dadansoddi Cyfriflenni Ariannol, Cyllid ar gyfer Busnes, Cyfrifeg Rheolaeth (gwerthuso penderfyniadau buddsoddi tymor hir a chostau perthnasol penderfyniadau tymor byr), a Chyfrifeg ar gyfer Busnes.

Mewn gwaith blaenorol i Brifysgol Sabha, addysgais fodylau amrywiol, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol, Egwyddorion Cyllid, Egwyddorion Bancio a Dulliau Meintiol ar gyfer Busnes a Chyllid. Ymhellach, ym Mhrifysgol Almergib, bues i’n gyfrifol am lunio, addysgu ac arholi’r modwl mewn Rheoli Risg Ariannol. Yn nhermau gweinyddiaeth, gallaf gyfrannu at yr adran drwy weithredu fel cydlynydd modwl i fodylau cyllid israddedig ac ôl-raddedig a thrwy ymgymryd â chynllunio gweithgarwch ymchwil a seminarau.

Cyhoeddiadau

PhD 

  • ‘Sovereign credit default swaps pricing model’

Papurau Gweithio

  • Miftah, B., Realdon, M., and Upreti, V. ‘Forecasting Sovereign Prices’. Financial Review. [ABS 3-Star]. [yn cael ei arolygu]
  • Miftah, B. ‘Pricing Sovereign credit default swaps: covering 10 countries in the Eurozone and Latin America’.
  • Miftah, B. ‘What are the determinants of sovereign credit default swaps spread: covering 19 countries in the Eurozone and Latin America and including macroeconomic factors’.
  • Miftah, B. ‘Linking executive pay to ESG in the Eurozone countries’. Target Journal [ABS 3-Star].

Cyflwyniadau mewn Cynadleddau

  • Miftah, B. ‘Sovereign CDS Pricing Models’ (Cynhadledd Young Finance Scholars) 13-14 Mehefin 2019. Prifysgol Sussex.
  • Miftah, B. ‘Sovereign CDS pricing models’ (Cynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol Rheolaeth) 1af Mai 2019. Prifysgol Abertawe.