Simultaneous Interpretation (Part-time) (PGCert)
Rhaglen ran-amser unigryw yw’r rhaglen Cyfieithu ar y Pryd (PGCert) a gynlluniwyd ar gyfer y rhai sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau cyfieithu ar y pryd. P’un a ydych yn gyfieithydd proffesiynol, yn ddarpar gyfieithydd, neu’n unigolyn sydd ag angerdd am ieithoedd, mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfuniad o hyfforddiant galwedigaethol a phrofiad ymarferol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y maes deinamig hwn.
Mae’r rhaglen, a gyflwynir gan Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac a ddatblygwyd ar y cyd â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yn sicrhau hyfforddiant o ansawdd uchel wedi’i deilwra i anghenion dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n darparu sylfaen ardderchog i’r rhai sy’n gweithio ym maes cyfieithu ar y pryd, cynllunio iaith, neu broffesiynau cyfieithu eraill.
Mae’r cwrs yn archwilio’r sgiliau a’r technegau sydd eu hangen ar gyfer cyfieithu proffesiynol, gan eich helpu i fagu hyder a chymhwysedd mewn lleoliadau cyfieithu amser real. Trwy weithdai mewn grwpiau bach, ymarfer ymarferol, ac adborth gan gyfieithwyr profiadol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o fethodolegau cyfieithu ac agweddau ymarferol ar y proffesiwn.
Cyflwynir sgiliau allweddol megis tonyddiaeth, rheoli geirfa, a stamina yn gynnar yn y rhaglen, gan sicrhau eich bod yn gwbl barod i fodloni gofynion y rôl. Yn ogystal, cewch gyfleoedd i ennill profiad yn y diwydiant trwy leoliad gwaith 35 awr, sy’n eich galluogi i gymhwyso’ch gwybodaeth mewn sefyllfaoedd byd go iawn a datblygu eich rhwydwaith proffesiynol.
Mae’r cymhwyster hwn yn berffaith i’r rhai sydd am gyfrannu at gynllunio a pholisi iaith, yn ogystal ag unigolion sy’n awyddus i weithio i’r llywodraeth, cynghorau lleol, neu asiantaethau cyfieithu. Gyda’i gyfuniad o ddysgu academaidd a hyfforddiant cymhwysol, mae’r cwrs Cyfieithu ar y pryd (PGCert) yn gam tuag at yrfa lwyddiannus yn y diwydiant cyfieithu a dehongli.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Cymraeg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein dull addysgu yn cyfuno profiad ymarferol â dysgu academaidd i baratoi myfyrwyr ar gyfer rolau proffesiynol ym maes cyfieithu ar y pryd. Mae’r rhaglen wedi’i theilwra i ddatblygu’r sgiliau penodol sydd eu hangen er mwyn llwyddo yn y maes hwn, gan gynnig cyfleoedd ymarferol ac adborth personol i sicrhau hyder wrth ymgymryd â’r gwaith yn y byd go iawn.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu sylfeini cyfieithu ar y pryd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau allweddol fel tonyddiaeth, stamina, a rheoli geirfa. Bydd y modylau yn eich tywys drwy ddefnyddio offer cyfieithu, hanfodion cynllunio iaith, a strategaethau i ddarparu cyfieithiadau o ansawdd uchel mewn gwahanol leoliadau.
(10 credydau)
(20 credydau)
(30 credydau)
Ymwrthodiad
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
Ratings and Rankings
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn rhugl ar lafar yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gofynnir am radd BA fel arfer, ond gellir trafod eich cymwysterau a’ch profiad proffesiynol gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen os oes amheuaeth.
-
Tystysgrif ymarferol, alwedigaethol yw hon; felly, mae’r prif bwyslais ar asesu sgiliau ymarferol unigolion wrth gyfieithu ar y pryd. Mae’r profion cyfieithu ar y pryd yn cael eu recordio gan ddefnyddio offer recordio symudol. Yn ogystal, gofynnir i unigolion gwblhau gwaith ysgrifenedig ar eu cynnydd a’u profiad ar y cwrs ac yn y gweithle.
- Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd: dau brawf CAP 5 munud yr un (80%), Adroddiad 1,000 o eiriau (20%)
- Cyfieithu ar y Pryd: Ymarfer ac Ymarfer: dau brawf CAP 10 munud yr un (80%) cyflwyniad llafar (20%)
- Cyfieithu ar y Pryd Proffesiynol: dau brawf CAP 10 munud yr un (60%), traethawd adfyfyriol 3,000 o eiriau yn seiliedig ar brofiad gwaith 35 awr (40%)
-
Datblygwyd y cymhwyster hwn mewn cydweithrediad agos â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru a chyfieithwyr ar y pryd profiadol. Mae’r rhaglen hon yn cynnig 35 awr o brofiad gwaith i fyfyrwyr.
-
- Cyfieithu
- Cyfieithu ar y pryd
- Gweithio i’r llywodraeth, cynghorau sir, unedau cyfieithu, mentrau iaith, cwmnïau cyfieithu
Mae llawer o’r unigolion sy’n dilyn y rhaglen yn gyfieithwyr profiadol sy’n awyddus i hogi eu sgiliau cyfieithu ar y pryd a dilyn hyfforddiant wrth eu gwaith. Ar y llaw arall, mae rhai yn ddwyieithog ac yn ymddiddori mewn cyfieithu, ond yn dod o feysydd eraill fel addysgu neu is-deitlo.
Mae rhai o’n cyn-fyfyrwyr wedi cael dyrchafiad yn y gwaith ac wedi dod yn uwch gyfieithwyr ar ôl ennill y cymhwyster hwn; mae eraill wedi mentro i gyfieithu ar y pryd am y tro cyntaf a dechrau gweithio gyda chwmni cyfieithu; mae eraill wedi dechrau eu busnesau eu hunain gan arbenigo mewn cyfieithu ar y pryd.