Polisi a Chynllunio Iaith (Rhan amser) (PGCert)
Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith yn rhaglen ar-lein, ran-amser, ddiddorol wedi’i theilwra i unigolion sy’n awyddus i ddeall dwyieithrwydd ac amlieithrwydd. Gyda sylfaen yn nhreftadaeth ieithyddol gyfoethog Cymru, mae’r cwrs yn cyfuno fframweithiau damcaniaethol â mewnwelediadau ymarferol i gynllunio ieithyddol ar lefelau lleol a byd-eang.
Mae’r cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer rolau effeithiol ym meysydd polisi cyhoeddus, addysg a datblygiad cymunedol, gan roi’r sgiliau iddynt ymdrin â chymhlethdodau ieithyddol. Archwiliwch sut mae iaith yn siapio hunaniaethau a chymdeithasau wrth gyfrannu at faes polisi iaith sy’n esblygu.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Cymraeg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hymagwedd yn cyfuno theori a chymhwysiad ymarferol i sicrhau eich bod yn datblygu dealltwriaeth gref o bolisi iaith a’r sgiliau i’w gymhwyso mewn lleoliadau amrywiol. Yn hyblyg ac yn ddeniadol, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i ddiwallu anghenion proffesiynol a dyfnhau eich gwybodaeth am ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd.
Byddwch yn astudio sylfeini polisi a chynllunio iaith, gan ganolbwyntio ar ei sylfeini damcaniaethol a’r datblygiadau hanesyddol. Bydd myfyrwyr yn dadansoddi’n feirniadol ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar fywiogrwydd ieithoedd, gan archwilio strategaethau ymarferol i hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol yng Nghymru ac yn fyd-eang.
(30 Credyd)
(30 credydau)
Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Goruchwylir trefniadau mynediad yr Ysgol gan y Tiwtor Mynediad ynghyd â Phennaeth Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd.
Dilyna’r Ysgol ganllawiau’r Brifysgol parthed y cymwysterau angenrheidiol megis y nodir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Fel arfer, disgwylir bod myfyrwyr ôl-radd wedi ennill gradd gyntaf a ddyfarwyd gan brifysgol neu gorff dyfarnu cydnabyddedig.
Beth bynnag, caniatâ’r canllawiau hyn hefyd geisiadau oddi wrth fyfyrwyr nad ydynt efallai yn cydymffurfio â gofynion academaidd y dull mynediad arferol.Gall yr Ysgol, felly, ystyried ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr aeddfetach y bydd ganddynt brofiad perthnasol a /neu gymwysterau amgen i’r rheiny a amlinellir uchod.
Fel arfer, gofynnir i fyfyrwyr rhyngwladol nad yw’r iaith Saesneg yn famiaith iddynt ac sydd yn ceisio am gyrsiau ôl-radd ddangos tystiolaeth am feistrolaeth ddigonol ar yr iaith Saesneg ar gyfer dilyn cwrs, ymgymryd ag ymchwil a chynhyrchu gwaith ysgrifenedig heb drafferthion ieithyddol sylweddol. Fel arfer, disgwylir tystiolaeth Tystysgrif Uwch neu Hyfedredd Caergrawnt, sgôr lleiafswm 6.5 gan IELTS, 575 gan TOEFL neu 700 gan TOEIC.
Ar ôl derbyn ceisiadau a’u harchwilio gan Bennaeth yr Ysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen, gwahoddir pob ymgeisydd cymwys am gyfweliad. Cyfwelir myfyrwyr astudio-o-bell sydd dramor ar Skype neu ar y ffôn ac o dan yr un amodau trwyadl â’r rheiny a gyfwelir yn y brifysgol.
-
Asesu
- Hanfodion Cynllunio Iaith: Aseiniad ysgrifenedig 5,400 o eiriau (60%) a chyflwyniad seminar 30 munud (40%).
- Hyrwyddo’r Gymraeg: Portffolio 5,400 o eiriau (60%) a chyflwyniad seminar 30 munud (40%).
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gan y Brifysgol adnoddau arbennig yn y maes sydd yn ein galluogi i gynnig ystod o fodylau i gwrdd â gofynion datblygiad proffesiynol a diddordebau personol. Y mae ffocws y radd yn eang ac, felly, mae’n addas ar gyfer ystod o feysydd proffesiynol gyda’r nod i arfogi myfyrwyr â’r wybodaeth gefndirol a’r sgiliau angenrheidiol i fedru gweithio’n hyderus ym maes dwyieithrwydd / amlieithrwydd a chynllunio iaith. Mae’r cwrs yn cynnig ystod eang o brofiadau ac, felly, bydd yn apelio at unrhyw un sydd yn gysylltiedig â datblygu defnydd o’r iaith Gymraeg ac / neu ieithoedd eraill yn y gymdeithas gyfoes, gan gynnwys, er enghraifft:
- Athrawon a Hyfforddwyr
- Cyfieithwyr
- Gweithwyr Ieuenctid / Cymunedol
- Swyddogion Iaith
- Cynllunwyr Iaith
- Swyddogion y Llywodraeth / Llunwyr Polisi