ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Saesneg a Hanes (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Mae’r Radd Cydanrhydedd Saesneg a Hanes yn cynnig cyfle i chi archwilio dau bwnc diddorol sy’n rhyngberthyn. Mae’r cwrs hwn yn galluogi i chi astudio llenyddiaeth Saesneg a hanes, a’r croestoriadau rhyngddynt, gan ddatblygu’r sgiliau deallusol i fynd i’r afael â’r pynciau hyn o amrywiaeth o safbwyntiau.

Mae rhan Saesneg y radd yn cwmpasu ystod eang o lenyddiaeth o wahanol enres a chyfnodau, o Shakespeare i ffuglen gyfoes, ac yn archwilio themâu a syniadau allweddol sydd wedi siapio datblygiad llenyddiaeth a’r ddealltwriaeth ohoni. Byddwch yn ymgysylltu â theori lenyddol ac arfer dadansoddi llenyddol, gan ddysgu dehongli testunau yn eu cyd-destun hanesyddol ac adfyfyrio ar sut mae llenyddiaeth yn adlewyrchu ac yn siapio cymdeithas. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gynhyrchu ymatebion creadigol i destunau.

Mae rhan Hanes y radd hon yn archwilio hanes Ewrop, yr Unol Daleithiau, a thu hwnt, yn amrywio o Rufain yr Henfyd i’r cyfnod modern. Fe fydd yn galluogi i chi archwilio ystod o ymagweddau thematig at hanes, gan gynnwys hanes gwleidyddol, hanes cymdeithasol, a hanes diwylliannol, gan eich annog i ystyried cyfoeth ac amrywiaeth profiad dyn ar draws amser. 

Byddwch yn dysgu i ddadansoddi testunau a ffynonellau a dealltwriaeth o sgiliau naratif a meddwl beirniadol. Caiff y sgiliau hyn eu profi trwy ystod o asesiadau, o draethodau i brosiectau archif a llyfrgell, i ymatebion creadigol.

Mae’r ddau bwnc yn gweithio gyda’i gilydd i wella eich sgiliau cyfathrebu, gan ganolbwyntio ar sut i gyflwyno syniadau cymhleth yn glir ac yn argyhoeddiadol. Mae’r sgiliau hyn yn werthfawr nid yn unig mewn cyd-destun academaidd, ond ar gyfer ystod o yrfaoedd ar ôl graddio. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu asesu deunyddiau hanesyddol a llenyddol yn feirniadol, gan ddarparu dehongliadau seiliedig ar dystiolaeth o’r gorffennol ac ymgysylltu â dadleuon diwylliannol, llenyddol a hanesyddol mewn ffordd ystyrlon.

Mae’r radd gydanrhydedd hon yn y Dyniaethau yn rhoi cyfle i adeiladu profiad academaidd cydlynol a gafaelgar, gan gynnig hyblygrwydd i greu cyfuniadau o fodylau sy’n gweddu orau i’ch diddordebau. Drwy astudio Saesneg a Hanes, byddwch yn meithrin dealltwriaeth ddofn o’r cyfnodau hanesyddol sydd wedi siapio ein byd a datblygu’r sgiliau dadansoddol a chreadigol sy’n angenrheidiol er mwyn dehongli llenyddiaeth a hanes.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
QV31
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Yn heriol yn academaidd ac yn greadigol, ein bwriad yw meithrin eich doniau creadigol ar draws ystod o ffurfiau gwahanol – gan gynnwys straeon byrion, sgriptiau ffilm, barddoniaeth, drama a nofelau.
02
Rhown gyfle i chi ddatblygu dealltwriaeth o fyd cyhoeddwyr gan ganolbwyntio ar eich sgiliau ymchwil a golygu ac archwilio agweddau allweddol ar gyhoeddi.
03
Byddwch yn mynychu dosbarthiadau mewn grwpiau bach â ffocws ar weithgareddau trafod a dysgu i annog yr hunan-ddatblygiad a’r adfyfyrio beirniadol y derbynnir eu bod yn allweddol ar gyfer datblygu galluoedd personol a phroffesiynol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen Cydanrhydedd Saesneg a Hanes wedi’i chynllunio i feithrin meddwl beirniadol, creadigrwydd, a dysgu annibynnol. Trwy gyfres o astudiaethau rhyngddisgyblaethol, bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol i ddadansoddi a dehongli testunau llenyddol a hanesyddol. Gan ganolbwyntio ar feddwl beirniadol, ysgrifennu creadigol, a chyd-destun hanesyddol llenyddiaeth, anogir myfyrwyr i ymgysylltu â syniadau a safbwyntiau cymhleth.

Yn y flwyddyn gyntaf, caiff myfyrwyr eu cyflwyno i gysyniadau craidd ym meysydd llenyddiaeth Saesneg a hanes. Bydd y ffocws ar ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol, archwilio genres llenyddol mawr a chyfnodau hanesyddol, a dysgu technegau ymchwil allweddol. Bydd myfyrwyr yn dechrau deall sut mae beirniadaeth lenyddol a dadansoddiad hanesyddol yn croestorri, gyda ffocws ar ddadansoddi testunau gwreiddiol yn eu cyd-destun hanesyddol.

Gorfodol

Archwilio'r Dyniaethau

(20 credydau)

Dewisol

Haneseiddio Testunau

(20 credydau)

Cyflwyniad i'r Grefft o Ysgrifennu

(20 credydau)

Mythau a Mytholeg: Sut mae Straeon yn Siapio'r Byd

(20 credydau)

Ffuglen Boblogaidd

(20 credydau)

Astudio Llenyddiaeth: Testun a Theori

(20 credydau)

Bydoedd pobl: Rhyngweithio â’r Amgylchedd

(20 Credydau)

Y Byd Modern

(20 credydau)

Gwneud Hanes: Y Gorffennol ar Waith

(20 credydau)

Bywyd bob dydd yn Athen a Rhufain

(20 credydau)

Y Byd Canol Oesol

(20 credydau)

Beth sy'n creu gwareiddiad?

(20 credydau)

Bydd Blwyddyn dau yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd yn y flwyddyn gyntaf, gan gyflwyno pynciau uwch. Bydd myfyrwyr yn dyfnhau eu gwybodaeth am ddehongli llenyddol, ac yn ymgysylltu â phynciau hanesyddol mwy cymhleth, megis hanes gwleidyddol a hanes cymdeithasol. Yn ogystal, byddant yn datblygu sgiliau ymchwil, a fydd yn cynnwys ymchwil archifol, adeiladu naratif hanesyddol, ac archwilio ysgrifennu creadigol a thestunau hanesyddol.

Seice, Testun, a Chymdeithas: Damcaniaeth Feirniadol a Diwylliannol

(20 credydau)

"Green to the very door": Eco-feirniadaeth a Rhamantiaeth

(20 credydau)

Make it New': Agweddau ar Ysgrifennu'r 20fed a'r 21ain Ganrif

(20 credydau)

Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Ysgrifennu ar gyfer Teledu, Ffilm a Radio

(20 credydau)

Dewisol

Prosiect Creadigol Annibynnol
Undod anniddig: Athroniaeth, Cymdeithas a Rhyfel Cartref yn Llenyddiaeth yr Ail Ganrif ar Bymtheg

(20 credydau)

Ysgrifennu nofelau

(20 credydau)

Byddinoedd a Llynghesoedd: Astudiaethau Rhyfela Hynafol

(20 credydau)

Cyffesu gyda Sant Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Actifiaeth, Protest ac Ymgyrchu dros Gyfiawnder Byd-eang

(20 credydau)

(Ail)gyflwyno ac (ail)greu'r Gorffennol

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni

(20 credydau)

Treftadaeth Anodd/ Twristiaeth Dywyll

(20 credydau)

Hunaniaeth a Myth: Y Normaniaid a'u Byd

(20 credydau)

Meddygaeth a Gwyrthiau: Iechyd, Salwch a Gwellhad

(20 credydau)

Cwestiwn Iwerddon 1886-1998: o Charles Parnell i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith

(20 credydau)

Prydain a'r Rhyfel Mawr

(20 credydau)

Chwedlau a Mytholeg Glasurol yn Oes y Rhufeiniaid a'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Rhyfel oer, rhyfeloedd tanbaid: Safbwyntiau byd eang ar hanes ar ol y rhyfel

(20 credydau)

Arddangos y Gorffennol: Yr Hen Aifft, marwolaeth a chynrychiolaeth fodern

(20 credydau)

O Fythau'r Anialwch i Straeon am Ddefaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Llywodraethiant Byd-eang

(20 credydau)

Gwlad, gwlad: Agweddau ar Hanes Cymru o 1200 hyd heddiw

(20 credydau)

Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro

(20 credydau)

Rhyddiaith Cymru yn y Canol Oesoedd

(20 credydau)

Pompeii: Bywyd, marwolaeth ac ailddarganfod tref Rufeinig

(20 credydau)

Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Menywod a Chrefydd

(20 credydau)

Crefyddau yn Affrica

(20 credyd)

Trawsnewid Rhufain: Y Cynfyd Diweddar

(20 credydau)

Byd Han Tsieina (206 CC i 220 OC)

(20 credydau)

Prydain yr Oesoedd Canol o Edward Gyffeswr i Risiart II, 1042 - 1399

(20 credydau)

Ewrop yr Oesoedd Canol o Siarlymaen i’r Rhyfel Can Mlynedd, 800 - 1453

(20 credydau)

Amgueddfeydd, Treftadaeth a Chynrychiolaeth

(20 credydau)

Hil-laddiad Byd-eang

(20 credydau)

Sefyll ar Ysgwyddau Cewri: Deall yr Oleuedigaeth

(20 credyd)

'Rhyfel a wnaeth y Wladwriaeth a Rhyfel y Wladwriaeth': Gwleidyddiaeth a Rhyfela yn yr Oes Fodern

(20 credydau)

O farwolaeth Stalin i'r argyfyngau olew. Bywyd yng nghysgod y Llen Haearn

(20 credydau)

Edrych ar Oes yr Eithafion: Hanes Diwylliannol Ewrop yr 20fed ganrif

(20 credydau)

Yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect traethawd hir annibynnol naill ai yn Saesneg neu Hanes, neu gyfuniad o’r ddau bwnc. Bydd yr ymchwil gwreiddiol hwn yn arddangos sgiliau a ddatblygwyd drwy gydol y rhaglen.

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Seice, Testun, a Chymdeithas: Damcaniaeth Feirniadol a Diwylliannol

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Dewisol

Ysgrifennu nofelau

(20 credydau)

Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

(20 credydau)

Y Darllenydd Hynaws: Cerdd Dafod y Dadeni

(20 credydau)

Byddinoedd a Llynghesoedd: Astudiaethau Rhyfela Hynafol

(20 credydau)

Cyffesu gyda Sant Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Actifiaeth, Protest ac Ymgyrchu dros Gyfiawnder Byd-eang

(20 credydau)

(Ail)gyflwyno ac (ail)greu'r Gorffennol

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni

(20 credydau)

Treftadaeth Anodd/ Twristiaeth Dywyll

(20 credydau)

Hunaniaeth a Myth: Y Normaniaid a'u Byd

(20 credydau)

Cwestiwn Iwerddon 1886-1998: o Charles Parnell i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith

(20 credydau)

Prydain a'r Rhyfel Mawr

(20 credydau)

Chwedlau a Mytholeg Glasurol yn Oes y Rhufeiniaid a'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Rhyfel oer, rhyfeloedd tanbaid: Safbwyntiau byd eang ar hanes ar ol y rhyfel

(20 credydau)

Arddangos y Gorffennol: Yr Hen Aifft, marwolaeth a chynrychiolaeth fodern

(20 credydau)

O Fythau'r Anialwch i Straeon am Ddefaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Llywodraethiant Byd-eang

(20 credydau)

Gwlad, gwlad: Agweddau ar Hanes Cymru o 1200 hyd heddiw

(20 credydau)

Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro

(20 credydau)

Rhyddiaith Cymru yn y Canol Oesoedd

(20 credydau)

Pompeii: Bywyd, marwolaeth ac ailddarganfod tref Rufeinig

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Menywod a Chrefydd

(20 credydau)

Crefyddau yn Affrica

(20 credyd)

Trawsnewid Rhufain: Y Cynfyd Diweddar

(20 credydau)

Byd Han Tsieina (206 CC i 220 OC)

(20 credydau)

Prydain yr Oesoedd Canol o Edward Gyffeswr i Risiart II, 1042 - 1399

(20 credydau)

Ewrop yr Oesoedd Canol o Siarlymaen i’r Rhyfel Can Mlynedd, 800 - 1453

(20 credydau)

Amgueddfeydd, Treftadaeth a Chynrychiolaeth

(20 credydau)

Moddion a Gwyrthiau: Iechyd, Clefyd, ac Iachawdwriaeth
Hil-laddiad Byd-eang

(20 credydau)

Sefyll ar Ysgwyddau Cewri: Deall yr Oleuedigaeth

(20 credyd)

'Rhyfel a wnaeth y Wladwriaeth a Rhyfel y Wladwriaeth': Gwleidyddiaeth a Rhyfela yn yr Oes Fodern

(20 credydau)

O farwolaeth Stalin i'r argyfyngau olew. Bywyd yng nghysgod y Llen Haearn

(20 credydau)

Edrych ar Oes yr Eithafion: Hanes Diwylliannol Ewrop yr 20fed ganrif

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.

  • Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

    Taith Maes ddewisol: Â£30

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae’r Cyfleoedd gyrfaol a gwaith yn eang iawn, ac yn cynnwys:

    • Swyddi gweinyddol a rheoli
    • Gwaith Cymuned
    • Gwaith llawrydd fel ysgrifennu copi, golygu
    • Ysgrifennu creadigol annibynnol ac a gomisiynir
    • Marchnata a chodi arian
    • Cyhoeddi
    • Addysgu
    • Ysgrifennu ar gyfer ffilm, teledu a chyfryngau