ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Maeth, Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd (Llawn amser) (BSc Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae ein gradd BSc mewn Maeth, Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb byw mewn maetheg ac iechyd.   Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi dealltwriaeth ddofn o Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw i chi gan eich arfogi â sgiliau a gwybodaeth ymarferol.  Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau pwysig a throsglwyddadwy megis; arwain, cyfathrebu, datrys problemau a meddwl beirniadol, sy’n werthfawr iawn mewn llawer o ddiwydiannau. 

Mae’r rhaglen wedi’i hachredu gan y Gymdeithas Faetheg, gan sicrhau safonau uwch a chydnabyddiaeth broffesiynol.  Mae perthnasedd cyflogadwyedd yn ffocws allweddol, a chewch eich annog i ennill profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eich dyheadau gyrfa ochr yn ochr â’ch astudiaethau academaidd. 

Fel rhan o’r rhaglen byddwch yn cael cyfleoedd i ennill gwobrau ychwanegol, megis hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol yn ogystal â chymwysterau cymorth cyntaf. Bydd y cymwysterau ychwanegol hyn yn ehangu eich cyflogadwyedd a’ch sgiliau ymarferol. Yn ogystal, byddwch yn cael profiad ymarferol mewn gweithgareddau asesu iechyd a dadansoddi dietegol, gan fynd i’r afael â phroblemau ac achosion y byd go iawn. 

Mae gan ein labordy maetheg adnoddau maeth-benodol a meddalwedd dadansoddi dietegol, gan ddarparu amgylchedd proffesiynol ar gyfer eich astudiaethau.  Mae’r rhaglen yn defnyddio ystod o ddulliau asesu, gan gynnwys cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig, arholiadau, astudiaethau achos, asesu cyfoedion, adroddiadau profiad gwaith, a gwaith yn seiliedig ar brosiect.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch yn gymwys i gael statws Maethegydd Cyswllt Cofrestredig sy’n eich galluogi i ddefnyddio’r teitl ‘A. Nutr.’ Bydd y gydnabyddiaeth broffesiynol hon yn eich gosod ar wahân yn y farchnad swyddi ac arddangos eich arbenigedd mewn maetheg. 

Byddwch yn archwilio agweddau amrywiol o iechyd a maetheg ar y cwrs hwn. Byddwch yn dysgu am glefydau cronig, cynllunio prydau bwyd, maetheg ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff a pholisïau cyhoeddus.  Yn ogystal, byddwch yn astudio seicoleg a pherfformiad dynol, gan ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ffactorau sy’n ddylanwadau ar lefelau iechyd a ffitrwydd. 

Mae ein rhaglen wedi’i chynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn iechyd cymunedol, iechyd cyhoeddus, neu unrhyw rôl sy’n canolbwyntio ar wella iechyd a hybu ffordd o fyw a maetheg.  Gyda rhaglen wedi’i hamserlennu sy’n cydbwyso gwybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol, byddwch yn graddio yn barod i gael effaith gadarnhaol yn y maes iechyd a maetheg. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
NPA1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Achrededig:
Association for Nutrition Accredited Programme  Accreditation No.AX307

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae modylau ymarferol yn caniatáu i chi gael profiad o weithio yn y gymuned (e.e. hybu iechyd ar waith).
02
Mae myfyrwyr yn gymwys i gofrestru gyda’r Gymdeithas Maeth ar ôl graddio.
03
Cyfleoedd i gael dyfarniadau galwedigaethol ychwanegol (e.e. cymorth cyntaf, hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol).

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Byddwch yn dysgu sut mae maetheg ac ymarfer corff yn effeithio ar y corff yn ogystal â sut mae’n effeithio ar iechyd a llesiant unigolion. Yn ogystal, byddwch yn archwilio ffactorau seicolegol a chymdeithasol a all dylanwadau ar ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd. Ein nod yw cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol, gan eich paratoi ar gyfer heriau’r byd go iawn mewn iechyd, maetheg a ffordd o fyw. Rydym yn pwysleisio dysgu ymarferol, meddwl beirniadol, a datblygiad proffesiynol i sicrhau eich bod yn barod am eich gyrfa yn y dyfodol.  

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw.  Byddwch yn astudio bioleg ddynol sylfaenol, egwyddorion maetheg a rôl gweithgaredd corfforol mewn iechyd.  Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, datrys problemau, a meddwl beirniadol drwy ystod o weithgareddau ac asesiadau ysgogol. 

Gorfodol 

Gwyddor Maetheg

(20 credydau)

Cyflwyniad i Glefyd Cronig

(10 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Ymarfer Corff

(10 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd

(10 credydau)

Cyflwyniad i faeth dynol

(10 credydau)

Cyflwyniad i Ffisioleg Dynol

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd (Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored)

(10 credydau)

Maeth Dynol a Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Maethegwyr

(10 credydau)

Dewisol

Cinesioleg

(10 credydau)

Cyflwyniad i Addysgu, Dysgu a'r Cwricwlwm

(20 credydau)

Hyfforddiant Ymarfer Corff (Hyfforddwr Campfa)

(10 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar gymhwyso eich gwybodaeth i gyd-destunau’r byd go iawn. Byddwch yn archwilio afiechydon cronig, dadansoddi dietegol, a gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff.  Byddwch yn cael profiad ymarferol drwy asesiadau iechyd a thrwy ddefnyddio meddalwedd dadansoddi dietegol.  Yn ogystal, byddwch yn dechrau astudio seicoleg iechyd ac effaith polisïau cyhoeddus ar faeth a ffordd o fyw. 

Gorfodol 

Dadansoddiad Dietegol

(20 credydau)

Maetheg Iechyd Cyhoeddus

(20 credydau)

Ymchwil mewn Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol

(20 credydau)

Ymarfer corff ac iechyd meddwl

(10 credydau)

Seicoleg Ymddygiad Corfforol

(10 credydau)

Dewisol

Ffisioleg Ymarfer Corff

(20 credydau)

Darganfod Ffyrdd o Fyw Awyr Agored

(20 credydau)

Iechyd a Lles mewn Addysg

(20 credydau)

Datblygiad Proffesiynol mewn Chwaraeon ac Iechyd

(20 credydau)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio pynciau uwch megis polisïau  cyhoeddus a strategaethau ym maes iechyd a dadansoddiad maethol a dietegol cymhwysol.   Byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol sylweddol, gan grynhoi eich dysgu ac arddangos eich gallu i fynd i’r afael â materion iechyd cymhleth. Mae’r rhaglen yn dod i ben gyda pharatoadau ar gyfer cyflawni statws Maethegydd Cyswllt Cofrestredig. 

Gorfodol 

Maetheg Gymhwysol a Dadansoddi Dietegol

(20 credydau)

Maetheg ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol (Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored)

(40 credydau)

Polisi Cyhoeddus a Hyrwyddo Iechyd yn ymarferol

(20 credydau)

Dewisol

Ffisioleg Ymarfer Corff Uwch

(20 credydau)

Materion cyfoes i blant a phobl ifanc

(20 credydau)

Lleoliad gwaith mewn chwaraeon ac iechyd

(20 credydau)

Ymarfer a maeth ar gyfer poblogaethau penodol

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Fel rheol, ar gyfer y rhaglen BSc (Anrh) Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw, dylai’r gofynion mynediad gynnwys TGAU (neu gyfwerth) gradd C ac uwch (lefel 4 ar y strwythur newydd) mewn Saesneg Iaith a Mathemateg. Yn ogystal, rhagwelir y bydd gan ymgeiswyr o leiaf un Safon Uwch, ‘Irish Leaving Certificate’, ‘Scottish Higher’, neu gyfwerth mewn pwnc gwyddoniaeth addas. Fel arfer, y gofyniad mynediad lleiaf ar gyfer y rhaglen yw 96 o bwyntiau UCAS.

    Gall y gofynion mynediad academaidd a phroffesiynol ar gyfer ymgeiswyr dros 21 oed gymryd i ystyriaeth brofiad perthnasol a chymwysterau blaenorol cyfwerth. I asesu addasrwydd myfyriwr ar gyfer eu dewis gwrs gallwn drefnu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr. Yn y cyfweliad, byddai eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd yn cael eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

    Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, rhaid i’r gofynion mynediad fod yn lled gyfwerth â’r rheiny a ddisgwylir gan fyfyrwyr y DU. Wrth gael eu derbyn, rhaid i fyfyrwyr nad  Saesneg yw eu mamiaith feddu ar ofynion Iaith Saesneg priodol ar gyfer rhaglen a Achrededir gan AfN, heb fod yn llai na 6.5 IELTS (neu gyfwerth), heb yr un adran unigol yn llai na 6.0.

    Os nad oes gennych y cymwysterau hyn neu os nad ydych yn sicr am eich cymhwysedd, cysylltwch â’r Brifysgol drwy e-bostio registry@pcydds.ac.uk

  • The skills of being able to decipher health and nutrition related research and transfer this into ‘real world’ practical applications for individual and community health are developed and assessed over the three years of study. To achieve this, the strong academic focus of the degree is supported by practical modules in health promotion, dietary analysis and fitness and health assessments.

    Whilst on the course, students learn how to present a balanced evidenced argument through their formal written work, as well as via individual and group presentations. Within the final year, students will design and conduct their own research project or literature review in a specialist area of their choice.

    Specific types of assessments include; essays, laboratory reports, presentations (group and individual), practical tasks, examinations (seen and unseen papers).

    • £35 – gweithgaredd dros nos ymgynefino ar gyfer holl fyfyrwyr blwyddyn 1.
    • Dillad chwaraeon (£30+) yn amodol ar y cwrs.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae rhaglenni cyfnewid i’r UD ar gael yn yr ail flwyddyn.

  • Bellach mae Graddedigion y BSc. Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw yn dilyn ystod o lwybrau gyrfaol. Ymhlith yr enghreifftiau o weithleoedd presennol y graddedigion hyn, mae:

    • Swyddog Ymgysylltu 50+
    • Swyddog Llesiant Cymunedol
    • Cynorthwyydd Dieteteg (GIG)
    • Swyddog Iechyd a Lles (dros 50)
    • Ymgynghorydd Ffordd o Fyw Iach (meddygfa)
    • Prif Swyddog Iechyd
    • Rheoli cyfleustra ymarfer corff
    • Astudiaethau ôl-radd (e.e. MSc mewn Maetheg)
    • Athro ysgol uwchradd (technoleg bwyd) (ar ôl astudio TAR)

    Mae myfyrwyr eraill wedi cwblhau, neu’n wrthi’n gwneud astudiaethau ôl-raddedig ar ffurf graddau MSc mewn pynciau cysylltiedig â maeth, iechyd ac ymarfer corff. 

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau