ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Cymdeithasau Cyn-fyfyrwyr

Image of Lampeter reunion

Mae cymdeithasau’n bodoli i gefnogi gweithgareddau cyn-fyfyrwyr y Brifysgol gyda grwpiau neu gampysau penodol.

Maent yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad â’r Brifysgol a’ch cyd-raddedigion ac yn eich galluogi i feithrin a chynnal perthnasau a rhwydweithiau. 

Os oes gennych syniad am Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr, cysylltwch â ni.

Cymdeithas Llambed

Cymdeithas o gyn-fyfyrwyr yw Cymdeithas Llambed sy’n bodoli â’r pwrpas i gefnogi gweithgareddau campws Llambed y Brifysgol. Mae yna ganghennau ar gael yn Abertawe, Caerdydd a Llundain.

Image of Lampeter Society logo

Gwybodaeth am Gymdeithas Llambed

  • Mae holl raddedigion Llambed yn dod yn aelodau awtomatig o Gymdeithas Llambed, yn ogystal ag aelodau o rwydwaith cyn-fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant. 

    Mae aelodaeth yn agored i gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol yn ogystal ag aelodau staff Academaidd sydd wedi’u lleoli ar gampws Llambed. 

    Bydd aelodau fel arfer yn derbyn gohebiaeth gan Swyddog Cyn-fyfyrwyr Llambed y Brifysgol ar ran Cymdeithas Llambed.

  • Rhoddir cefnogaeth gan Gymdeithas Llambed yn ariannol neu mewn unrhyw ffordd briodol arall i gwmpasu holl ystod o fywyd Prifysgol. 

    Yn y blynyddoedd diwethaf maent wedi:

    • gwneud rhoddion blynyddol i’r Llyfrgell a’r Capel

    • ariannu darlith flynyddol Cymdeithas Llambed

    • wedi cyfrannu at gost yr Ardd Harmoni

    • prynu bar symudol ar gyfer tîm arlwyo’r Brifysgol

    • cynnig bwrsariaethau astudio i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel

    • Gweler mwy am Gronfa Bwrsariaeth Cymdeithas Llambed ar dudalen Cefnogi’r Drindod Dewi Sant

    Mae’r Gymdeithas hefyd yn trefnu Penwythnos Aduniad Blynyddol a gynhelir yn ystod yr haf ar gampws Llambed sy’n cynnwys Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chinio Aduniad.  Gweler dudalen Digwyddiadau ac Aduniadau.

  • Mae rhoddion yn hanfodol i alluogi’r Gymdeithas i gynnal yr ystod o gefnogaeth y maent yn ei gynnig ar gampws Llambed. 

    Y swm rhodd blynyddol a awgrymir yw £20, er efallai y bydd rhai graddedigion yn dymuno rhoi mwy, a byddai’r Gymdeithas yn ddiolchgar iawn am hyn. 

    Button: Gofyn am ffurflen Orchymyn Sefydlog Link to lampeteralumni@uwtsd.ac.uk Second CTA (maybe another button): Gwneud rhodd i Gronfa Fwrsariaeth Cymdeithas Llambed

  • Mae Cymdeithas Llambed yn cynhyrchu’r cylchgrawn ‘The Link’ ddwy waith y flwyddyn. 

    Mae’r rheiny sydd wedi gwneud rhodd i’r Gymdeithas yn derbyn copi papur drwy’r post. Gellir gweld y rhifyn diweddaraf yn ddigidol isod. I gyfrannu at y rhifyn diweddaraf, anfonwch eich newyddion at y golygydd

  • Os oes gennych gwestiynau am aelodaeth neu weithgareddau, cysylltwch â Swyddog Cyn-fyfyrwyr Llambed.

     Neu gallwch gysylltu â Chymdeithas Llambed yn uniongyrchol. Gallwch hefyd ymweld ac ymuno â’r grwpiau Facebook a .