Y Drindod Dewi Sant yn Dathlu Llwyddiannau nodedig myfyrwyr mewn Seremonïau Graddio yng Nghaerfyrddin
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn fwrlwm o gyffro wrth i ddosbarth 2024 ddathlu eu graddio heddiw (8 Gorffennaf) yng Nghanolfan Halliwell ar gampws Caerfyrddin.
Mae’r seremonïau hyn yn deyrnged i waith caled ac ymroddiad y myfyrwyr, gan roi cyfle i gymuned gyfan y Brifysgol anrhydeddu eu cyflawniadau nodedig.
Mynegodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-ganghellor PCYDDS, arwyddocâd yr achlysur: “Mae graddio yn rhoi’r cyfle i ni ddod at ein gilydd fel cymuned academaidd i ddathlu llwyddiant ein graddedigion ac i rannu’r llwyddiant hwnnw gyda theulu. Mae eich addysg wedi bod yn fwy na pharatoad ar gyfer gyrfa; mae’n sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes ac yn ymrwymiad i wneud gwahaniaeth. Mae gennych chi’r potensial i ddefnyddio popeth rydych chi wedi’i ddysgu i gael effaith gadarnhaol ar les ein cymdeithas yn y dyfodol ac ar fywydau pobl eraill. Gallwch fod yn falch iawn o’ch cyflawniadau heddiw. Rydych chi wedi dangos bod gennych chi’r penderfyniad, yr ymrwymiad, a’r gwytnwch i lwyddo.”
Gan ychwanegu at y dathliadau, bydd y Brifysgol yn cyflwyno Gwobrau er Anrhydedd i ddau unigolyn nodedig am eu cyfraniadau eithriadol fel aelodau o Gyngor y Brifysgol. Bydd yr Hybarch Randolph Thomas, cyn Gadeirydd Cyngor y Brifysgol, yn cael ei anrhydeddu â Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Diwinyddiaeth, tra bydd Mrs Maria Stedman, cyn Is-Gadeirydd, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd.
Mae’r dathliadau yn para dau ddiwrnod, gyda seremonïau ar 8 a 9 Gorffennaf, yn nodi achlysur llawen i raddedigion, eu teuluoedd, a chymuned gyfan y Brifysgol.
I’r rhai na allant ddod yn bersonol, mae PCYDDS yn cynnig ffrydio byw o bob seremoni ar wefan y Brifysgol:
• Seremoni 1 (3:00pm, 8 Gorffennaf): https://youtube.com/live/LWYK43kCZUM
• Seremoni 2 (6:00pm, 8 Gorffennaf): https://youtube.com/live/c9YGGQuE9Fk
• Seremoni 3 (10:00am, 9 Gorffennaf):
• Seremoni 4 (2:00pm, 9 Gorffennaf):
Ymunwch â ni i ddathlu taith a llwyddiant anhygoel dosbarth PCYDDS 2024!
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467076