ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae rhaglen BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o gydweithio â Chlwb Ffilm Caerfyrddin, Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin a Theatrau Sir Gâr i gyflwyno’r dangosiad cyntaf yng Nghymru o’r ffilm Scopophobia.

Poster ar gyfer ffilm sy'n cynnwys pobl sy'n edrych yn ofn

I’w sgrinio ar 7fed Medi yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, mae  yn ffilm arswyd iasol a gyfarwyddwyd gan y gwneuthurwr ffilmiau o Gaerfyrddin, Aled Owen. Bu Aled yn astudio yn Ysgol Gelf Coleg Sir Gâr cyn mynychu ysgol ffilm yn Leeds, ac yn ddiweddarach aeth ymlaen i sefydlu cwmni cynhyrchu ffilmiau, Melyn Pictures.

Mae’r ffilm yn adrodd stori afaelgar pedair merch sydd, wrth geisio adfer arian wedi’i ddwyn o ffatri wag, yn cael eu cloi y tu mewn a’u cwrso. Mae’r union gyfrinachau sy’n eu rhwymo gyda’i gilydd yn fuan yn troi’n rym sy’n bygwth eu rhwygo ar wahân. 

Gyda llawer o’r ffilm wedi’i ffilmio yng Nghaerfyrddin, mae Scopophobia nid yn unig yn arddangos awyrgylch unigryw’r rhanbarth ond hefyd ei doniau cartref. Mae’n cynnwys cast a chriw sydd i raddau helaeth yn lleol, gan gynnwys un o raddedigion y Drindod Dewi Sant, Katrina Seaton fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol, a astudiodd BA Gwneud Ffilmiau ar ein campws yng Nghaerfyrddin, gan raddio yn 2022. 

Fel cyfarwyddwr ac awdur y ffilm, mynegodd Aled ei gyffro am y première gan ddweud: “Fe ddechreuon ni gynhyrchu ein ffilm nodwedd gyntaf Scopophobia ym mis Mawrth 2022. Gwnaethom ddefnyddio’r deunydd ffilm hwn i godi’r arian ar gyfer dau gyfnod saethu arall ym mis Hydref 2022 a Mawrth 2023, er mwyn cwblhau’r ffilm.” Bydd yn bresennol yn y dangosiad cyntaf i gyflwyno’r ffilm a rhoi cipolwg ar y broses o’i chreu.

Gwnaeth Dr Brett Aggersberg, Rheolwr Rhaglen BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol ac aelod o bwyllgor Clwb Ffilm Caerfyrddin, ganmol y digwyddiad, gan ddweud: “Mae’r dangosiad hwn yn ddathliad gwych o’r doniau lleol sy’n cyfrannu at y diwydiant ffilm. Gan mai dyma fydd première y ffilm yng Nghymru, mae’n gyfle unigryw i’r clwb ffilm a’r gymuned leol fod y cyntaf i wylio’r ffilm, gyda’r bobl a’i gwnaeth. Mae’n rhoi boddhad mawr bod un o’n graddedigion yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol ar y cynhyrchiad hwn, gan ddangos cyfraniad y Brifysgol i’r diwydiant ffilm.”

Yn dilyn y sgrinio, gwahoddir mynychwyr i berfformiad byw o drac sain atgofus y ffilm yn Cwrw ar Stryd y Brenin, Caerfyrddin, fel y gellir parhau i ymgolli ym mhrofiad y noson.

Mae tocynnau ar gyfer y première ar gael nawr ar wefan .


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon