ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ailgadarnhau ei rôl ganolog yn brif ddarparwr cymwysterau a hyfforddiant addysg a gofal blynyddoedd cynnar, yn lleol yng Nghymru ac ar raddfa ryngwladol. 

two children playing

Gwelwyd tystiolaeth yn ddiweddar o’r arweinyddiaeth hon wrth i Natalie Macdonald gyfrannu safbwynt Cymru i broffil y gweithlu Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yn y DU yn y rhifyn diweddaraf o’r adroddiad Systems of Early Childhood Education and Professionalism in Europe (SEEPRO-3).

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys manylion y gweithlu addysg a gofal plentyndod cynnar ar draws 33 o wledydd, gan gydnabod pwysigrwydd y gweithlu hwnnw. Mae SEEPRO-3 yn cynnwys Proffiliau a Data Cyd-destunol Allweddol y gweithlu addysg a gofal plentyndod cynnar ar gyfer pob un o’r 33 o wledydd.  

Mae arweinyddiaeth Natalie Macdonald wrth ddarparu diweddariad Cymru i broffil gweithlu’r DU, ynghyd â’i hadolygiad o ddata cyd-destunol allweddol, yn dangos ei harbenigedd a’i hymroddiad i symud y sector blynyddoedd cynnar yn ei flaen.

Hi yw Cyfarwyddwr Rhaglen y radd hyblyg, llwybr carlam arloesol mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, ac mae  wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod cannoedd o fyfyrwyr yn graddio ar draws campysau’r Drindod Dewi Sant yng Nghymru ac yn Birmingham.  Mae Natalie hefyd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Ddisgyblaeth Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg, gyda rôl allweddol yn datblygu cyfleoedd ymchwil a hyfforddiant newydd i uwchsgilio a datblygu proffesiynoldeb y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys casgliad arloesol o becynnau hyfforddi yn gysylltiedig â rôl yr oedolyn wrth i blant ifanc archwilio, dangos chwilfrydedd a datblygu cysyniadau.

Meddai Natalie:

“Fel tîm blynyddoedd cynnar, rydym yn angerddol ynglŷn ag arddangos a chefnogi’r gweithlu addysg plentyndod cynnar yng Nghymru a thu hwnt. Mae bod yn rhan o brosiect SEEPRO-3 yn caniatáu i ni sicrhau bod gweithlu blynyddoedd cynnar Cymru a datblygiadau’r sector yn cael eu cynnwys ar lwyfan rhyngwladol.

“Yn y Drindod Dewi Sant, mae ein cyrsiau wedi’u llunio i gefnogi datblygiad personol a phroffesiynol y gweithwyr addysg a gofal proffesiynol trwy ystod o opsiynau hyblyg. Mae hyn yn cynnwys astudio gyda’r nos er mwyn gallu dysgu a gweithio ar yr un pryd ac ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig.  Rydym hefyd yn defnyddio ein hymchwil ein hunain sy’n gysylltiedig â pholisi ac arfer i sicrhau ein bod yn gallu datblygu cyfleoedd hyfforddi arloesol a sicrhau bod ein rhaglenni gradd yn gyfredol ac yn cefnogi cyfleoedd a heriau i’r gweithlu blynyddoedd cynnar.

Meddai’r Darlithydd a Thiwtor Derbyn Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod Dewi Sant, Dr Glenda Tinney:

“Mae hyn yn newyddion gwych ac yn amlygu’r arbenigedd sylweddol yn y Drindod Dewi Sant o ran addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Mae hefyd yn amlygu arweinyddiaeth ac arbenigedd ymchwil sylweddol Natalie yn y sector. Mae’r Drindod Dewi Sant yn arwain y gwaith o ddarparu rhaglenni datblygu ar gyfer gweithlu’r sector yng Nghymru drwy ein graddau hyblyg gyda’r nos, darpariaeth yn ystod y dydd, a phecynnau hyfforddi arloesol, ac felly roedd Natalie mewn sefyllfa dda i arwain cyfraniad Cymru o fewn Adroddiad SEEPRO.”

Gellir gweld Adroddiad SEEPRO trwy’r ddolen isod:

 

I ddysgu rhagor am y ddarpariaeth addysgol yn y Drindod Dewi Sant, ystyriwch fynychu noson agored a gynhelir yn fuan:

Israddedig

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar - Nosweithiau Agored Ar-lein| Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)

Ô-徱

MA/Doethuriaeth Broffesiynol mewn Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned - Digwyddiad Gwybodaeth Ar-lein  | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant  David (uwtsd.ac.uk)

Ar gyfer ymholiadau pellach neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â g.tinney@uwtsd.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau