Theatr y Torch yn cyflogi Graddedigion PCYDDS ar gyfer y tymor sydd i ddod
Mae graddedigion o garfan 2023 y cwrs BA Dylunio Set a Chynhyrchu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cael eu cyflogi gan Theatr y Torch yn Aberdaugleddau ar gyfer y tymor sydd i ddod.
Ers blynyddoedd lawer mae’r adran Dylunio Set a Chynhyrchu yn y Brifysgol wedi meithrin perthynas wych â Theatr y Torch yn Aberdaugleddau, sy’n darparu profiad gwaith a lleoliadau ar gyfer myfyrwyr cyfredol. Maes o law mae’r profiadau hyn yn troi’n gyfleoedd gwaith i raddedigion.
Mae George White wedi bod yn gweithio yn Theatr y Torch fel adeiladydd set a thechnegydd. Ar y cychwyn roedd ar daith yn gweithio ar eu cynhyrchiad diweddar ‘Carwyn’ a bellach mae wedi dychwelyd i’r theatr i ddechrau gweithio ar eu pantomeim sydd ar ddod sef ‘Beauty and the Beast’. Meddai:
“Fe wnes i ganolbwyntio yn fy nhrydedd flwyddyn ar adeiladu set a goleuo ac mae wir yn bleser mynd yn syth i mewn i waith ble rwy’n gallu mwynhau gweithio ar fy nau arbenigedd. Daeth yr anogaeth i ymgeisio am y swydd yn y Torch trwy fy narlithydd, Dave Atkinson. Fe wnaeth e fy ysbrydoli i ddilyn fy uchelgais i weithio ar draws dau faes arbenigedd (adeiladu set a goleuo) a thrwy ei arweiniad ef cefais y profiad priodol i gael yr hyder i gamu yn syth i mewn i waith.”
Cynigiwyd y rôl o reolwr llwyfan cynorthwyol yn y theatr i Beth Elsbury ar ddiwedd ei blwyddyn olaf yn fyfyriwr yn y Drindod Dewi Sant, tra roedd yn teithio yno gyda’i chynhyrchiad blwyddyn olaf. Ychwanegodd:
“Mae’r sgiliau a addysgwyd i mi yn cael eu rhoi ar waith; mae ein trydedd flwyddyn o sioeau go iawn wir wedi fy mharatoi ar gyfer yr hyn i’w ddisgwyl yn y diwydiant. Mae gweithio gyda Theatr y Torch wedi bod yn brofiad gwych hyd yn hyn. Mae’n braf gallu rhoi’r hyn rwy wedi’i ddysgu ar waith gan ddysgu rhagor ar hyd y ffordd ar brosiect o’r maint hwn. Rwy’n falch i fod yn rhan o gynhyrchiad mor fawr lle rwy wedi cwrdd â chynifer o bobl dalentog a chroesawgar ac rwy wir yn edrych ymlaen at gychwyn ar dymor y Pantomeim.”
Mae Rebecca Evans hefyd yn gweithio yn y theatr fel rheolwr llwyfan cynorthwyol, ac mae’n ddiolchgar am y gefnogaeth mae wedi’i chael gan ei darlithwyr.
“Diolch i’m darlithwyr, Dave a Stacey, cefais y profiad nid yn unig o astudio yn y diwydiant ond hefyd o weithio ynddo. Mae’r cysylltiadau a’r lleoliadau hyn yn y diwydiant wedi fy ngalluogi i fod yn barod i ddechrau fy swydd gyntaf ar ôl graddio, yn gweithio yn Theatr y Torch. Mae’r tîm wedi bod yn groesawgar iawn, ac rwy eisoes yn edrych ymlaen at weithio ar dymor y pantomeim sydd ar ddod. Fodd bynnag, fyddwn i ddim wedi gallu ei wneud heb fy nghymheiriaid a’m darlithwyr. Mae’r cyfleoedd am brofiad gwaith a gyflwynwyd drwy ein holl flynyddoedd yn astudio wedi bod o gymorth mawr.”
Pan oedd Laurie Peric ar ddechrau ei thrydedd flwyddyn yn y Drindod Dewi Sant, derbyniodd y gwahoddiad yn ddiolchgar i fynd ar leoliad gwaith i Theatr y Torch fel artist golygfeydd. A hithau’n dod o gefndir ym maes crefft fel myfyriwr aeddfed ac yn uwchsgilio i fyd y theatr, teimlai ei bod yn bwysig adeiladu ar ei chryfderau. Canfu Laurie fod cydbwyso ei hastudiaethau a gweithio mewn amgylchedd proffesiynol ond yn bosibl oherwydd yr hyfforddiant a gafodd ar y cwrs.
“Yn dilyn fy lleoliad, gofynnwyd i mi fynd yn ôl i’r Troch drwy gydol y flwyddyn, i weithio ar brosiectau allanol ar gyfer cwmnïau fel Theatr Na Nog ar eu sioeau teithiol. Rhoddodd hyn gyfle i mi weithio gyda dylunwyr eraill wnaeth gryfhau fy hyder a’m dealltwriaeth o’m rôl. Sioe fewnol Theatr y Torch yr hydref hwn yw’r cynhyrchiad o Private lives gan Noel Coward, gyda’r set wedi’i dylunio gan Kevin Jenkins a minnau eto’n Artist Golygfeydd. Mae’r canlyniad wedi bod yn llwyddiant ysgubol i’r cwmni ac yn gyfle gwych i mi i ychwanegu at fy mhortffolio. Mae tîm darlithwyr fy nghwrs, hyd yn oed ar ôl i mi raddio, wedi rhoi cefnogaeth barhaus i mi trwy ddarparu gofod gwaith ar y campws i weithio mewn partneriaeth ar brosiectau gyda’r Torch, neu trwy fod yr ochr arall i’r ffôn os oes angen. Y cyfan gallaf i ei ddweud yw fy mod wedi bod ar daith wych hyd yn hyn, a chofiwch dydych chi byth yn rhy hen i ddilyn eich breuddwydion.”
Meddai Dave Atkinson, darlithydd y cwrs Dylunio Set a Chynhyrchu yn y Drindod Dewi Sant:
“Mae gennym berthynas waith hirsefydlog gyda Theatr y Torch. Nid yn unig maent yn gweithio i safon uchel, ond bob blwyddyn maent yn croesawu graddedigion i gyflawni eu swydd gyntaf. Mae ein cwrs Dylunio Set a Chynhyrchu bob amser yn esblygu i gyd-fynd â gofynion y diwydiant sy’n golygu ein bod yn creu ymarferwyr aml-ddoniog sy’n barod am waith. Mae ein rheolwyr llwyfan yn gallu gwneud propiau a gwisgoedd, a’u hatgyweirio, mae ein hadeiladwyr set yn gwybod sut i rigio offer goleuo ac ati, sy’n golygu bod ein graddedigion amryddawn yn fedrus ac yn gyflogadwy.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476