Sut mae gradd-brentisiaethau yn y Drindod Dewi Sant yn gyrru economi sgiliau sy’n seiliedig ar wybodaeth
Dewisodd Daniel Watts astudio Gradd-brentisiaeth mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ei fod eisiau datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth oedd eu hangen arno i gamu ymlaen yn ei yrfa yng Nghanolfan Dechnoleg Sony Europe B.V. UK.
Ar hyn o bryd mae Daniel yn ei flwyddyn gyntaf ac mae eisoes wedi cael dyrchafiad i’w swydd bresennol fel peiriannydd awtomeiddio.
“Mae gallu dysgu gan ddarlithwyr sydd â chyfoeth o wybodaeth am y diwydiant, ac sy’n rhannu’r wybodaeth honno gan ddefnyddio enghreifftiau o’r byd go iawn y gall myfyrwyr uniaethu â nhw, hefyd yn rhywbeth wnaeth fy nenu,” meddai.
“Gyda fy mhrofiad gwaith a gyda chymorth y radd-brentisiaeth, rwy wedi gallu symud i swydd newydd, sy’n seiliedig ar ddylunio, lle rydw i bellach yn rheoli fy mhrosiectau fy hun ac yn dylunio offer profi ac awtomataidd newydd i’w cynhyrchu.”
Mae stori Daniel yn un o nifer mae’r Brifysgol yn ei rhannu fel rhan o’r Wythnos Brentisiaethau, sy’n dathlu gwerth prentisiaid i gyflogwyr a dysgwyr ledled Cymru.
Mae gan Brifysgol Cymry Y Drindod Dewi Sant Raglen Brentisiaethau hynod lwyddiannus, a luniwyd mewn partneriaeth â busnesau yng Nghymru, sy’n darparu ansawdd gwych, y llwybrau sgiliau cywir, a’r lefel briodol o gymorth i helpu i sicrhau gwydnwch economaidd.
Gall pob cyflogwr yng Nghymru, waeth beth fo’u maint a’u sector, gael mynediad a chymryd rhan yn y Rhaglen Brentisiaethau sy’n cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel i unrhyw un dros 16 oed i sbarduno economi sy’n seiliedig ar wybodaeth a sgiliau: gan ganiatáu i gyflogwyr a’u gweithwyr gyflawni eu potensial llawn.
Mae prentisiaid yn treulio 20% o’u hamser gweithio mewn hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith; mae hyn yn cynnwys diwrnodau astudio rheolaidd neu gyfnodau bloc yn y brifysgol, diwrnodau hyfforddi arbennig neu weithdai.
Meddai Bridget Moseley, Pennaeth Uned Brentisiaethau’r Drindod Dewi Sant: “Trwy gynnig prentisiaethau, mae busnesau nid yn unig yn gallu cryfhau eu busnes gyda ffrwd o dalent ond maent yn rhoi’r sgiliau cywir i weithluoedd y dyfodol i sicrhau bod Cymru’n parhau’n gystadleuol ar lefel fyd-eang.
“Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr, rydyn ni wedi datblygu ein portffolio o brentisiaethau i fodloni anghenion a blaenoriaethau Cymru.”
Mae Samantha John, sydd newydd gael dyrchafiad i fod yn Rheolwr Gwybodaeth a Chynnwys yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn defnyddio’i sgiliau o’i Gradd-brentisiaeth Ddigidol yn y Drindod Dewi Sant i helpu i siapio a thrawsnewid gofal iechyd ar gyfer cleifion.
Meddai: “Mae’r radd-brentisiaeth ddigidol wedi darparu cymaint o gyfleoedd i mi o ran fy ngyrfa. Mae wedi rhoi’r hyder i mi i wneud cais am swyddi newydd yn y GIG ac wedi addysgu nifer o sgiliau newydd i mi. Rwy hefyd yn teimlo bod y cwrs hwn wedi gwella fy hyder ar lefel bersonol.”
Mae Rhys Treharne yn Brentis TG gydag LSN Diffusion Ltd, busnes bach a chanolig blaengar yn y maes gweithgynhyrchu sy’n gwneud powdwr sodro metelig ar gyfer marchnad fyd-eang.
Meddai: “Trwy’r brentisiaeth hon rwy’n cael nifer fawr o gyfleoedd. Mae’n caniatáu i mi gael profiad gwaith, ennill incwm ac astudio cwrs israddedig yn y Brifysgol. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau a gaf ar y cynllun prentisiaeth yn drosglwyddadwy iawn o fewn y diwydiant gweithgynhyrchu yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol a datblygiadau mewn awtomeiddio.”
Meddai Deborah Rees, Rheolwr AD yn LSN Diffusion Ltd: Mae’r wybodaeth a’r hyn mae Rhys wedi dod ar ei draws yn sgil ei gynllun prentisiaeth wedi ategu ei ymroddiad a’i ymrwymiad i’w waith, ac mae ar y trywydd iawn i fod yn weithiwr proffesiynol medrus iawn ym maes TG.”
Mae Faith Over yn Arweinydd Gwelliant Parhaus yn Eaton ac yn astudio am BEng mewn Systemau Gweithgynhyrchu.
Meddai: “Pan ddechreuais fy swydd mewn cyfleuster gweithgynhyrchu, roeddwn yn ei chael yn anodd dilyn rhai sgyrsiau. Ers dechrau ar raglen y Radd-brentisiaeth, mae cael 87% yn fy arholiad cyntaf wedi fy helpu i sylweddoli fy mod i’n fwy na galluog o gyflawni. Rydw i bellach yn ehangu fy ngwybodaeth ac yn arwain sgyrsiau yr oeddwn i ar un adeg yn pryderu ynghylch cymryd rhan ynddynt hyd yn oed.”
Cyflwynodd Samuel Jackson nifer o atebion digidol arloesol i Adran Gwasanaethau Digidol Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn ystod ei brentisiaeth.
“Byddwn yn argymell llwybr y Radd-brentisiaeth Ddigidol yn llwyr”, meddai. “Hoffwn weld mwy o ymwybyddiaeth ohono fel opsiwn yn syth o’r ysgol. Nid opsiwn amgen ydyw yn fy marn i – credaf ei fod lawn cystal â chwrs prifysgol amser llawn. Erbyn i mi orffen fy mhrentisiaeth, bydd gennyf bedair i bum mlynedd o brofiad a gradd. Pan ystyriwch y cydbwysedd rhwng profiad a chymhwyster, ni allwn ei argymell ddigon.”
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn darparu Gradd-brentisiaethau yn y meysydd canlynol:
- Arbenigwr Archaeolegol (L7)
- Rheolaeth Seiberddiogelwch
- Gwyddor Data
- Peirianneg Meddalwedd
- Cyfrifiadura Cwmwl
- Datblygu Meddalwedd Cwmwl
- Peirianneg Drydanol ac Electronig
- Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch
- Rheolaeth Peirianneg
- Gwyddor Defnyddiau
- Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu
- Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu
- Peirianneg Fecanyddol
- Prentisiaeth Broffesiynol OME
Gradd-brentisiaethau Uwch
- Rheolaeth Adeiladu (L5)
- Arolygu Meintiau (L5)
- Technegydd OME (L4)
- Crefftwr Gwydr Lliw (L4)
Mae Academi Golau Glas PCYDDS yn cyd-ddarparu Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, mae’r rhaglen wedi’i chyflwyno i dros 1200 o swyddogion heddlu newydd.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071