"Rwy'n barod i fynd allan i'r diwydiant a gwneud enw i mi fy hun."
Er bod Maisie Bidwell bob amser wedi cael ei hannog i beidio â dilyn gyrfa greadigol, gwnaeth ei hangerdd ei harwain at y rhaglen BA Dylunio a Chynhyrchu Set yn y Drindod Dewi Sant. Wrth iddi raddio yr wythnos hon, bydd yn derbyn gwobr Bwrsariaeth y Celfyddydau Perfformio ac mae ganddi bellach agwedd newydd at addysg a’i dyfodol.
Mae Maisie wastad wedi bod â dawn greadigol, ond trwy gydol ei haddysg, ni chafodd ei hannog erioed i gymryd ei chreadigrwydd o ddifrif. Ar ôl gadael yr ysgol, symudodd yn syth i waith llawn amser, gan feddwl nad oedd prifysgol yn opsiwn iddi.
Daeth trobwynt pan wynebodd Maisie heriau personol a phroffesiynol sylweddol. Dywedodd: “Pan gollais fy swydd a dod â pherthynas hirdymor i ben, penderfynais fy mod am i’m bywyd gymryd trywydd gwahanol.”
Arweiniodd y foment dyngedfennol hon hi i archwilio’r Drindod Dewi Sant lle darganfu’r cwrs BA Dylunio a Chynhyrchu Set. Gwnaeth y cwrs daro tant yn syth â’i chariad at theatr, ffilm a theledu. Yn sicr o’i dewis, dim ond i’r Drindod Dewi Sant y gwnaeth Maisie gais.
Mae ei hamser yn y brifysgol hon wedi bod yn llawn uchafbwyntiau a chyflawniadau ac un o’i phrofiadau mwyaf cofiadwy oedd gweithio ar byped trawiadol y ddraig ar gyfer Shrek the Musical. Mae hi’n trysori’n arbennig ei hamser yn gweithio gydag Opera Ieuenctid Caerfyrddin fel pypedwr ac artist colur, a arweiniodd at ddyfarnu Gwobr fawreddog y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol iddi hi a’i chyd-fyfyrwyr.
Roedd ei rôl fel dylunydd gwisgoedd ar gyfer cynyrchiadau byw eraill, lle wnaeth hi gydweithio â myfyrwyr o’r cwrs Actio, yn cadarnhau ymhellach ei brwdfrydedd dros ddylunio gwisgoedd. Dywedodd: “Roedd gweithio ar ‘The Visit’ yn caniatáu i mi archwilio cymeriadau trwy wisgoedd, a rhoddodd ‘The Admirable Crichton’ y cyfle i mi archwilio gwisgoedd cyfnod a’r defnydd o logi gwisgoedd.”
Gwnaeth Maisie elwa ar gyfleoedd i weithio gyda chwmnïau nodedig y diwydiant, gan gynnwys Boom Cymru ar ddrama’r BBC, Men Up, ac Adran Gwisgoedd Teithiol Opera Cenedlaethol Cymru. Roedd y profiadau hyn yn caniatáu iddi adeiladu cysylltiadau gwerthfawr a chael mewnwelediad i’r diwydiant, gan ei pharatoi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.
Gwnaed ei thaith yn fwy cadarnhaol fyth gyda chefnogaeth a charedigrwydd ffrindiau, teulu a’i darlithwyr. Fe wnaeth staff cymorth y Brifysgol hefyd ei helpu wrth iddi gael diagnosis o ddyslecsia, gan ei pharatoi ar gyfer y gwaith oedd o’i blaen a chaniatáu iddi ffynnu. Cadarnhaodd y gefnogaeth a dderbyniodd mai i’r Drindod Dewi Sant yr oedd hi’n perthyn.
Mae profiad Maisie yn y Drindod Dewi Sant wedi bod yn drawsnewidiol, gan newid ei safbwynt ar addysg a’i dyfodol. Dywedodd: “Rwyf wedi cyflawni mwy nag yr oeddwn erioed wedi meddwl y byddai’n bosibl. Mae’r cwrs hwn wedi fy ngwthio’n barhaus, ac rwyf wedi teimlo fy mod wedi cael fy meithrin yr holl ffordd.”
Wrth iddi raddio, bydd Maisie yn derbyn gwobr Celfyddydau Perfformio (cyfrwng Saesneg) y Brifysgol ac mae’n teimlo’n hyderus ac yn barod i wneud ei marc yn y diwydiant. Meddai: “Mae gen i gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol. Rwy’n barod i fynd allan a gwneud enw i mi fy hun. Mae’r cwrs hwn wedi dysgu’r holl sgiliau sydd eu hangen arnaf; nawr y cyfan sy’n rhaid i mi ei wneud yw mynd allan a phrofi y gallaf fod yn llwyddiannus.”
Wedi’i henwebu gan ei darlithydd, Stacey-Jo Atkinson, dywedodd: “Trwy gydol ei chyfnod yn y Brifysgol, mae Maisie wedi bod yn fyfyrwraig ymroddedig sy’n cyflawni’n uchel. Mae hi wedi bachu ar bob cyfle sydd wedi dod iddi ac wedi datblygu ei sgiliau a’i brand personol.
“Mae’r radd Dylunio a Chynhyrchu Set yn cael ei gyrru gan ddiwydiant gydag ymrwymiad i’r myfyrwyr, gan eu gwthio a’u paratoi i ddarganfod eu hangerdd er mwyn iddynt allu dilyn gyrfa yn y diwydiannau creadigol.
“Llongyfarchiadau i Maisie a dymunwn bob lwc iddi yn ei hymdrechion yn y dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;+447482256996